Sgwrs:Custos Rotulorum Ceredigion

Latest comment: 9 o flynyddoedd yn ôl by AlwynapHuw in topic Enw'r sir


Enw'r sir golygu

Gan fod hyn yn enw swyddogol swydd ac mai 'Sir Aberteifi'/Cardiganshire oedd enw'r sir yn y cyfnod hwnnw oni ddylai hyn gael ei symud i Custos Rotulorum Sir Aberteifi? Anatiomaros (sgwrs) 02:24, 21 Ionawr 2015 (UTC)Ateb

Dyna'r arferiad; felly dw i'n cytuno a thi! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:01, 21 Ionawr 2015 (UTC)Ateb
Cwestiwn diddorol! A oedd gan y 13 sir enwau "Cymraeg Swyddogol" neu jest arferiad y wasg oedd galw Carnarvonshire yn Sir Gaernarfon? Poen yn y part ôl yw chwilio mewn llyfr am Cynan a chanfod cyfeiriad gweler Jones, A mantais y we yw gallu ailgyfeirio yn unionsyth; gan hynny doedd y pennawd ddim yn bwysig imi wrth ddechrau'r dudalen - dim ond y cynnwys, ac os oes modd dod at y cynnwys sdim ots gen i am y pennawd. Ond (gweler y sgwrs am Gadair Idris) mae pobl leol yn gallu bod yn biwis am enwau llefydd - gan hynny ymofynned barn trigolion Sir Aberteifi / Ceredigion cyn creu reol! AlwynapHuw (sgwrs) 01:00, 22 Ionawr 2015 (UTC)Ateb
Rwyt ti'n iawn mai'r cynnwys sy'n bwysig, Alwyn, a diolch i ti am dy lafur ar yr erthyglau hyn. Ac rwyt ti'n iawn i ddweud nad oedd yr enwau Cymraeg yn enwau swyddogol hefyd, wrth gwrs, gan fod ein hiaith heb statws o gwbl yn y cyfnod dan sylw, ac eto gan fod teitlau y swyddogion hyn yn cynnwys enwau'r hen siroedd (yn Saesneg) mae'n rhesymol eu cyfieithu felly i'r Gymraeg, dwi'n meddwl (dwi ddim yn bleidiol i'r hen siroedd - heb sôn am y drefn Seisnig a'u creodd! - felly nid mater o farn bersonol ydyw ond cwestiwn o ddulliau gwyddoniadurol).
Yn ogystal â'r pwynt am Geredigion, mae anghysondeb yn yr enwau eraill fel y maent (gan anwybyddu'r siroedd sy'n bodoli o hyd - dim problem fan 'na): Sir Frycheiniog (yn lle Brycheiniog), Sir Gaernarfon ('Arfon' i lawer ar lafar ac mewn llyfrau, er yn anghywir felly), Sir Faesyfed (Maesyfed), Sir Feirionnydd (Meirionnydd), Môn (sy'n 'Sir Fôn' i lawer o hyd), Morgannwg (Sir Forgannwg), Sir Drefaldwyn (Maldwyn).
Fel rwyt ti'n dweud, y cynnwys sy'n bwysig ond dylai'r enwau ddilyn trefn gyson hefyd. Anatiomaros (sgwrs) 01:36, 22 Ionawr 2015 (UTC)Ateb

Pan oeddwn yn blentyn ysgol, blynyddoedd maith yn ôl, clywais ddadl danbaid rhwng dau athro parthed Meirion: A'i "Cyngor" Sir Feirionnydd ydoedd neu "Cyngor Sir" Meirionnydd? (neu fel arall, o bosib). Hwyl i blentyn ysgol gweld athrawon yn cwffio, dryswch i efrydydd y Gymraeg ail iaith! Custost Ceredigion neu Custos Sir Aberteifi s'dim ots gennyf - yr unig gwestiwn yw - pe baech yn ysgrifennu erthygl annibynnol am unigolyn gan sôn am ei wasanaeth fel Custos, Siryf, Rhaglaw, AS ac ati a byddwch yn ddweud iddo wasanaethu fel gwas dinesig yng Ngheredigion neu ar gyfer Sir Aberteifi? Ac os oes dolen rhwng Siryf Sir Aberteifi a Siryf Ceredigion be di'r ots? AlwynapHuw (sgwrs) 07:07, 24 Ionawr 2015 (UTC)Ateb

Nôl i'r dudalen "Custos Rotulorum Ceredigion".