Sgwrs:Románsh

Latest comment: 10 o flynyddoedd yn ôl by Llywelyn2000 in topic Enw'r iaith

Enw'r iaith golygu

O ble daeth enw'r iaith yn yr erthygl? Nid ffurf Gymraeg yw hon yn wreiddol, ac alla i ddim dod o hyd iddi mewn unrhyw iaith arall:

brodorol: rumantsch, rumauntsch, romontsch, rumàntsch

Saesneg: Romansh (neu Romansch, Rumantsch, Romanche)

Almaeneg: Bündnerromanisch (Rätoromanisch, Romanisch')

Ffrangeg: romanche

Eidaleg: romancio

Mae gan Eiriadur yr Academi y ffurfiau Rheto-Romaneg, (yr iaith) Románsh (a Ladineg, sy'n iaith wahanol).

Románsh neu ryw ffurf arni (Rwmánsh?) amdani?

Llusiduonbach (sgwrs) 21:17, 22 Ebrill 2014 (UTC)Ateb

Cytuno â Románsh. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 20:22, 23 Ebrill 2014 (UTC)Ateb
Mae nhw eu hunain yn defnyddio'r 'u' mewn un sillafiad o'u hiaith; a dylai ynganiad yr iaith wreiddiol fod yn un o'n prif ystyriaethau ni. Sylwer ar wici'r iaith: Rumauntsch. Ond, dylem hefyd ystyried ffactorau fel y ffurf yng Ngeiriadur yr Academi. Cytuno. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:01, 24 Ebrill 2014 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Románsh".