Sgwrs Defnyddiwr:Ham II/Archif 1

Latest comment: 5 o flynyddoedd yn ôl by Llywelyn2000 in topic Gwerthfawrogiad


Croeso

Croeso i'r Wicipedia Cymraeg! :-) --Okapi 04:01, 6 Chwe 2005 (UTC)

Arlunwyr "Eidaleg"

Diolch am sbotio hyn a chywirio'r categori! Anatiomaros 16:09, 11 Mai 2008 (UTC)


Beth ddylai fod ar y Wicipedia Cymraeg a.y.y.b.

S'mai Ham. Newydd ddarllen dy sylwadau ar dy dudalen sgwrs parthed beth ddylai'r Wicipedia ganolwbyntio arno. Tra dw i'n cytuno dylai'r Wicipedia fod yn ffynhonell o wybodaeth am bethau Cymraeg (ei hanes a llenyddiaeth), rhywbeth sydd ond i'w gael ar wefan y BBC ar hyn o bryd fel ti'n dweud, dw i hefyd yn ei weld yn bwysig cael gwybodaetyh am bopeth dan haul yma hefyd, neu bydd yn rhoi'r argraff i siaradwyr Cymraeg ifanc mai dim ond er mwyn sôn am hen bethau y mae'r Gymraeg o unrhyw werth iddo. Ond dw i hefyd yn cydnabod bydd cymaint o wybodaeth ar yr erthyglau Cymraeg am y mwyafrif llethol o bethau o'u cymharu a'r un Saesneg.

Yn ddiweddar dw i wedi newid swydd ble dw i'n isdeitlo rhaglenni S4C, fel y Tŷ Cymreig, sy'n canolbwyntio ar bensaerniaeth Cymreig (neu yng Nghymru). Mae'n raglen difyr iawn (efallai dy fod yn ei wylio), a dw i'n dod ar draws nifer o bethau diddorol sy'n gwneud i mi fod eisiau ysgrifennu erthyglau yma amdanynt - dyna ysgogodd fi i ysgrifennu am y Mudiad Celf a Chrefft. Er ei fod yn fudiad Americaniaidd a Phrydeinig yn bennaf, fe ddylanwadawyd arno gan/dylanwadodd ar bobl o Gymru ac o dras Cymreig + mae engrhiefftiau ohono yng Nghymru.

Mae llawer o drafod wedi bod yn Y Caffi yn ddiweddar am sut i ddenu mwy o gyfranwyr. Ar y Wikipedia Saesneg mae yna wahanol brosiectau, sy'n help i gydlynnu erthyglau am bwnc arbennig. Dw i ddim yn siwr pa mor ymarferol yw hyn ar y wici Cymraeg gan bod nifer cyfranwyr mor isel, ond sylwaf o dy gyfraniadau dy fod gyda ti ddiddordebau go bendant (celf, pensarniaeth ayyb). Beth wyt ti'n feddwl o'r syniad o greu rhyw fath o WikiProject yma wedi ei selio ar Bensaerniaeth er enghraifft? Byddwn yn crybwyll y peth yn Y Caffi yn gyntaf cyn ei sefydlu, achos byddai rhaid i rhwyun (wel fi, gan mai fy suyniad i ydy o) greu rhyw fath o fframwaith i'r peth a chreu rhai tudalennau arbennig.--Ben Bore 09:43, 8 Awst 2008 (UTC)

Tabl adeiladau Sain Ffagan

Mae'n edrych yn dda, dw i'n synnu braidd nad yw Sain Ffagan eu hunain yn dangoos yr un math o wybodaeth er eu gwefan eu hunain - mond ambell adeilad sy'n cael ei grybwyll arno. Gyda llaw mae erthygl (gyda delwedd) o Eglwys Sant Teilo yn bodoli'n barod, rhag i ti fynd i'r drafferth o lwytho llun dy hunan. Hefyd os oes mwy o rai ar goll, mae modd chwilio gwefan Flickr.com am ddelweddau dan hwlfriant Creative Commons (defnyddia Advanced Search), mae cymiant o luniau o dan y'r enw 'Sain Ffagan' a sydd yna o dan St Fagans' os gofia i'n iawn. --Ben Bore 14:32, 17 Rhagfyr 2008 (UTC)

Hefyd, er efallai bod cyfyngiad lle, ond beth am gynnwys colofn ar gyfer y sir y daeth yr adailad ohono (yn ychwanegol i 'safle gwreiddiol), unai siroedd presenol neu sirooedd traddidiadol (hy cyn 1974) Gelli'r wedyn rhoi optiwn 'sort' i'r golofn. Dim ond syniad.--Ben Bore 14:39, 17 Rhagfyr 2008 (UTC)

Ynglyn a'r materion ar dy Dudalen Defnyddiwr...

Buaswn i'n hoffi gweld y Wicipedia Cymraeg yn arbenigo mwy yn niwylliant Cymreig yn hytrach na chyfieithu erthyglau gair am air o'r fersiwn Saesneg am bethau nad sydd mewn gwrionedd yn berthnasol iawn at Gymru. Petawn ni eisiau darllen am manatees neu The Times, byddai'r mwyafrif ohonom yn troi at ffynhonnell Saesneg yn gyntaf. Does ddim llawer yn Gymraeg am ddiwylliant Cymreig ar y wê oni bai am ar safleoedd y BBC ac ati, felly byddwch chi'n disgwyl i wyddoniadur Cymraeg ar y wê edrych ar bethau mewn golau Cymreig, ond mae'r erthygl Mabinogi, i gymryd un enghraifft, yn rhoi'r un bwyslais i gyfiethiad Charlotte Guest a'r fersiwn Saesneg y mae yntau'n gyfieithiad ohono.

Yn anffodus, dydi fy nghyfraniadau i fy hun, heblaw am ambell i erthygl yn ymwneud â'r brifddinas, ddim yn gwneud llawer i wella'r sefyllfa. Dwi'n ymddiddori yng nghelf yn bennaf, a dwi'n meddwl bod hynny'n dangos yn y ffaith fy mod i'n tueddu creu erthyglau am bethau fel duwiau clasurol ac ati – pethau dwi'n eu hystyried i fod yn etifeddiaeth diwylliannol Ewrop gyfan.

Dw i yn cytuno â ti, ond mae'n debyg bod y Wicipedia Cymraeg yn anorfod yn adlewyrchu diddordeb y cyfranwyr rheolaidd yma ac hefyd y cyfartaledd uchel o ddysgwyr (Diolch amdanynt). Dyfal donc yw hi. Yn raddol bach rwyn credu bod mwy o gyfranwyr sydd a diddordeb yn yr agwedd Gymreig yn cyfrannu ac fel y bydd yn tyfu mae'n siwr bydd hynny yn fwy gwir. Cyfraniadau eraill y mae mawr angen yma hefyd yw deunydd y mae disgyblion ysgol yn debyg o fod yn chwilio amdano ar y we, boed yn Gymreig neu beidio. Dyfrig 00:38, 18 Mehefin 2006 (UTC)
Dwi'n anghytuno'n llwyr! Mae yna lawer gormod o erthyglau am diwylliant, llenyddiaeth a traddodiadau Cymreig yma. Mae yna anghydbwysedd mawr rhwng y nifer o erthyglau fel hyn a'r nifer o erthyglau gwyddonol, ffisegol, a daearyddol! Rwyn astudio Cemeg, Ffiseg, Mathemateg a Daearyddiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer fy lefelau A ac nid oes yna lawer ohonom ni (sy'n mantais i mi ar y foment!). Yn anffodus mae'r erthyglau gwyddonol yma yn denau iawn (dyna pham dwi yma!) ac mae angen i ni ei ehangu. Os yr ydym am i'r iaith Gymraeg oroesi, rhaid i ni allu ceisio cystadlu yn erbyn ieithoedd mawr fel y Saesneg- a trwy llenwi'r bylchau I GYD ar wicipedia gellir wneud hyn. Mae'n syndod faint termau gwyddonol sy'n cyfieithu i'r Gymraeg. Trwy gynyddu'r llenyddiaeth ar y wê, gallwn wneud astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn fwy apelgar ac felly cadw'r iaith i fynd! Sori am golygu eich tudalen ond gwelais sylwad uchod! Dileiwch os yr ydych eisiau!! Hwyl am y tro, Rhys Thomas 21:20, 22 Mawrth 2009 (UTC)
Gobeithio y gwneid di faddau i mi... ond dwi wedi trio tacluso chydig ar hyn drwy symud y sgwrs uchod i'r dudalen Sgwrs! Ynglyn a'r ddadl uchod - mae angen y ddau: diwylliant a stwff byd-eang yn fy marn i... er mwyn ein gwneud yn genedl gyflawn. Llywelyn2000 21:29, 22 Mawrth 2009 (UTC)
O ie- wrth gwrs bod angen y ddau- ond fy mhwynt i yw dylai wicipedia cymraeg ceisio cwmpasu popeth! Mae yna lot o waith i wneud! Sai moin dadl- just eisiau rhoi fy marn!! :) Rhys Thomas 21:32, 22 Mawrth 2009 (UTC)
A dwi'n cytuno gyda'th farn! Gant y cant! Llywelyn2000 21:34, 22 Mawrth 2009 (UTC)

Golygathon Caerdydd 30.6.12

Diolch am gorferstru, a edrychaf ymlaen i gael cwrdd a ti ar y dydd. Gai'n dynnu dy sylw at hyn, sef gofyn i fynychwyr weld os oes yna unrhyw lyfrau penodol hoffen nhw i'r llyfrgell gadw ar ein cyfer ar y dydd. Yn bwysicach fyth, os oes angen archebu llyfr o'r stacks (ystorfa), plis archeba hwn dy hun cyn gynted a phosib (os wyt yn aelod o'r llyfrgell) neu gofyn i mi wneud ar ar dy ran - gall gymryd rhai dyddiau i'r llyfr gyrraedd y llyfrgell. Hwyl am y tro. --Ben Bore (sgwrs) 10:24, 20 Mehefin 2012 (UTC)

WMUK Train the Trainer

Hi, I sent you an email with the subject "Training the Trainers Cardiff" on Monday. I'm not sure if you missed it or it went into you spam folder. Can you locate it and give me a reply when you have a chance. Thank you! -- Katie Chan (WMUK) (sgwrs) 14:46, 16 Ionawr 2014 (UTC)

Sgwrs:C:CYF

Haia. Nodyn bach i ti ar [[Sgwrs:C:CYF]]. Llywelyn2000 (sgwrs) 10:39, 3 Ebrill 2014 (UTC)

Dyblygiad

Wnes i ddim sylweddoli bod 'na un yn barod; croeso i chi uno'r tudalennau a chreu ailgyfeiriad.Lesbardd (sgwrs) 08:34, 26 Ebrill 2014 (UTC)

Catalan Culture Challenge Barnstar

The Catalan Culture Challenge Barnstar
Hi Ham II!

Thank you very much for participating in the Catalan culture challenge, we hope you had a great time. As promised, here you have the Catalan Culture Challenge Banstar, show it with pride!
If you enjoyed this experience, you'll be most welcome to join us next 10th May at the Joan Miró Global Challenge. Moltes gràcies!

--ESM (sgwrs) 14:41, 26 Ebrill 2014 (UTC)

Wikimeet Caerdydd?

Dw i wedi bod yn meddwl am drefnu un arall yng Nghaerdydd a soniodd Robin dy fod tithau awydd hefyd. Pan drefnais y diwetha yn Urban Tap House gadawodd un neu ddau arall yng Nghaerdydd neges ar fy nhudalen Sgwrs yn dangos diddordeb ond yn methu dod y tro hynny. Beth amdani? O'n i'n meddwl baswn ni'n cytuno ar rhyw 2/3 dyddiad yng nghanol neu ddiwedd Mai sy'n siwtio'r ddau ohonom ac yna estyn gwahoddiad i eraill ar dudalen sgwrs WikiProject Cardiff.--Rhyswynne (sgwrs) 22:36, 29 Ebrill 2014 (UTC)

Sgwrs

Gweler: Sgwrs:Joan Miró. Llywelyn2000 (sgwrs) 15:31, 10 Mai 2014 (UTC)

Joan Miró Global Challenge — thank you!

Dear Ham,
Thank you very much for your participation at Joan Miró Global Challenge last 10th May (and sorry for the delay in getting back in touch). With your help we achieved the goal to get the 10 key articles translated into at least 10 different languages and, as promised, we will send you a plush keyring as a reward. Please send me an email with the pysical address where you want the reward to be sent. Best regards! --ESM (sgwrs) 21:04, 21 Mai 2014 (UTC)

Adeiladau cofrestrig

Wps. Dwi ddim yn arbenigwr ar y pwnc o bell ffordd, felly dilyn run trefn y cat ar en. Ymddengys bod hwnnw yn anghywir. Mae angen un newid i cat 'II' (dim seren) hefyd yr y wici yma i sicrhau bod o'n ymddangos ar y gwaelod (am wneud rwan).--Rhyswynne (sgwrs) 20:47, 22 Mai 2014 (UTC)

Gwaith bendigedig ddoe ar roi trefn ar gymaint o erthyglau a chategoriau - a braf gweld bod AWB ar waith! Erfyn pwerus iawn i wici bach! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:49, 19 Mehefin 2014 (UTC)

Sylw am Y Porth

Falle mod i'n rhy hwyr, ond gadewais neges ar https://cy.wikipedia.org/wiki/Sgwrs_Defnyddiwr:Marc_(Coleg_Cymraeg_Cenedlaethol)#Emlyn_Williams --Rhyswynne (sgwrs) 10:33, 18 Medi 2014 (UTC)

Gwybodlen newydd

Haia Marc. Mae'r wybodlen 'Infobox artwork' ar cy rwan, fel y gweli ar Cerflun Wicipedia; oes na erthyglau eraill am gerfluniau y gallwn ei hychwanegu atyn nhw? Llywelyn2000 (sgwrs) 04:56, 11 Hydref 2014 (UTC)

Y Fanod + Enw gwlad

Efallai dy fod wedi methu cwestiwn bach yn fama? Diolch. Mi newidiais i 'yr Almaen i Yr Almaen ayb y bore ma, heb fod wedi gweld cwestiw Blogdroed. Does dim canllaw ar Wicipedia:Cymorth iaith Fy nheimlad i ydy fod y fanod yn rhan o'r enw. Llywelyn2000 (sgwrs) 17:20, 28 Rhagfyr 2014 (UTC)

Diolch! Ham (sgwrs) 14:55, 29 Rhagfyr 2014 (UTC)

Cadarnhad

Dyma gadarnhad mai fi (Ham) sydd hefyd bia'r cyfrif Artifex ar brosiectau eraill; dymunwn gyfuno'r ddau i greu'r cyfrif newydd Ham II. Ham (sgwrs) 15:36, 29 Rhagfyr 2014 (UTC)

[I hereby confirm that I, Ham, am the same user as Artifex on other projects, and wish to merge the two accounts as Ham II. Ham (sgwrs) 15:36, 29 Rhagfyr 2014 (UTC)]


Diolch

Diolch am y golygiad yma. Llygad barcud! Llywelyn2000 (sgwrs) 20:25, 7 Ionawr 2015 (UTC)

Fictoria/Victoria

Helo! Sori i fod yn boen. Dim ond cwestiwn sydyn ynghylch y defnydd o Victoria yn hytrach na Fictoria wrth sôn am y Frenhines a'r Groes! Dwi wedi creu erthygl o'r newydd ar gyfer Croes Fictoria cyn sylwi bod 'na un yn bodoli o dan Croes Victoria - twp! Beth bynnag, dwi wedi cyfuno y ddwy bellach o dan Croes Fictoria ac ailgyfeirio draw o Croes Victoria. Ond dwi newydd sylwi dy fod wedi newid fy nghyfraniad am Syr Hugh Rowlands yn [[1]] i "Victoria" - oes 'na benderfyniad/resymeg dros ddefnyddio Victoria ac nid Fictoria? Diolch. Blogdroed (sgwrs) 18:29, 13 Chwefror 2015 (UTC)

@Blogdroed: Dim ond am fod Croes Fictoria yn ddolen goch ar y pryd! "Croes Fictoria" sydd gan Geiriadur yr Academi, er ei fod yn cynnig Victoria neu Fictoria ar gyfer yr enw. Efallai bydd gwerth codi hyn ar Sgwrs:Victoria, brenhines y Deyrnas Unedig rhywbryd, ar ôl cael "Ar y dydd hwn" yn barod ar gyfer y lawnsiad. Ham II (sgwrs)
@Ham II: Ah! Gwych, diolch. Blogdroed (sgwrs) 07:35, 14 Chwefror 2015 (UTC)

Translating the interface in your language, we need your help

Hello Ham II, thanks for working on this wiki in your language. We updated the list of priority translations and I write you to let you know. The language used by this wiki (or by you in your preferences) needs about 100 translations or less in the priority list. You're almost done!
 
I ychwanegu neu newid y cyfieithiad ar gyfer pob wici, defnyddiwch translatewiki.net, sef prosiect lleol MediaWiki.

Please register on translatewiki.net if you didn't yet and then help complete priority translations (make sure to select your language in the language selector). With a couple hours' work or less, you can make sure that nearly all visitors see the wiki interface fully translated. Nemo 14:06, 26 Ebrill 2015 (UTC)

John Morgan Rees

Mae Charles ar WiciDestun en yn gofyn a wyddom ddyddiadau John Morgan Rees. tybed a fedri ei helpu? Can diolch! Llywelyn2000 (sgwrs) 13:09, 30 Ebrill 2015 (UTC)

Bale, bale a bêl

(Symudodd Ham II y dudalen Napoli (Bale) i Napoli (bale): er mwyn eglurhau nad ydym yn sôn am Gareth Bale ;)

Ond mae'r modd mae Bale yn drin y bêl yn bale! :-)AlwynapHuw (sgwrs) 01:32, 6 Mai 2015 (UTC)
Clyfar iawn! LOL! Llywelyn2000 (sgwrs) 05:02, 6 Mai 2015 (UTC)
@AlwynapHuw, Llywelyn2000: Ie, bali Bale â bale ei bêl a ballu... ond mae'n chwarae i Real Madrid, nid Napoli! Ham II (sgwrs) 06:08, 6 Mai 2015 (UTC)

Golygathon yn Pryfysgol Abertawe

Helo Marc, Oes modd i chi cadarnhau os gallwch dod i'r golygathon yn abertawe wythnos i heddiw? Diolch! Jason.nlw (sgwrs) 08:22, 11 Mai 2015 (UTC)

@Jason.nlw: Wedi gwneud! Sori am yr oedi! Ham II (sgwrs) 10:28, 11 Mai 2015 (UTC)

Tudalennau wedi'u creu

@Ham II: Parthed dy olygiad Oni ddylem newid y tudalennau newydd a grewyd ddoe (ee hwn, yn hytrach na'r dudalen fawr archaig? '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 15:18, 29 Mai 2015 (UTC)

@John Jones: Diolch! Welais i ddim eu bod wedi'u creu. Af i ati nawr i newid WP:AYDH i adlewyrchu hyn. Ham II (sgwrs) 18:35, 29 Mai 2015 (UTC)

Llundain y Cymry

Henffych! Mae un o'n haelodau yn Llundain ddydd Sul, ac mae'n gofyn oes na restr yn rhywle o adeiladau Cymreig / cysylltiadau Cymreig / gwaith celf, cofadeiladau/beddau Cymreig y gall fynd ati i dynnu eu lluniau. Os nad, fedri di awgrymu hanner dwsin? Diolch a chofion, Llywelyn2000 (sgwrs) 12:38, 23 Gorffennaf 2015 (UTC)

Wikipedia is getting 15 years - WMF projects - translation of Wikidata labels and descriptions

lang=cy : ?lang=cy&props=31,218,219,220,506,1406&q=claim[1800]Cymraeg

Dear Ham II; There will be a birthday soon: Wikipedia is getting 15 years. I want to let you know that the number of d:Wikidata:Database reports/WMF projects there is also the page Wikipedia versions has increased to more then 409; there are also pages from Wikibook project pages to Wikiversity and Wiktionary project pages in that list. You may be interested in adding Wikidata labels and descriptions in your language. Only a few, maybe five. Please follow also the discussion at d:property talk:P218 and comment there.
Maybe you can translate this and use it somewhere: If this is your first edit at wikidata: First go to Wikipedia_versions?setlang=cy. This will select the interface language for you. Then open the label links you want to translate in a new browser tab for each link. You should see an edit button and you should be able to insert the label in the corresponding field using a click/doubleklick. Same for the description and alias. Save your changes and go to another label link from the main list. Good luck!
Best regards Gangleri also aka I18n (sgwrs) 08:45, 14 Ionawr 2016 (UTC)

Catalan Culture Challenge 2016 edition

I apologize if this message is not in your language. Please help translate it.

From February 21 to March 6 we organise the 2nd edition of Catalan Culture Challenge, a Wikipedia editing contest in which victory will go to those who start or improve the greatest number of articles about 11 key figures of Catalan culture. You can take part by creating or expanding articles on these people in your native language (or any other one you speak). It would be lovely to have you on board again. :-)

We look forward to seeing you!

Amical Wikimedia --Kippelboy (sgwrs) 11:18, 17 Chwefror 2016 (UTC)

Golygathon a meet-up

Gobeithio bod popeth yn iawn efo ti? Fi'n meddwl am redeg golygathon yn y Llyfrgell ym mis Ebrill fel rhan o'r ymgyrch 'Awaken the Dragon' ac yn meddwl efallai bydd e'n gyfle da i gynnal eich Wici Meet-up yn Aber ar ôl y digwyddiad? Fi heb benderfynu ar ddyddiad eto ond yn meddwl am ryw bryd yn ail hanner i fis? Rowch wybod beth ti'n meddwl am y syniad. Diolch! Jason.nlw (sgwrs) 10:54, 11 Mawrth 2016 (UTC)

@Jason.nlw: Roeddwn i ar fin ateb dy e-bost! Syniad gret, ac mi wnaf i'n siwr fy mod i'n dod i'r golygathon! Gad i fi wybod yn nes at yr amser. Ti'n gallu argymell unrhyw le am y wici-gwrdd – neu efallai'r Llyfrgell ei hun?
Wnest ti ddweud o'r blaen bod gen ti ragor o ddata o'r Bywgraffiadur? Edrych ar hwn ydw i: Wicipedia:Rhestr y Bywgraffiadur Cymreig Arlein. Byddai'n dda gallu cael man geni ar gyfer pawb sy'n bosib er mwyn iddynt ymddangos ar Rhestr Cymry. Paid â phoeni os na! Ham II (sgwrs) 16:26, 11 Mawrth 2016 (UTC)
@Ham II: Da iawn! Felly fi'n cymryd bydd dydd Gwener yn well gen ti? Mi wna'i cadarnhau dyddiad wythnos nesaf, a dechrau hysbysebu'r Golygathon. Mae'r tafarn 'Wiff Waff' yn Aber yn lle neis i cwrdd gyda bwyd os oes angen, a digon o le. Wyt ti'n hapus i trefni y Meet-up? Hapus i bod o cymorth os galla'i, jyst rowch gwybod.
Gyda'r WikiData - Ni yn gobeithio ychwanegu'r data yma yn syth o'r metadata ond mae adnoddau yn brin! Mae gen i wirfoddolwr sydd yn defnyddio quick statements gyda data delweddau felly fi'n gobaethio bydd modd gwneud rywbeth tebyg gyda'r bywgraffiadur mewn da bryd. Diolch! Jason.nlw (sgwrs) 18:41, 12 Mawrth 2016 (UTC)
::@Ham II: Reit, mae trefniadau ar gyfer y golygathon yn ebrill yn symyd ymlaen. Dyma'r gwybodaeth. Felly rowch wybod beth yw'r cam nesaf ar rhan cynnal y meet-up, Gan obeithio bydd rhai yn gallu mynychu'r golygathon hefyd. Diolch, Jason.nlw (sgwrs) 15:34, 14 Mawrth 2016 (UTC)
@Ham, Jason.nlw, AlwynapHuw, Lloffiwr: Bril!!! Ham - dw i newydd droi'r flwyddyn yn ddyddiad i ti (Rhestr BC Arlein). Mi wna i yr un peth efo'r rhestr (byr!) o ferched o'r BCA mewn munud. Cofiwch - gall unrhyw un wneud cais am gostau teithio i gyfarfodydd Wici. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:33, 16 Mawrth 2016 (UTC)
@Ham II, Jason.nlw: Sori am ymateb yn hwyr. Fydda i ddim, yn gallu mynychu'r golygathon, ond ceisiaf gyfrannu cynnwys ar liwt fy hun. Mae Hacio'r Iaith 2016 yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd ar 16 Ebrill - falle bydd yn gyfle i són am ymdrech pendodol Deffro'r Ddraig (a cheisio denu cyfranwyr/mynychwyr) a/neu son am bethau sydd wedi digwydd ar y Wicipedia yn y 12 mis diwethaf, neu cael rhyw fath o meet-up fel un o'r sesiynnau ar y diwrnod.--Rhyswynne (sgwrs) 20:53, 3 Ebrill 2016 (UTC)
@Ham: Siwmae Ham. Os na' unrhyw newyddion am y Meet-up ar y 22ain? Os mae pobl methu dod bydd rhaid ohirio. Wyt ti dal yn bwriadu dod i'r Golygathon? Diolch. Jason.nlw (sgwrs) 09:54, 13 Ebrill 2016 (UTC)

Participate in the Ibero-American Culture Challenge!

Hi!

Iberocoop has launched a translating contest to improve the content in other Wikipedia related to Ibero-American Culture.

We would love to have you on board :)

Please find the contest here: https://en.wikipedia.org/wiki/Wikipedia:Translating_Ibero_-_America/Participants_2016

Hugs!--Anna Torres (WMAR) (sgwrs) 14:21, 10 Mai 2016 (UTC)

Rhoda Broughton

Mae Wici cy ac en, Wicdata ayb yn dweud mai ar y 5ed o Fehefin y bu Rhoda farw, ac nid y 3ydd. Sgen ti gyfeiriadau sy'n cadarnhau'r 3ydd? Llywelyn2000 (sgwrs) 10:25, 3 Mehefin 2016 (UTC)

@Llywelyn2000: Dim syniad o lle ddaeth hwnna! Wedi newid nawr. Ham II (sgwrs) 14:28, 6 Mehefin 2016 (UTC)

Request

Greetings Mr Ham II,

Nice to meet you.

Could you kindly help me translate this text into the Wonderful Welsh language?:

"Welsh latin to cyrillic transliterator"


(The "transliterator refers to an online transliteration tool). --DaveZ123 (sgwrs) 09:16, 21 Hydref 2016 (UTC)

Sorry butting in: can I ask what's 'Welsh latin'? And why not 'Latin' (upper case)? Llywelyn2000 (sgwrs) 06:48, 22 Hydref 2016 (UTC)
@DaveZ123, Llywelyn2000: I take it that "Latin" refers to the Latin alphabet as opposed to the Cyrillic. Is the idea that the tool transliterates words in the Welsh language into Cyrillic? If so, my suggestion would be trawslythrennydd o'r wyddor Gymraeg i'r Gyrilig, which means literally "Welsh to Cyrillic alphabet transliterator". This is because we consider there to be a distinct Welsh alphabet – Latin characters but with some digraphs like ch, dd, etc., counting as single letters. Ham II (sgwrs) 07:44, 22 Hydref 2016 (UTC)
If that's Dave's question/meaning, then Ham's translation is excellent. Llywelyn2000 (sgwrs) 08:22, 22 Hydref 2016 (UTC)
@Llywelyn2000:, Yes, the "Latin" refers to the Latin alphabet. The tool can be found here and it was based upon this conversion table created by Sam Bateman whom wanted to make the Welsh language easier to read for speakers of Russian, Ukrainian, Bulgarian, etc. --DaveZ123 (sgwrs) 09:07, 22 Hydref 2016 (UTC)
Brill! Llywelyn2000 (sgwrs) 09:35, 22 Hydref 2016 (UTC)
@DaveZ123: What a fascinating tool! I had a go at using it on Wikidata here. Ham II (sgwrs) 16:00, 22 Hydref 2016 (UTC)

Thank you

 
Thankyou very much Mr. Ham II for your wonderful Welsh translation help!
I am really Grateful.
May you be blessed!
--DaveZ123 (sgwrs) 09:03, 22 Hydref 2016 (UTC)

Golygathon yng Nghaerdydd!

Helo Ham II! bydd Golygtahon Wici yn yr Amgueddfa Genedlaethol dydd Sadwrn nesaf. Bydd e'n grêt i gweld ti yno.Jason.nlw (sgwrs) 10:38, 20 Mawrth 2017 (UTC)

You are invited!

 
You are invited...
 

The Celtic Knot: Wikipedia Language Conference - Programme now live.

  • Hosts: The University of Edinburgh and Wikimedia UK
  • Supporting: Celtic & Indigenous Languages.
  • Objective: The main objective for Celtic Knot 2017 is the coming together of practitioners in the same room at same time; strengthening the bonds of those working to support language communities into a 'knot' and leading into action. Attendees can expect to learn about and discuss innovative approaches to open education, open knowledge and open data that support and grow language communities.
  • Date: 6 July 2017 - Booking is now open.

Stinglehammer (sgwrs) 22:43, 22 Mai 2017 (UTC)

Sefydlu grwp newydd i Gymru: Wicimedia Cymru

Rhag ofn na welais ti'r sgwrs - mae cais di neud i ffurfio grwp swyddogol fel y Basgiaid. Beth am ychwanegu dy sylwadau? Gweler: Wicipedia:Y Caffi#Sefydlu Grŵp Defnyddwyr Wicimedia '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 09:32, 12 Gorffennaf 2017 (UTC)

Nodyn:Y Cynghrair Arabaidd

Heia. Ga i ofyn am dy help di? Mae problem, felly mae'n ymddangos i mi, gyda'r Nodyn:Y Cynghrair Arabaidd a ailwampiaist ti ar 16 Mawrth 2016. Mae'r gair Coweit wedi gael ei gamsillafu. Ond pan fydda i'n ceisio ei chywiro mae'r cyfan yn "ffrwydro". Gan nad ydw i'n deall ychydig iawn am ochr adeileddol y nodynnau, efallai y gallet ti gynorthwyo? Dyf. -- Jac-y-do (sgwrs) 18:51, 22 Tachwedd 2017 (UTC)

@Jac-y-do: Newidiais Nodyn:Alias gwlad Ciwait (a'r sillafiad Saesneg Nodyn:Alias gwlad Kuwait) i Nodyn:Alias baner gwlad Coweit, felly mae {{banergwlad|Ciwait}}, {{banergwlad|Coweit}} a {{banergwlad|Kuwait}} i gyd bellach yn rhoi   Coweit ,   Coweit ,   Coweit . Ham II (sgwrs) 21:25, 22 Tachwedd 2017 (UTC)

Diolch yn fawr iawn, Ham! -- Jac-y-do (sgwrs) 23:07, 23 Tachwedd 2017 (UTC)

Disney films

Do you have any interest in creating any of the following:

The first three of these were already deleted, because Tangled was a copy of the English article and the other two were two short. I think you should ask for Llywelyn2000 or Deb to make you an admin so you can fix the broken articles that are protected. Meanwhile, Pete's Dragon needs to be moved to Pete's Dragon (ffilm 1977) so that Pete's Dragon (gwahaniaethu) can be moved to Pete's Dragon. It's part of the vandalism left over by Bambifan101 (me). Also check out these articles:

That, and the edits thrown out here, here, and here. There were some good edits being thrown out, besides the red links.

I don't know if you care about any of these movies, but I have already asked other users and they were not interested at all. I don't know who else to ask who's still active. 2602:306:83A9:3D00:D533:7B3E:3B24:116E 19:38, 4 Rhagfyr 2017 (UTC)

Gwybodlen lle

Diolch o galon am ychwanegu'r 'Gwybodlen lle' ar cymaint o erthyglau! Mae nhw llawer mwy cyfoethog eu gwybodaeth na'r hen wybodlenni, ac yn diweddaru eu hunain, yn otomatig, wrth gwrs. Byddai'n braf, Marc, be baen nhw ar bob erthygl lleoliad / adeilad! Coion cynnes.... Llywelyn2000 (sgwrs) 07:13, 28 Mawrth 2019 (UTC)

Gwerthfawrogiad

    Gwerthfawrogiad o'th Waith Arbennig
Carwn gyflwyno'r seren hon i ti, rhen gyfaill, fel gwerthfawrogiad o'th waith arbennig, a diflino ar y Wicipedia Cymraeg ers degawd!
Diolch! Llywelyn2000 (sgwrs) 13:06, 28 Mawrth 2019 (UTC)
Return to the user page of "Ham II/Archif 1".