Sgwrs:Crucywel
Sylw diweddaraf: 12 o flynyddoedd yn ôl gan Ben Bore
Mae'r erthygl hon yn rhan o WiciBrosiect Cymru, prosiect cydweithredol ar Gymru. Os ydych am gyfrannu, ewch i hafan y prosect, ymunwch â'r drafodaeth a chewch restr o bethau sydd angen eu gwneud. Ychwanegwch y nodyn hwn i unrhyw dudalen sy'n ymwneud â Chymru neu Gymry. |
Crucywel neu Crughywel? Deb 18:23, 10 Mai 2004 (UTC)
- Mae Gŵgl yn hoffi'r ddau. (478 Crucywel; 296 Crughywel). Am nawr, beth am roi ail-gyfeiriad o Crughywel i Crucywel, a gofyn am bleidleisiau yma? -- Gareth Wyn 18:41, 10 Mai 2004 (UTC)
- Crughywel yw sillafiad swyddogol yn ôl Cyngor y Sir. Gweler hefyd y canlyniadau google hyn --
- Crucywel "Sir Powys" -wikipedia : 60
- Crughywel "Sir Powys" -wikipedia : 291
- -- Jac-y-do 12:05, 28 Ionawr 2007 (UTC)
- Crucywel ydy'r sillafiad yn Rhestr o Enwau Lleoedd (1967) â baratowyd gan Bwyllgor Iaith a Llenyddiaeth Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru (Gol. Elwyn Davies). Cymrodor (sgwrs) 07:08, 13 Mai 2012 (UTC)
- Diddorol! Dw i newydd agor "Dictionary of the Place-names of Wales gan Hywel Wyn Owen a Richard Morgan (Gwasg Gomer, diweddariad 2008, ISBN 9781843239017) a does dim sôn am Crughywel!!! Y tro cyntaf i'r gair gael ei sgwennu ydy yn 1263 a mi roedd yna "h" yn y sillafiad "Crikhoel". Yr enw Cymraeg mae nhw'n ei roi ydy 'Crugywel, yn union fel rydych yn ei grybwyll. Mae nhw'n dweud, "Hywel has not been positively identified." Y ddadl felly ydy: pa sillafiad a ddylem ei fabwysiadu? Y Cyngor Sir (Crughywel) neu'r gwybodusion (Crucywel). Llywelyn2000 (sgwrs) 07:22, 13 Mai 2012 (UTC)
- I gymhlethu pethau ymhellach, mae Y llyfr enw: Enwau'r Wlad gan D. Geraint Lewis (Gwasg Gomer, 2007) yn cynnig Crucywel a Crug Hywel.--Ben Bore (sgwrs) 08:14, 14 Mai 2012 (UTC)