Sgwrs:Cannu rhefrol

Latest comment: 7 o flynyddoedd yn ôl by Llywelyn2000

Sori! Digwydd taro ar draws yr erthygl ar Y Wici Saesneg https://en.wikipedia.org/wiki/Anal_bleaching a meddwl wel dyma erthygl sydd angen ei gyfieithu i'r Gymraeg.

Wedi penderfynu peidio defnyddio'r delweddau ar yr erthygl Gymraeg - hyn a hyn o ddewrder sydd gan ddyn wrth gyfieithu o ddiwylliant i ddiwylliant yn hytrach nag o iaith i iaith :-)

Oes angen nodyn gwahaniaeth parthed Canu cynulleidfaol!? AlwynapHuw (sgwrs) 06:10, 27 Rhagfyr 2014 (UTC)Ateb

@Llywelyn2000: Mi fyddai'n braf pe bai defnyddwyr y fain yn cadw eu dadleuon moesol i'w parth hwy o Wikipedia a chaniatáu i ddefnyddwyr y Gymraeg i benderfynu ar weddustra lluniau yn ein parth bach ni!
It would be appreciated if users of Wikipedia from other language groups refrained from migrating their moral flame wars from other user languages to cy, we are quite capable of making our own moral judgements about what is acceptable within our own language & culture. Thanks! AlwynapHuw (sgwrs) 06:20, 17 Awst 2016 (UTC)Ateb
Ers cychwyn Wicipedia, ni chaniateir sensoriaeth o fath yn y byd. Yr unig eithriad i hyn, hyd y gwelaf, ydy os oes dau air tebyg - ac fel rwyt yn ei awgrymu, efallai y dylid rhoi nodyn bach i wahaniaethu yma. Gellir hefyd naill ai peidio a rhoi'r llun ar frig y ddalen, neu ei 'guddio', gyda botwm 'dangos' ee Gwneud comando. Gan mai ti gychwynodd yr erthygl, gen ti mae'r dewis. A mi rwyt yn llygad dy le o ran hawliau cywici - rhydd i ni ein barn a'i lafar, a boed i ni barhau'n rhydd ac annibynol ein barn, chwedl Waldo. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:41, 17 Awst 2016 (UTC)Ateb
Un o'r pethau sy'n mynd dan fy nghroen ar BBC i-Player a'u tebyg yw gorfod rhoi clec ar ddolen are you over 18? i wylio ambell raglen. Fel mae'n digwydd rwyf wedi bod dros fy neunaw am ddegawdau, ysywaeth. Ond o gofio'n nol i las ieuenctid, byddwn wedi pwyso'r botwm YES i gwestiwn o'r fath pe na bai'n wir! Ffug guddio, o'r un fath, yw'r cwestiwn ar Gwneud comando mae'n begera ei hagor, ac yn fwy nwydus yn ei guddio na'i ddatgelu. I ddychwelyd i'r pwnc dan sylw - gan fod y geiriau "cannu" a "rhefrol" yn eiriau dieithr i'r mwyafrif o ddefnyddwyr y Gymraeg, rwy'n credu bod y llun yn ategu at yr erthygl ac yn haeddu ei lle. AlwynapHuw (sgwrs) 07:13, 17 Awst 2016 (UTC)Ateb
Mae'n cydfynd a'n harferiad o beidio a sensro. Llywelyn2000 (sgwrs) 10:04, 19 Awst 2016 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Cannu rhefrol".