Croeso

golygu
Shwmae, CybJubal! Croeso mawr i Wicipedia — y gwyddoniadur rhydd.   Message in English |   Message en français
Diolch am ymuno â Wicipedia ac am eich cyfraniadau diweddaraf — fe obeithiwn y byddwch yn mwynhau cyfrannu yma.
Prosiect amlieithog i greu gwyddoniadur rhydd yw Wicipedia. Fe sefydlwyd y fersiwn gwreiddiol yn Saesneg yn 2001, a'r fersiwn Cymraeg yn 2003, a bellach mae 281,379 erthygl gennym. Rhowch gynnig ar y dolenni defnyddiol isod, a dysgu sut gallwch chi olygu unrhyw erthygl o ganlyniad. A chofiwch — dyfal donc a dyr y garreg.
 
Y Caffi
Tudalen i ofyn cwestiynau ynglŷn â Wicipedia.
 
Cymorth
Cymorth ynglŷn â defnyddio Wicipedia.
 
Porth y Gymuned
Gwelwch beth sy'n mynd ymlaen a beth
sydd angen gwneud yma.
 
Golygu ac Arddull
Sut i olygu erthygl ac arddull erthyglau.
 
Hawlfraint
Y rheolau hawlfraint yma.
 
Cymorth iaith
Cymorth gyda'r iaith Gymraeg.
 
Polisïau a Chanllawiau
Rheolau a safonau a dderbynnir gan y gymuned.
 
Cwestiynau Cyffredin
Y cwestiynau cyffredin a ofynnir gan ddefnyddwyr.
 
Tiwtorial a'r Ddesg Gyfeirio
Dysgu sut i olygu cam wrth gam gyda'r Tiwtorial,
a chyflwynwch eich cwestiynau wrth y Ddesg Gyfeirio.
 
Y Pum Colofn
Egwyddorion sylfaenol y prosiect.

Dyma eich tudalen sgwrs lle gallwch dderbyn negeseuon gan Wicipedwyr eraill. I adael neges i Wicipedwr arall, dylech ysgrifennu ar dudalen sgwrs y defnyddiwr gan glicio ar y cysylltiad iddi, ac wedyn clicio ar y tab "sgwrs".

Ar ddiwedd y neges mewn tudalennau sgwrs (fel yr un yma), gadewch ~~~~, a bydd y cod yma yn gadael stamp eich enw ac amser gadael y neges. Os ydych am gael cymorth gan weinyddwyr, rhowch y nodyn {{Atsylwgweinyddwr}} ar eich tudalen sgwrs.

Fe obeithiwn y byddwch yn mwynhau cyfrannu yma,
Y Wicipedia Cymraeg


Cofion cynnes, Tangwystl (sgwrs) 07:50, 3 Awst 2024 (UTC)Ateb

Gofal!

golygu

Cym bwyll gyfaill! Mae disgwyl i bob golygydd nodi be mae'n ei wneud yn y ffenast grynhoi, pob tro. Mae dy newidiadau ar yr erthygl DU yn gam nol i'r tywyllwch gan fod yr hen wybodlen yn statig, a data fel poblogaeth yn dyddio mhen dim. Jyst geiryn yn dy glust. Ma'r golygiad hwn yn gamarweiniol. Enw ydy Caeredin yn fama, nid dinas. Mae bron iawn pob un o'th olygiadau [https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Catherine,_Tywysoges_Cymru&action=rollback&from=CybJubal&token=50b5d58359d2bffd86eb77289f3eb55f66d0964f%2B%5C yma yn wallus. Does dim angen ychwanegu 'Tywysog Cymru' ar ol enw'r boi - yr enw ar yr erthygl sydd ei angen 'Y Tywysog William'. Hyn yn wir am weddill y teulu hefyd. Dw i'n ystyried ychwanegu 'Tywysog Cymru' neu 'Dywysoges Cymru' fel rhywbeth cwbwl diangen, ac sy'n codi gwrychyn llawer o Gymry. Llywelyn2000 (sgwrs) 16:08, 29 Awst 2024 (UTC)Ateb

Does dim ffasiwn plaid a 'Gwyrdd'! Y Blaid Werdd yw'r fersiwn byr. Mae hyn yn gwneud i mi feddwl nad wyt yn siarad Cymraeg. Gofal ac egluro pam wyt yn gwneud pob golygiad yn y ffenestr grynodeb os g yn dda. Llywelyn2000 (sgwrs) 16:25, 29 Awst 2024 (UTC)Ateb
Mae'r erthygl JD Vance yn dda. Dw i wedi rhoi'r wybodlen wicidata arni, fel sy'n arferol ar cywici. Y cwbwl oedd angen ei wneud oedd ei chysylltu a'r erthygl Gymraeg yma. Llywelyn2000 (sgwrs) 16:48, 29 Awst 2024 (UTC)Ateb