Sgwrs:Norofirws

Latest comment: 6 blynedd yn ôl by Deri Tomos

@Llywelyn2000, AlwynapHuw: Mae GIG Cymru yn defnyddio'r term Norofeirws. Ydych chi'n meddwl dyle ni cadw at y Saesneg neu symud yr erthygl yma i Norofeirws? Diolch!Jason.nlw (sgwrs) 12:03, 13 Rhagfyr 2017 (UTC)Ateb

Mae angen datrys firws/feirws gynta. Firws/Firysau sydd yn nhermau addysg ond feirws/feirysau yn BydTermCymru a felly dogfennau llywodraethol. Mae GIG Cymru yn defnyddio'r ddau fersiwn. --Dafyddt (sgwrs) 14:57, 13 Rhagfyr 2017 (UTC)Ateb
Mae'r Termiadur addysg wedi golygu yn diweddar fi'n credu felly bydda' i'n meddwl mae Firws/Firysau sydd yn well? Jason.nlw (sgwrs) 16:08, 13 Rhagfyr 2017 (UTC)Ateb
Waeth pa un gen i - cyn belled a bod cysondeb; os cofiaf yn iawn roedd Deri Tomos yn ffafrio 'firws' ychydig yn ol. @Deri Tomos: - Llywelyn2000 (sgwrs) 17:12, 13 Rhagfyr 2017 (UTC)Ateb
Felly 'Norofirws' - neu gadw e fel mae am nawr? Jason.nlw (sgwrs) 09:31, 14 Rhagfyr 2017 (UTC)Ateb
Rwy'n dal i ffafrio 'firws' yn gryf, ac yn falch weld fod Uned Iaith Bangor yn ei gymeradwyo. Ceisio, yn ddiangen, dilyn ynganiad Saesneg (y de-ddwyrain) fodern yw'r 'e' yma, fel mewn sawl lle arall. (Da gweld, hefyd, eu bod hwy (a Cysill) yn defnyddio 'micro' yn gyson bellach. Dim meicrobioleg a meicrosgop. Roedd y 'Bruce' weithiau yn cynnig y ddwy - ee f(e)irws.) Rhaid cyfaddef bod dylanwad ynganiad Almaeneg yn bwysig i mi, hefyd. Yn achlysur virus, diddorol darganfod mai trwy'r Saesneg Ganol y daeth yr ystyr fodern. Mae fy ngreddf yn dweud y byddai ynganiad hwn yn agosach i'r Almaeneg. Ond well imi beidio crwydro yn rhy bell o'm maes arbenigedd !--Deri (sgwrs) 20:34, 14 Rhagfyr 2017 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Norofirws".