BrahmsFan
Shwmae, BrahmsFan! Croeso mawr i Wicipedia — y gwyddoniadur rhydd. | Welcome message in English | ||
Diolch am ymuno â Wicipedia ac am eich cyfraniadau diweddaraf — fe obeithiwn y byddwch yn mwynhau cyfrannu yma. | |||
Prosiect amlieithog i greu gwyddoniadur rhydd yw Wicipedia. Fe sefydlwyd y fersiwn gwreiddiol yn Saesneg yn 2001, a'r fersiwn Cymraeg yn 2003, a bellach mae 281,384 erthygl gennym. Rhowch gynnig ar y dolenni defnyddiol isod, a dysgu sut gallwch chi olygu unrhyw erthygl o ganlyniad. A chofiwch — dyfal donc a dyr y garreg. | |||
Y Caffi Tudalen i ofyn cwestiynau ynglŷn â Wicipedia. |
Cymorth Cymorth ynglŷn â defnyddio Wicipedia. | ||
Porth y Gymuned Gwelwch beth sy'n mynd ymlaen a beth sydd angen gwneud yma. |
Golygu ac Arddull Sut i olygu erthygl ac arddull erthyglau. | ||
Hawlfraint Y rheolau hawlfraint yma. |
Cymorth iaith Cymorth gyda'r iaith Gymraeg. | ||
Polisïau a Chanllawiau Rheolau a safonau a dderbynnir gan y gymuned. |
Cwestiynau Cyffredin Y cwestiynau cyffredin a ofynnir gan ddefnyddwyr. | ||
Tiwtorial a'r Ddesg Gyfeirio Dysgu sut i olygu cam wrth gam gyda'r Tiwtorial, a chyflwynwch eich cwestiynau wrth y Ddesg Gyfeirio. |
Y Pum Colofn Egwyddorion sylfaenol y prosiect. | ||
Dyma eich tudalen sgwrs lle gallwch dderbyn negeseuon gan Wicipedwyr eraill. I adael neges i Wicipedwr arall, dylech ysgrifennu ar dudalen sgwrs y defnyddiwr gan glicio ar y cysylltiad iddi, ac wedyn clicio ar y tab "sgwrs".
|
Cofion cynnes, Deb (sgwrs) 15:52, 4 Awst 2021 (UTC)
Norwy
golyguDiolch am gyfrannu at yr erthygl ar Norwy. Dw i'n siŵr bod gen ti wybodaeth gwerthfawr i'w rhannu. Yn anffodus, rwyt ti wedi dileu'r gwybodlen newydd a roddodd Llywelyn2000 ar y tudalen yn 2018 ac wedi rhoi gwybodlen o'r hen fath yn ei lle. Mewn gwirionedd, dylen ni ddefnyddio gwybodlen o'r steil newydd, sy'n tynnu gwybodaeth o Wicidata ac felly'n diweddaru ystadegau ac ati yn awtomatig. Does dim digon o olygyddion yma eto i gadw'r pethau hyn yn gyfredol. Hefyd, mae'n well cadw'r gwybodlenni'n gyson ar draws yr holl wledydd. Ydy'n bosibl iti dynnu'r wybodaeth rwyt ti'n meddwl oedd ar goll o'r gwybodlen fel y bu a'i rhoi yng nghorff yr erthygl? Ac yna adfer y gwybodlen fel yr oedd cyn dy olygiadau? Tipyn o niwsans dw i'n gwybod, ond byddwn i'n gwerthfawrogi hynny. --Craigysgafn (sgwrs) 18:08, 7 Awst 2021 (UTC)