Sgwrs Defnyddiwr:Bonheddwr/Myfanwy Davies
Pam fod hwn wedi cael ei wneud fel tudalen amheus a bod yr holl destun wedi'i ddileu? Mae'r testun wedi cael ei dderbyn yn Saesneg (Union yr un peth) a dwi wedi danfon prawf i ddangos bod caniatad i ddefnyddio'r testun o dudalen Myfanwy Davies. Oes angen danfon ebost arall atoch chi?? Yn wahanol i'r fersiwn Saesneg, nid oes unrhyw fanylion cyswllt, felly dwi ddim yn siwr os bydd unrhyw un hyd yn oed yn darllen hwn?
- Gweler Wicipedia:Tudalennau amheus am drafodaeth. Hoffem glywed eich barn chwi. Dwi ddim yn deall "Oes angen danfon ebost arall atoch chi?" At bwy? Mae'r hyn a wneir ac a benderfynir ar y Wicipedia Saesneg yn fater iddyn nhw. Rhoddwyd yr erthygl yn y categori "tudalennau amheus" am i un o'r gweinyddwyr ddarganfod fod y testun yn dod o wefan Myfanwy Hughes ac ni chaniateir hynny fel rheol, am resymau digon amlwg. Dim byd yn erbyn yr ymgeisydd, ond mater o bolisi. Codwyd amheuon am amlygrwydd hefyd (gweler ein canllaw: Wicipedia:Amlygrwydd). Anatiomaros 21:41, 10 Mawrth 2010 (UTC)
- Y linell berthnasol, efallai, yn Wicipedia:Amlygrwydd ydy: Yn achos pobl neu faterion cyfoes, ei fod/bod yn ddigon adnabyddus i gael cyfeiriadau ato/ati yn y wasg a'r cyfryngau. Mi fydd yr etholiad yn ei gwneud hi'n adnabyddus, ac mae'n rhaid i ni wynebu fod yr etholiad nemor chydig wythnosau i ffwrdd. Felly, rydan ni yma yn y chweched dosbarth yn cytuno iddi gael erthygl, a dylid rhoi erthygl i unrhyw ddarpar ymgeisydd arall sy'n ddigon hirben i greu un ar Wici Cym. Croeso Hedd a Myfanwy! Ysgol Rhiwabon 08:16, 11 Mawrth 2010 (UTC)
- Dydw i ddim yn credu fod amlygrwydd yn broblem yma; mae unrhyw ymgeisydd seneddol dros un o'r prif bleidiau yn ddigon amlwg. Yr hawl i ddefnyddio'r testun oedd y prif gwestiwn. Rhion 08:37, 11 Mawrth 2010 (UTC)
- Fi ddecrheuodd ar y tocio. Mater o farn ydy'r pwynt amlygrywdd - ar un llaw tydw i ddim yn meddwl bod hi'n berson amlwg ofnadwy, ond ar y llaw arall, o ran record hanesyddol, efallai byddai o ddiddordeb i bobl edrych yn ôl a gweld pwy fu'n sefyll yn yr etholiad a nid dim ond pwy enillodd (Nid awgrymu mai nid Myfanwy fydd yn ennill ydw gyda llaw!). O ran cynnwys yr erthygl roedd gyda fi ddau broblem, doedd o ddim yn ddi-duedd o gwbl:
- Ymunodd Myfanwy gyda’r Blaid yn 1989 ar ôl sylweddoli nad oedd gan y Blaid Lafur unrhyw ddiddordeb mewn amddiffyn ein cymunedau rhag gweithredoedd ffiaidd y llywodraethau Torïaidd, tra eu bod nhw'r, Blaid Lafur, yn gallu cymryd pleidleisiau pobl Llanelli yn ganiataol.
- Does dim lle o gwbl i osodiadau fel hyn ar wyddoniadur (a sylwais mohonynt ar yr erthygl Saesneg chwaith o ran hynny).
- Yn ail, roedd yn llawn trifia llwyr am ei theulu - pwy o ddifri sydd a diddorbeb yn y ffaith bod ei brawd yn chwarae rygbi i glwb lleol neu wedi bod ar daith beics yn Ne America?
- Dw i ddim yn gweld dim o'i le ar gael erthygl byr ar ei chyfer, ond nid dyma'r lle i frolio "ymgyrchu llwyddiannus" sy'n gallu bod yn reit penagored. Gwell gadael pethau felly i'w gwefan person ol, a bod dolen ato ar waelod yr erthygl.--Ben Bore 10:05, 11 Mawrth 2010 (UTC)
- Fi ddecrheuodd ar y tocio. Mater o farn ydy'r pwynt amlygrywdd - ar un llaw tydw i ddim yn meddwl bod hi'n berson amlwg ofnadwy, ond ar y llaw arall, o ran record hanesyddol, efallai byddai o ddiddordeb i bobl edrych yn ôl a gweld pwy fu'n sefyll yn yr etholiad a nid dim ond pwy enillodd (Nid awgrymu mai nid Myfanwy fydd yn ennill ydw gyda llaw!). O ran cynnwys yr erthygl roedd gyda fi ddau broblem, doedd o ddim yn ddi-duedd o gwbl:
Diolch am y sylwadau. Pam felly bod y cynnwys wedi ei ddileu yn gyfangwbl yn hytrach na'r cynnwys annerbyniol? Mae ymateb llawdrwm o'r fath yn mynd i droi pobl i ffwrdd o gyfrannu i'r Wicipedia Cymraeg. Rhaid i mi ddweud bod Wikipedia Saesneg ychydig mwy goddefgar! Fe wnaf drio eto, a pheidio cynnwys unrhyw destun nad sy'n niwtral. Hedd Gwynfor 21:53, 11 Mawrth 2010 (UTC)
- Dau bwynt. Dwi ddim yn gweld sut fod pethau fel hyn - "trivia llwyr am ei theulu" chwedl Ben Bore - yn perthyn yma: "Mae ei brawd, Owain wedi chwarae i Glwb Rygbi Crwydriaid Llanelli a Chydweli ac mae’n awr yn gyfreithiwr dan hyfforddiant. Yn ddiweddar, fe wnaeth gwblhau taith seiclo elusennol o Rio i Buenos Aires i godi arian tuag at ymchwil cancr i ddynion. Mae ei chwaer Gwyneth yn arbennigwraig mewn meddyginiaethau'r frest yn Ysbyty Singleton, Abertawe." Erthygl am y person ydyw, ac er bod mymryn o gefndir teuluol perthnasol yn dderbyniol ac yn arferol dwi ddim yn meddwl fod gan hyn le yma. Mae 'na ragor o ddeunydd tebyg hefyd. Rhaid cofio fod hwn yn wyddoniadur. Yr ail bwynt ydyw hyn. Er bod y farn (POV) wedi mynd mae'n dal i ddarllen fel rhywbeth basech chi'n disgwyl gweld ar wefan gwleidydd - ac o fan 'na y daeth, wrth gwrs - h.y. yn llawr rhy "agos atoch" yn lle bod yn traethu ffeithiau yn wrthrychol. Y wers ydyw y dylem ni addasu deunydd yn lle ei gopïo, hyd yn oed os na thorrir hawlfraint (dwi wedi gweld y dudalen Sgwrs ar 'en' felly does dim problem gyda hynny fel y cyfryw). Dwi'n synnu bod yr erthygl Saesneg wedi llwyddo i osgoi cael ei golygu eto i gwrdd â safonau cyffredinol Wikipedia, ond unwaith i rywun sbotio hi mae'n siwr o ddigwydd, felly dydy'r ddadl fod testun yr erthygl Saesneg yn dderbyniol ddim yn dal dŵr, mae gen i ofn. Dwi'n gobeithio 'dwyt ti ddim yn meddwl ein bod yn negyddol, Hedd, ond mae angen cydymffurfio gyda'r safonau. Rhaid i ni fod yn arbennig o ofalus yn achos erthyglau am bobl byw yn gyffredinol ac yn enwedig felly yn achos gwleidyddion (a phleidiau) rhag ofn i ni gael ein cyhuddo o fod yn bleidiol. Anatiomaros 00:44, 12 Mawrth 2010 (UTC)
Diolch am ymateb mor llawn. Dwi'n derbyn yn llwyr fod elfennau o'r fersiwn cychwynnol nad oedd ei angen, ond doeddwn i ddim yn deall pam dileu y cyfan gwbl yn hytrach na'r adrannau tan sylw. Roeddwn yn gweld hyn yn llawdrwm iawn, ac os ydy'r gymuned Wicipedia Cymraeg am weld twf sylweddol, yna dwi'n credu bod angen bod ychydig mwy goddefgar, yn enwedig gyda defnyddwyr cychwynnol. Diolch am eich gwaith. Fe wnaf drio golygu yr erthygl eto heno i'w wneud ychydig yn fwy 'niwtral' Hedd Gwynfor 09:48, 12 Mawrth 2010 (UTC)
- Diolch Hedd. Fel y dywedais, doeddwn i ddim eisiau swnio'n negyddol, 'mond esbonio'r sefyllfa ynglŷn â niwtraliaeth ar Wicipedia. Wnes i ddim golygu'r erthygl o gwbl fy hun, wrth gwrs. Rydym yn ceisio paratoi deunydd cymorth i newydd-ddyfodiaid ond mae'n fater o flaenoriaethau gan fod gymaint o bethau i'w gwneud yma a dim digon o gyfranwyr. Gobeithio bydd pethau'n gwella diolch i waith Rhodri ac eraill. Cafodd yr erthygl ei thrin yn "llawdrwm" achos roedd yn ymddangos fel gwaith "copïo a phastio" heb ganiatâd y wefan ac hefyd am ei fod wedi'i geirio i adlewyrchu safbwynt gwleidyddol yr ymgeisydd a'i phlaid ac felly'n torri ein rheolau. Un o'r pethau mwya anodd i gyfranwyr ydy cyfrannu erthyglau cytbwys ar bynciau a allai fod yn ddadleuol, yn enwedig os oes gennych deimladau cryf yn eu cylch, fel sydd gan y rhan fwyaf ohonom. Nid dyma'r lle i ddatgan fy marn bersonol mai "diawliaid ffasgaidd hiliol" ydy'r BNP, er enghraifft, er y dylai'r ffaith yna fod yn ddigon amlwg i'r darllenwr trwy ddyfynu maniffesto'r "blaid" ei hun! Anatiomaros 22:25, 12 Mawrth 2010 (UTC)
- Mae niwtraliaeth yn bwysig o ran ni - disgyblion blwyddyn 6, ac ysgolion erill. Ond hefyd mae hi'n bwysig i ni gael gwybod am ymgeiswyr seneddol. Pan rydych yn sgwennu, peidiwch a'i wneud yn rhy gymleth os gwelwch yn dda. Ysgol Rhiwabon 14:12, 12 Mawrth 2010 (UTC)
- Roedd clirio'r dudalen i gyd braidd yn llawdrwm, ond dw i ddim yn gyfarwydd o'r sustem OTRS sydd ar y wici Saeseng nac yn gweld beth yw ei bwrpas i ddweud y gwir. Faswn i ddim yn synnu os daw rhywun heibio ar i wiki Saeseng a'i docio, mond efallai nad oes neb wedi sylwi arno eto. Dw i ddim am newid yr erthygl am rwan, ond dyma fyddwn i'n newid a'r rhesymau pam.
- CADW:
- Dyddiad a man geni
- Manylion addysg a waith
- Enw a galwedigaeth ei rheieni
- Faint o frodyr a chwiroydd sydd ganddi, ond ddim eu henwi oni bai eu bod yn adnabyddus
- Dyddiad ymuno a'r blaid (a chfirio at Blaid Cymru fel 'Plaid Cymru', nid 'Y Blaid'), ac unrhyw swyddi o fewn y blaid
- ysgrifenyddes Masnach Deg Llanelli - dangos bod pobl wedi ei hethol/enwebu
- aelod anrhydeddus o sefydliad y Merched Llwynhendy - ditto
- CADW:
- AR GOLL:
- Ydy Myfanwy Myfanwy erioed wedi ei hethol (cyngor lleol/sir, undeb myfyrwyr)?
- Ydy hi wedi bod yn ymgeisydd aflwydianus o'r blaen?
- AR GOLL:
- HEPGOR
- Enw ei thaid a nain oni bai eu bod yn fobl adnabyddus. Tydy'r ffaith bod ei thaid wedi gwneud siwt i rhywun ddim yn dweud dim wrthym am Myfanwy.
- ymgyrchu yn lwyddiannus gyda Jill Evans ASE - stwff i bamffled gwleidyddol
- ymgyrchu yn llwyddiannus hefyd gyda Helen Mary Jones - ditto
- enillodd Myfanwy gefnogaeth genedlaethol gan aelodau cynulliad Plaid Cymru - siawns bod ganddi gefnogaeth plaid ei hun!
- syniadaeth wleidyddol - gwell ar wefan personol/ pamfeld wleidyddol
- ac fe wnaeth hi fodelu yn ddiweddar i galendr arbennig i godi arian i Hosbis Llanelli - oni bai bod hwn yn top-less calendr, dw i ddim yn meddwl bod o'n bwysig iawn i'w nodi
- HEPGOR
- Dw i'n awgrymu'r uchod er mwyn ceisio cadw rhyw fath o gysondeb yn y math o gynnwys ar ei herthyglau, ond hefyd dw i ddim yn meddwl ei fod yn gwneud dim lles i ymgeisydd seneddol os yw'n gwbl amlwg bod erthygl wicipedia amdanynt wedi ei ysgrifennu gan rhywun agos iawn atynt. Hyd yn oed gyda golygu trwm, mae'r un am Leighton Andrews AS ar y Wiki Ssaesneg yn uffernol!--Ben Bore 13:23, 16 Mawrth 2010 (UTC)
(I Hedd Gwynfor - Sori am y Saesneg, Dysgwr ydw i.)
The reason I deleted most of the text was because it looked like a copyvio, and because copyvios are not allowed, they must be removed as soon as they are spotted.
I still think the whole article should be deleted, because she's just a PPC, and the notability for an article about a politician is being an MP, AC or equivalent. This mainly occured to stop all the red links from unelected candidates in the election infoboxes on the constituency pages - e.g. for the new constituency of Arfon, only two candidates are linked to - Alun Pugh, a former AC, and Hywel Williams, a current MP - all the rest are not notable enough. There are a few exceptions, if someone notable for other reasons stands for election - e.g. Garry Bushell standing in 2005.
Future notability: Although plausible to get elected, Electoral Calculus predict that Nia Griffith is almost certain to retain the seat. Of Course, she could stand for the Assembly (presumably not in Llanelli, unless Helen Mary Jones retires), and even if elected, that is will still be more that a year away. Paul-L 14:51, 16 Mawrth 2010 (UTC)
- Roedd ychwanegu hyn i'r erthygl Llanelli (etholaeth seneddol) yn gwbl annerbyniol ac roedd Paul-L yn iawn i'w wrthdroi. Dydy Wicipedia ddim yn blatfform ymgyrchu gwleidyddol. Parthed amlygrwydd, mae'r pwyntiau a godir gan Paul-L yn ddilys hefyd. Os caniateir erthyglau am ymgeiswyr seneddol/cynulliad heb iddynt gwrdd ein gofynion amlygrwydd fel arall, ble mae tynnu'r llinell? Mae'n agor y drws i erthyglau am bob ymgeisydd hyd yn oed os ydyw'r groser lleol yn sefyll ar ran Plaid y Monster Raving Loonies (nid mod i'n cymharu Myfanwy a'i phlaid gyda parti'r Screaming Lord Sutch, wrth gwrs!). Anatiomaros 16:39, 16 Mawrth 2010 (UTC)
- Wedi darllen sylw diweddara Paul, dw i'n dechrau ail-feddwl os yw bod yn ymgeisydd seneddol/Cynulliad ynddoi hun yn ddigon o amlygwyrdd. Hmmm... Hefyd, a plis peidiwch meddwl mod i ar grwsâd gwrth-Plaid Cymru, neu gwrth-ap Gwynfor hyd yn oed, mae erthygl Mabon ap Gwynfor yn disgyn i'r un cetegori. Dychmgaf i hwn gael ei greu pan safodd mewn etholiad (Maeldwyn neu Maesyfed dw i'n credu).--Ben Bore 21:50, 16 Mawrth 2010 (UTC)
Solution
golyguReading on en:, where they have had quite a few PPC articles created, their solution (see here and here) is to re-direct to the constituency in which they are standing. As somebody there points out, the article can be easily re-created, should the PPC become elected [This being especially true for a PPC standing in a safe constituency for their party].
For this article, I propose: Redirecting to Llanelli (etholaeth seneddol) for the duration of the election campaign, and if elected the article can be re-instated and updated. If not elected, it should be created as a subpage of Defnyddiwr:Bonheddwr, so if elected in a future election (fel AC, AS, ASE, etc.), the article can be restored. Being that she's standing in one of Plaid Cymru's main target seats (though needing a 20.5% swing), future election is a distinct possibility. Paul-L 10:58, 14 Ebrill 2010 (UTC)
- Diolch, Paul. That seems an eminently fair and sensible solution. I suggest we do so now to avoid being accused of bias in the run up to the
yawninglooming election. In the case of truly non-notable PPCs who are merely "cannon fodder" or who are standing for a minor party with the article having being created in order to gain publicity - don't think we have had that yet, but who knows... - I'd suggest a redirect for the duration of the election followed by immediate deletion. Anatiomaros 14:26, 14 Ebrill 2010 (UTC) - PS Perhaps we should create a policy page and archive this discussion there? Seems a shame to lose it. Anatiomaros 14:27, 14 Ebrill 2010 (UTC)
- Sounds reasonable, although it's not our place to speculate in advance who's got a fair chance of winning, and who's cannon fodder. I'm sure Defnyddiwr:Bonheddwr/Hedd wouldn't mind if we created a subpage on his account, but will this be the 'done thing' in future? Surprised that Englsih version of this article is still up - I've been watching a (much older) article for an unknown Lib Dem PPC in Wales called Ian Walton, and his article has just been deleted.
- Dylwn ni symud y sgwrs yma i Tudalen Amheus neu i'r Caffi i gael mwy o ymateb?--Ben Bore 08:06, 15 Ebrill 2010 (UTC)
- It might be better to delete non-elected PPCs after an election, because articles can be undeleted, which would be easy to do should the PPC get elected at a future date. Paul-L 19:54, 15 Ebrill 2010 (UTC)
- I was also thinking of transfering this talk to Tudalen Amheus, as mentioned by Ben Bore above. Paul-L 19:54, 15 Ebrill 2010 (UTC)