Sgwrs:Orgraff y Gymraeg
Sylw diweddaraf: 1 mis yn ôl gan Craigysgafn ym mhwnc Dad-wneud yr uno
Mae'r erthygl hon yn rhan o WiciBrosiect Cymru, prosiect cydweithredol ar Gymru. Os ydych am gyfrannu, ewch i hafan y prosect, ymunwch â'r drafodaeth a chewch restr o bethau sydd angen eu gwneud. Ychwanegwch y nodyn hwn i unrhyw dudalen sy'n ymwneud â Chymru neu Gymry. |
Dad-wneud yr uno
golygu@Xxglennxx lle oedd y drafodaeth am ddileu Yr wyddor Gymraeg? Mae dau bwnc ar wahân yn fy marn i - cynnig gwahanu ac ehangu. Orgraff - hanes rheolau sillafu, perthynas rhwng synau a llythrennau, dyblu'r n ac ati. Yr wyddor - enwau'r llythrennau, trefn yr wyddor, ydy j a z yn cyfri ac yn y blaen. Llygad Ebrill (sgwrs) 20:50, 21 Hydref 2024 (UTC)
- @Llygadebrill: Rwy'n cytuno. Ar wahân i unrhyw broblem arall, mae tua 70 o dudalennau sy'n cysylltu ag Yr wyddor Gymraeg, felly rwyf wedi adfer yr hen erthygl. Mae'r ddau bwnc hyn yn haeddu eu herthyglau eu hunain. Mae peth dyblygu yn anochel, ond bydd angen i ni feddwl pa wybodaeth ddylai fynd i ba le. Craigysgafn (sgwrs) 21:19, 21 Hydref 2024 (UTC)
- Diolch! Llygad Ebrill (sgwrs) 13:08, 22 Hydref 2024 (UTC)
- Shwmae, @Craigysgafn a @Llygadebrill. Meddwl am eu cyfuno roeddwn i, gan fod yr wyddor yn rhan o orgraff iaith. Nid oeddwn yn meddwl bod angen erthyglau ar wahân, ond os hoffech gael y ddwy, diolch am ei hadfer. -- Xxglennxx (sgw. • cyf.) 15:26, 22 Hydref 2024 (UTC)
- Henffych, @Xxglennxx:. Bid siŵr, mae'r wyddor yn elfen ganolog o sillafu, ond mae yna lawer mwy i'r pwnc na'r wyddor. Yn y pen draw, dylai "Orgraff y Gymraeg" gynnwys sgwrs am bethau fel (1) sillafu yn y cyfnod canoloesol, (2) arwyddion ac acenion, (3) rheoli am ddyblu "n" ac "r", ayyb. Gadewch inni weithio gyda'n gilydd i wella'r erthygl! Craigysgafn (sgwrs) 15:41, 22 Hydref 2024 (UTC)