Sgwrs:Asturias

Latest comment: 5 o flynyddoedd yn ôl by Adda'r Yw in topic Sillafiad yr enw

Sillafiad yr enw golygu

Mae Cath (Defnyddiwr:Cathigalesa), sy'n siarad Astwrieg yn rhugl, yn defnyddio'r sillafiad 'Asturies' yn hytrach nag 'Asturias', ac os cofiaf yn iawn 'Awstwrias' oedd sillafiad Sion Jobbins (cywira fi os dw i'n anghywir!) Felly dw i'n meddwl fod angen trafodaeth ynglyn a'r sillafiad Cymraeg. Fel man cychwyn, mi wna i nodi beth sydd gan y geiriaduron i'w ddweud:

Gwefannau a llyfrau:

Sillafiad yn ôl ynganiad yr IPA: asˈtuɾjes hy 'Astwries' (gweler [:en:Asturias].

Be ydy eich barn? Ei gadw fel ag y mae neu newid? Llywelyn2000 (sgwrs) 07:53, 8 Ebrill 2018 (UTC)Ateb

Bore da, nid bod fi'n rhugl yn yr iaith, dal i wella! Ond yn ceisio cysondeb yn y tudalennau Cymraeg. Asturies yw'r enw yn Astwrieg. Os ydym ni'n defnyddio enwau trefi yn yr iaith, oni ddylem ni ddefnyddio enw'r rhanbarth ymreolaethol hefyd? Sylwadau yma gan Defnyddiwr:Cathigalesa 8 Ebril 2018.
Haia Cath! Ydyn nhw'n dweud yr 'e' fel 'e' hefyd? Ydy'r 'u' yn 'u' fel 'uwd' o siarad yn ffonetig, neu yn 'w' fel 'cwl'? Wyt ti felly'n awgrymu 'Astwries' neu 'Asturies'? Diolch! Sian EJ (sgwrs) 20:51, 8 Ebrill 2018 (UTC)Ateb
haia Sian. Ydyn maen nhw'n ynganu e fel e. Ac u fel w. Fel os ysgrifennu yn Gymraeg, cytunaf gyda rhoi Astwries. Ond os ydym ni am ddefnyddio enwau llefydd Astwrieg, Asturies. Ond p'un?
Diolch Cath! O ran enwi gwledydd, mi rydan ni wastad wedi ceisio mynd am y fersiwn frodorol, a'i droi'n ffonetig. Ond dydw i ddim yn cofion gwneud hynny gydag enwau trefi. I fod yn gyson gyda'r gwledydd / rhanbarthau ymreolaethol eraill ar cywici, yna cynigiaf ein bod yn defnyddio'r sillafiad Astwries. Plis dwedwch os ydych yn cytuno / anghytuno, tra bod y prosiect yn mynd o nerth i nerth. Diolch! Llywelyn2000 (sgwrs) 05:15, 10 Ebrill 2018 (UTC).Ateb
I fod yn gyson, rwy'n credu dylid defnyddio'r sillafiad yn yr iaith frodorol, gan ofyn am ffeil iaith gan frodor o'i ynganiad. (Ac o ynganiad enw pob tref sy'n cael ei grybwyll fel rhan o'r prosiect). Mae'r gwaith gwnaed gan Wici Môn yn yr Eisteddfod ar ynganu enw trefi / pentrefi Cymru yn un dylid ei ledaeni i ieithoedd eraill AlwynapHuw (sgwrs) 06:33, 19 Ebrill 2018 (UTC)Ateb
@AlwynapHuw: Mae'r ddalen yma a'r ddolen i'r drafodaethau (gweler diwedd y frawddeg gynatf) yn gosod polisi ar gyfer gwledydd. Y cestiwn ydy, felly - yden ni'n derbyn fod Asturias yn wlad neu'n rhanbarth. Os gwlad, yna ein rheol ydy dilyn Geiriadur yr Academi ac os nad yw yn y geiriadur hwnnw yna'r iaith frodorol amdani, gan roi sillafiad ffonetig, Cymraeg. Os mai rhanbarth yw Asturias, yna yr iaith frodorol amdani. O ran yr ynganiad - dw i'n meddwl y dylem dderbyn yr ynganiad sydd gan Cath uchod, sef 'Ydyn maen nhw'n ynganu e fel e. Ac u fel w. Felly, os ysgrifennu yn Gymraeg, cytunaf gyda rhoi Astwries.' Gwlad neu Ranbarth?! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:24, 20 Ebrill 2018 (UTC)Ateb
Astwries felly (fersiwn ffonetig/Cymreigiad) ynteu Asturies, sef sillafiad yr Aswriaid (sylwadau Cath, uchod)? Llywelyn2000 (sgwrs) 07:41, 8 Gorffennaf 2018 (UTC)Ateb
Y broblem efo fersiwn ffonetig ydy: a ydym yn greu fersiwn ffonetig o gam ynganiad Saesneg?. Dydy Cymreigio ymgais gwael ffonetig Saesneg dim yn tycio. Hyd clywed rhywun o'r wlad yn ynganu'r enw, er mwyn ymgeisio ei drawslythrynu'n ffoneteg (cam cyntaf) i'r Gymraeg; gwell gennyf byddid cadw'r sillafiad brodorol. Does 'mond angen wrando ar Wales Today i glywed sut mae pobl di-gymraeg yn focha efo enwau Cymreig; a byddem yn bodlon pe bai gwledydd eraill yn derbyn y fath ffoneteg fel cynsail ar gyfer eu erthyglau hwy am lefydd yng Nghymru? AlwynapHuw (sgwrs) 09:22, 8 Gorffennaf 2018 (UTC)Ateb
Asturies felly? Llywelyn2000 (sgwrs) 05:20, 14 Medi 2018 (UTC)Ateb
Cytuno gydag Asturies. —Adda'r Yw (sgwrscyfraniadau) 01:49, 28 Chwefror 2019 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Asturias".