CarinaGolygu

Cytser yn yr wybren ddeheuol yw Carina. Roedd e'r cilbren o'r llong Argo Navis, y llong Jason a'i Argonauts, gyda Vela, yr hwyl, a Puppis, y dec starn. Crëwyd Carina pan wnaeth seryddwr Ffrengig, Nicolas Louis de Lacaille, yn darnio'r cytser i dri yn ddeunawfed ganrif.[1]

Serch y rhaniad, cadwodd Lacaille yr dynodiadau Bayer o Argo Navis. Felly mae'r α, β ac ε gyda Carina, mae'r γ a δ gyda Vela ac mae'r ζ gyda Puppis.

Y gogwydd (declination yn Saesneg) o Carina yw rhwng -50° a -75°, a bod hi'n rhy bell yn y de i weld o Gymru.

SêrGolygu

 
Y cytser Carina fel gwelir gan llygad noeth.

Carina sy'n cynnwys Canopus, seren orgawr wen. Y seren ail disgleiriaf yn yr awyr nos yw hi, gyda maintioli serol -0.72 a phellter 313 blwyddyn golau. Mae'r enw traddodiadol yn dod o'r mordwywr Menelaus, brenin Sparta.[1] Alpha Carinae yw'r dynodiad Bayer.

Seren newidiol amlycaf yn Carina yw Eta Carinae. Mae hi'n pwyso tua 100 màs haul, ac mae hi'n 4 miliwn gwaith mwy disglair na'r Haul. Atynnodd hi sylw yn 1677, pan gododd ei maintioli i 4. Yn 1827 cododd y maintioli i 1, colli lliw i faintioli 1.5 yn 1828. Pan ymfflamychodd Eta Carinae yn 1843, ei maintioli hi yn codi i -1.5, fel Sirius. Ers 1843 mae'r Eta Carinae wedi bod yn ddiddig gyda maintioli rhwng 6.5 a 7.9. Seren ddwbl yw Eta Carinae. Mae cyfnod 5.5 blwyddyn gyda'r cydymaith. Y Homunculus Nebula sy'n amgáu'r ddwy seren. Mae'r nifwl yn cael ei geni yn 1843, pan wnaethon y sêr taflu allan eu nwy.[1]

Mae yna sawl o seren newidiol lai amlwg yn Carina. Seren newidiol Cepheid yw l Carinae. Mae hi'r Cepheid mwyaf disglair bod seren newidiol i'r llygad heb gymorth. Seren orgawr felyn yw hi, gyda maintioli lleiaf o 4.2 a maintioli mwyaf o 3.3. Mae cyfnod 35.5 diwrnod gyda hi.[1]

Mae dwy seren newidiol Mira yn Carina: R Carinae a S Carinae. Sêr gawraidd coch yw'r ddwy. Mae maintioli lleiaf o 10.0 a maintioli mwyaf o 4.3 gyda hi. 309 diwrnod yw ei chyfnod hi, ac mae hi'n 416 blynedd golau o'r Ddaear. Mae'r S Carina yn debyg, gyda maintioli lleiaf o 10.0 a maintioli mwyaf o 5.5. Fodd bynnag, mae cyfnod byrrach gyda hi, 150 dirwnod, serch mae hi'n llawer mwy pell.

Cartref i sawl seren ddwbl a seren ddeuol yw Carina. Seren ddwbl gyda dwy seren gawraidd glaswen yw Upsilon Carinae. Mae hi'n 1600 blynedd golau o'r Ddaear. Mae maintioli 3.0 gyda'r seren gynradd ac mae maintioli 6.0 gyda'r seren eilaidd. Y ddwy seren sy'n wahanadwy mewn telesgop bach amatur.[1]

Ddwy seroliaeth (asterism yn Saesneg) sy'n amlwg yn Carina. Mae'r Groes Ddiemwnt yn fwy na'r Groes Ddeheuol ond yn llai disglair. Camgymerir y Groes Anwir, seroliaeth arall, yn aml am y Groes Ddeheuol, seroliaeth yn Crux. Mae'r Groes Anwir yn cynnwys Iota Carinae a Episilon Carinae a ddwy seren yn Vela, Kappa Velorum a Delta Velorum.[1]

Gwrthrychau Awyr DwfnGolygu

Gwyddys Carina am ei nifwl cyfenw, NGC 3372,[2]. Darganfuwyd gan seryddwr Ffrengig Nicolas Louis de Lacaille yn 1751, Nifwl allyriad enfawr yw'r Nifwl Carina ac yn cynnwys sawl o nifylau. Mae e'n tua 8,000 blwyddyn golau ffwrdd ac 300 blwyddyn golau lydan gyda bröydd anferth sy'n creu sêr.[3] Mae maintioli cyflawn sydd 8.0[4] a'i ddiamedr ymddangosiadol sydd mwy na dwy radd.[1]

Y Keyhole Nebula, nifwl twll clo, yw'r fro ganolog o'r Nifwl Carina. Rhoddodd John Herschel yr enw i'r fro yn 1847. Y twll clo sydd 7 blwyddyn golau lydan, ac adeiladwyd o atomau Hydrogen wedi'u hïoneiddio, gyda dwy fro amlwg creu sêr.[5]. Y Homunculus Nebula nifwl dynan, sydd nifwl planedol, ac mae e'n weledig i'r llygad noeth. Creodd Eta Carinae y nifwl yn 1840 tra taflodd y seren nwy mewn ffrwydrad.[3] Hefyd yn y Nifwl Carina sydd y Mynydd Mystig, bro nifwl. Tynnodd y Camera Maes Llydan 3 Telesgop Hubble llun o'r fro yn 2010.[6]

Mae e'n rhif mawr o glystyrau agored yn y cytser, oherwydd y Llwybr Llaethog sydd rhedeg trwy Carina. NGC 2516 sydd clwstwr agored eithaf mawr, tua hanner gradd sgwâr, ac yn ddisglair, yn weledig i'r llygad heb gymorth. Mae e'n 1,100 blwyddyn golau o'r Ddaear, ac mae 80 seren gyda fe. Y disgleiriaf sydd seren gawr goch gyda maintioli 5.2. Clwstwr agored arall yw NGC 3114, ond mae e'n fwy pell, 3,000 blwyddyn golau o'r Ddaear. Mae e'n fwy ar chwâl na NGC 2516 ac yn llai disglair. Ei sêr mwyaf disglair sydd tua maintioli chweched. Y clwstwr agored mwyaf amlwg yn Carina yw IC 2602, hefyd enwir y Pleiades Deheuol. Mae e'n cynnwys Theta Carinae gyda sawl o sêr arall yn weledig i'r llygad noeth. Mae 60 seren gyda'r clwstwr hollol. Y Pleiades Deheuol sydd arbennig o fawr fel clwstwr agored, gyda diamedr tua un radd. Fel IC 2602, NGC 3532 sydd weledig i'r llygad heb gymorth ac mae e'n debyg yn faint. Mae 150 seren gyda fe, ac maen nhw'n gwneud siâp fel elips, gydag ardal ganolog dywyll.

Hefyd, mae'r Carina yn cynnwys y clwstwr crwn NGC 2808. Mae e'n weledig i'r llygad noeth.

Un clwstwr galaeth amlwg yw 1E 0657-56 y Bullet Cluster, Clwstwr Bwled.Mae hwn clwstwr yn cael ei enw o'r don sioc gwelir yn y cyfrwng rhwng clystyrau bod ymdebygu'r don sioc o fwled uwchsonig. Meddylir bod y don sioc yn weledig achos y clwstwr galaeth bach yn symud gyda chyflymder 3000-4000 cilometr yr eiliad erbyn y clwstwr galaeth fawr. Dinistrir y clwstwr bach gan y clwstwr mawr trwy ryngweithiad disgyrchol. Bydd e'n cyfuno gyda'r clwstwr mawr o'r diwedd.[7]

MeteorauGolygu

Carina sydd cynnwys y trwyn pelydrol o'r gawod feteor Eta Carinids. Mae hi'n cael at ei phen tua 21 Ionawr bob blwyddyn.

Hanes a MytholegGolygu

Y disgrifiad cyntaf o'r Argo Navis, y llong bod Carina sydd rhan, sydd yn Phaenomena gan Aratus o Soli. Mae e'n disgrifio llong bod yn weledig, dim ond yr hanner starn. Mae'r Aratus yn deud bod y llong yn wysg y cefn fel llong symud mewn harbwr. [8] Pseudo-Eratosthenes sydd yn dweud bod y llong oedd dodwyd yn yr wybren gan Athena, fel y llong gyntaf. [9] Hyginus sydd dweud Argo sydd y llong Jason i fynd ar antur i chwilio'r cnaif aur.[10]

Carina yn cael ei geni, pan wnaeth Lacaille catalog o sêr deheuol o'r Penrhyn Gobaith Da. Tra gweithio, creodd e 14 cytser newydd yn yr awyr ddeheuol, gyda ffiniau newydd i dri chytser yn Argo Navis: Carina, Vela a Puppis. Cyhoeddwyd y catalog yn 1763, ar ôl y farwolaeth o Lacaille yn 1762.

CyfeiriadauGolygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 Ridpath & Tirion 2001, tt. 104–106.
  2. Levy 2005, t. 100.
  3. 3.0 3.1 Wilkins & Dunn 2006, t. 220.
  4. Levy 2005, t. 101.
  5. Wilkins & Dunn 2006, t. 218.
  6. HubbleSite 2010.
  7. Wilkins & Dunn 2006, t. 472-3.
  8. Kidd 1997, t. 99 & 311.
  9. Condos 1997, t. 39.
  10. Condos 1997, t. 40.


  • Condos, Theony (1997). Star Myths of the Greeks and Romans: A Sourcebook. Phanos. ISBN 1-890482-93-5.CS1 maint: ref=harv (link)
  • Makemson, Maud Worcester (1941). The Morning Star Rises: an account of Polynesian astronomy. Yale University Press.CS1 maint: ref=harv (link)
  • Ridpath, Ian; Tirion, Wil (2001). Stars and Planets Guide. Princeton University Press. ISBN 978-0-691-08913-3.CS1 maint: ref=harv (link)
  • Wilkins, Jamie; Dunn, Robert (2006). 300 Astronomical Objects: A Visual Reference to the Universe (arg. 1st). Buffalo, New York: Firefly Books. ISBN 978-1-55407-175-3.CS1 maint: ref=harv (link)

Dolenni allanolGolygu

  Cyfryngau perthnasol Carina (constellation) ar Gomin Wicimedia