Sgwrs:Y Gofid Mawr (COVID-19) yng Nghymru
Mae'r erthygl hon yn rhan o WiciBrosiect Cymru, prosiect cydweithredol ar Gymru. Os ydych am gyfrannu, ewch i hafan y prosect, ymunwch â'r drafodaeth a chewch restr o bethau sydd angen eu gwneud. Ychwanegwch y nodyn hwn i unrhyw dudalen sy'n ymwneud â Chymru neu Gymry. |
Untitled
golyguFe all yr erthygl yma naill ai fod yn grynodeb o'r prif ddigwyddiadau neu'n gofnod llawn. Efallai fod angen y ddau: y crynodeb yn gynatf, a'r cofnod llawn yn dilyn? Neu dwy erthygl wahanol. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:45, 15 Ebrill 2020 (UTC)
- Mae'n ymddangos i mi fod yr erthygl yn ddefnyddiol yn ei ffurf bresennol. Ta beth, dyma'r dyddiadur dw i'n dal i ddod yn ôl ato. Yn y cyflwr rhyfedd rydyn ni'n byw ynddo ar hyn o bryd, mae'n ddefnyddiol atgoffa fy hun pryd y digwyddodd y digwyddiad hwn neu pryd y pasiwyd y pwynt hwnnw. Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu. --Craigysgafn (sgwrs) 08:37, 15 Ebrill 2020 (UTC)
- Fi just wedi bod yn ychwanegu gwybodaeth o amserlen ar BBC Cymru Fyw [1] gan ddilyn y fformat rhoddwyd o blaen. Rwy'n cytuno gyda ti, mae'r erthygl yma yn ddefnyddiol i weld yr holl ddyddiadur. Dwi'n credu mai'n dda hefyd i weld fe yn y fformat yma gyda linciau i erthyglau newyddion, sy'n mynd i mewn i fwy o fanylder. Ond hefyd dwi'n credu bydd yn dda i ysgrifennu erthygl newydd sy'n rhoi crynodeb efallai mewn trefn effaith ar sectorau gwahanol e.e. addysg. Ond yn wir dwi'n credu'r erthygl yma sy'n dangos y crynodeb a gellir enwi fel 'Llinell amser o'r effaith Y Gofid Mawr (GOVID-19) ar Gymru rhwng Rhagfyr 2019- Presennol.' Gelli'r ychwanegu graffiau a tablau at y ddwy erthygl. Cwmcafit (sgwrs) 12:19, 15 Ebrill 2020 (UTC)
- Gret; mi adawn hi fel y mae, felly. Ac fel ti'n dweud, Cwmcafit, gallwn greu fforch bob yn hyn a hyn ee mi faswn wrth dy modd pe bawn yn medru cel db i greu graff o farwolaethau dydiol, a'i gymharu gyda dau neu dri o wledydd erill ee yr Eidal. Llywelyn2000 (sgwrs) 13:59, 15 Ebrill 2020 (UTC)
- Cytuno fod angen y ddau beth - crynodeb o'r prif ddigwyddiadau ar y dudalen hon a chofnod swmpus ar dudalen newydd ee Llinell amser o'r Cofid Mawr yng Nghymru. Gyda llaw dydw i heb ddod ar draws y term 'Y Gofid Mawr ar unrhyw wefan arall. Celtica (sgwrs) 15:51, 14 Mai 2020 (UTC)
- Ma' Gofid Mawr yn enw unigryw iawn a dwi'n ei hoffi! Mae'r arwyddocâd i'r ansoddair Gofid yn glir. Ac mae Gwalia Media yn ei ddefnyddio. [2] Cwmcafit (sgwrs) 20:08, 14 Mai 2020 (UTC)
- Cytuno fod angen y ddau beth - crynodeb o'r prif ddigwyddiadau ar y dudalen hon a chofnod swmpus ar dudalen newydd ee Llinell amser o'r Cofid Mawr yng Nghymru. Gyda llaw dydw i heb ddod ar draws y term 'Y Gofid Mawr ar unrhyw wefan arall. Celtica (sgwrs) 15:51, 14 Mai 2020 (UTC)
- Gret; mi adawn hi fel y mae, felly. Ac fel ti'n dweud, Cwmcafit, gallwn greu fforch bob yn hyn a hyn ee mi faswn wrth dy modd pe bawn yn medru cel db i greu graff o farwolaethau dydiol, a'i gymharu gyda dau neu dri o wledydd erill ee yr Eidal. Llywelyn2000 (sgwrs) 13:59, 15 Ebrill 2020 (UTC)
- Fi just wedi bod yn ychwanegu gwybodaeth o amserlen ar BBC Cymru Fyw [1] gan ddilyn y fformat rhoddwyd o blaen. Rwy'n cytuno gyda ti, mae'r erthygl yma yn ddefnyddiol i weld yr holl ddyddiadur. Dwi'n credu mai'n dda hefyd i weld fe yn y fformat yma gyda linciau i erthyglau newyddion, sy'n mynd i mewn i fwy o fanylder. Ond hefyd dwi'n credu bydd yn dda i ysgrifennu erthygl newydd sy'n rhoi crynodeb efallai mewn trefn effaith ar sectorau gwahanol e.e. addysg. Ond yn wir dwi'n credu'r erthygl yma sy'n dangos y crynodeb a gellir enwi fel 'Llinell amser o'r effaith Y Gofid Mawr (GOVID-19) ar Gymru rhwng Rhagfyr 2019- Presennol.' Gelli'r ychwanegu graffiau a tablau at y ddwy erthygl. Cwmcafit (sgwrs) 12:19, 15 Ebrill 2020 (UTC)
Dyma fy awgrymiadau ar sut i ail-drefnu'r dudalen yma:
- 1. Ail-ysgrifennu'r cyflwyniad i fod yn fwy cyffredinol a dileu gwybodaeth gyda dyddiadau sydd nawr yn hen newyddion - gellir symud y wybodaeth i'r linell amser os nad yw yno'n barod.
- 2. Fe alla'i rhoi y crynodeb ystadegau o Nifer yr achosion o'r Gofid Mawr (COVID-19) yng Nghymru mewn i Nodyn a chynnwys hwn wedi'r cyflwyniad yn hytrach na'r graff.
- 3. Yr adran gyntaf i fod yn 'Linell Amser', gyda dolen i brif erthygl (newydd) sydd yn cynnwys yr holl gofnodion. Awgrym teitl 'Amserlen y Gofid Mawr (COVID-19) yng Nghymru'. Wedyn cael crynodeb o'r linell amser gyda un neu ddau paragraff ar gyfer pob mis.
- 4. Ail adran i fod yn 'Ymateb' neu 'Ymateb gwleidyddol', sydd yn cynnwys manylion am yr ysbytai maes (gweler enwiki), ac efallai cynnwys yr adrannau am diffyg offer a profion - er mae'r adrannau yma yn rhy benodol i gyfnod penodol ac mae pethau wedi newid mor gyflym fel nad ydyn nhw'n berthnasol rhagor. Efallai bo nhw'n well yn y linell amser gyda gair yn y grynodeb.
- 5. Y drydedd adran i fod yn 'Ystadegau' gyda cyflwyniad byr a dolen i'r brif erthygl sef y dudalen ystadegau. Awgrymu ail-enwi'r dudalen 'Nifer yr achosion' yn 'Ystadegau y Gofid Mawr yng Nghymru' --Dafyddt (sgwrs) 18:25, 14 Mai 2020 (UTC)
- Cytunaf bod angen creu'r tudalen yma yn un 'slimeline' fel petai. Ac un newydd gyda'r amserlen llawn. Mi fydd yr tudalen yma yn rhoi blas ar y prif straeon dros y cyfnod. Dwi'n cytuno gyda rhoi 'ymateb gwleidyddol'. Efallai awgrym yw creu adranau penodol i effeithiau ar wahanol bethau e.e. addysg. Ond yr peth yw gyda hwnnw yw bydd ni'n colli'r elfen o llinell amser (ond drwy creu tudalen newydd mi fyddwn yn cadw'r elfen yma).Cwmcafit (sgwrs) 20:08, 14 Mai 2020 (UTC)
Poblogi'r tudalen gyda lluniau
golyguAmser roeddwn yn diweddaru'r tudalen heddiw roeddwn yn sylwi bod yr erthygl yn edrych yn weddol lwm ar faint o luniau sydd arno. Felly bydd yn syniad da i boblogi'r tudalen gyda lluniau yn ymwneud a'r firws a'r effaith a'r Gymru. Bydd hyn yn gwneud yr erthygl yn un cynhwysfawr fel cofnod o'r digwyddiadau a'r effaith. Cwmcafit (sgwrs) 17:17, 25 Ebrill 2020 (UTC)
Marwolaethau yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol
golyguShwmae, gwnes i graff o'r marwolaethau yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar y tudalen Saesneg (en:COVID-19 pandemic in Wales#ONS excess mortality data). Ydy'r graff yn defnyddiol ar y tudalen Cymraeg? (sori...dysgwr dw i!) Pilchard (sgwrs) 01:29, 11 Mehefin 2020 (UTC)
- @Pilchard: Licio'r graff! Yr excess yw'r ffordd mwyaf cywir o roi amcangyfrif o nifer y marwolaethau, ac mae hwn yn dangos hynny, o ddydd i ddydd. Yr unig beth ar goll, efallai, yw'r ffigwr crynhous hwnnw, sef cyfanswm marwolaethau eleni, minws cyfanswm y llynedd. Ia, plis ychwanega'r graff! '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 05:52, 11 Mehefin 2020 (UTC)
- Diolch, dw i wedi ychwanegu'r graff ar y tudalen ystadegau. Dylai rhywun sy'n gallu siarad Cymraeg yn well na fi ysgrifennu'r dysgrifiad! Pilchard (sgwrs) 19:32, 11 Mehefin 2020 (UTC)
teitl anaddas
golyguEnw hollol answyddogol yw "Y Gofid Mawr", heb yn ei ddefnyddio'n aml gan y wasg, er enghraifft. Dw i'n awgrymu newid yr enw i COVID-19 yng Nghymru, ond yn nodi bod nifer o bobl yn defnyddio'r enw "y Gofid Mawr" i gyfeirio ato fo. --Dani di Neudo (sgwrs) 10:04, 13 Ionawr 2021 (UTC)