Shwmae, Rhyswatkin! Croeso mawr i Wicipedia — y gwyddoniadur rhydd. Welcome message in English
Diolch am ymuno â Wicipedia ac am eich cyfraniadau diweddaraf — fe obeithiwn y byddwch yn mwynhau cyfrannu yma.
Prosiect amlieithog i greu gwyddoniadur rhydd yw Wicipedia. Fe sefydlwyd y fersiwn gwreiddiol yn Saesneg yn 2001, a'r fersiwn Cymraeg yn 2003, a bellach mae 281,332 erthygl gennym. Rhowch gynnig ar y dolenni defnyddiol isod, a dysgu sut gallwch chi olygu unrhyw erthygl o ganlyniad. A chofiwch — dyfal donc a dyr y garreg.
Y Caffi
Tudalen i ofyn cwestiynau ynglŷn â Wicipedia.
Cymorth
Cymorth ynglŷn â defnyddio Wicipedia.
Porth y Gymuned
Gwelwch beth sy'n mynd ymlaen a beth
sydd angen gwneud yma.
Golygu ac Arddull
Sut i olygu erthygl ac arddull erthyglau.
Hawlfraint
Y rheolau hawlfraint yma.
Cymorth iaith
Cymorth gyda'r iaith Gymraeg.
Polisïau a Chanllawiau
Rheolau a safonau a dderbynnir gan y gymuned.
Cwestiynau Cyffredin
Y cwestiynau cyffredin a ofynnir gan ddefnyddwyr.
Tiwtorial a'r Ddesg Gyfeirio
Dysgu sut i olygu cam wrth gam gyda'r Tiwtorial,
a chyflwynwch eich cwestiynau wrth y Ddesg Gyfeirio.
Y Pum Colofn
Egwyddorion sylfaenol y prosiect.

Dyma eich tudalen sgwrs lle gallwch dderbyn negeseuon gan Wicipedwyr eraill. I adael neges i Wicipedwr arall, dylech ysgrifennu ar dudalen sgwrs y defnyddiwr gan glicio ar y cysylltiad iddi, ac wedyn clicio ar y tab "sgwrs".

Ar ddiwedd y neges mewn tudalennau sgwrs (fel yr un yma), gadewch ~~~~, a bydd y cod yma yn gadael stamp eich enw ac amser gadael y neges. Os ydych am gael cymorth gan weinyddwyr, rhowch y nodyn {{Atsylwgweinyddwr}} ar eich tudalen sgwrs.

Fe obeithiwn y byddwch yn mwynhau cyfrannu yma,
Y Wicipedia Cymraeg


Cofion cynnes,

Croeso Rhys

golygu

Mae'r erthygl System cyfesurynnau wedi gwella'n arw ers i ti ymosod arni! Bendigedig! Dw i wedi gwneud tipyn bach o newidiadau, ac mae croeso i ti droi rhai'n ol os anghytuni, wrth gwrs! Dwn i ddim ai fi sydd angen sbectol newydd ond roedd yn anodd gwahaniaethu rhwng llythrennau wedi'u hitaleiddio fel n gyda'r llythrennau teip normal! Felly dw i wedi amlygu rhain ee n. Bum hefyd yn ystyried newid teitl yr erthygl i "System gyfesurynnol", ond pan fo dewis rhwng ansoddair ac enw - mi af am yr enw pob tro. Ond nid be dw i'n ei feddwl sy'n bwysig ar Wicipedia, eithr beth ydy'r term safonol. Carwn wybod dy farn ar hyn. Cofion - Llywelyn2000 (sgwrs) 06:08, 5 Awst 2013 (UTC)Ateb


At Llywelyn2000 - diolch, a chroeso.

Er mwyn ateb dy sylwadau:
  • Bod yn gallu darllen y symbolau mathemategol. Cefais drafferth defnyddio'r strwythur {{math|...}}, efallai am mai nid Saesneg yw iaith yr erthygl. Mae <math>...</math> ar gael ond mae' creu symbolau o faint tipyn mwy na'r ffont cyffredin, sy' o bosib yn tarfu ar lif darllen. Mae dy awrgrymiad o ddefnyddio llythrennau bras yn oce ar gyfer yr erthygl fel mae hi, ond bydd problem pan ewn i drin fectorau. Maent yn cael eu nodi â llythrennau bach bras, felly bydd gwahaniaeth rhwng r neu   y fector ac r neu   y sgalar. Mi fydd gwahaniaeth yn sicr yn yr erthygl Geometreg gyfesurynno.
  • Cyfieithiad technegol iawnochrog yw orthogonal, sy'n derm ohoni hun ym mathemateg.
  • Teitl yr erthygl - dwi'n cytuno mai'r enw ddylwn ddefnyddio. Nid ansoddair ydy coordinate yn yr ystyr yma (yn wahanol i coordinate geometry sef geometreg gyfeurynnol yn ôl Geiriadur yr Academi a'n synwyr i).
Sylwais hefyd bo'r strwythur {{cite book|...}} heb drosi "ed." i "argraffiad" neu debyg. Tasen i'n gwybod ble i gychwyn, byddwn yn hapus i'w gywiro.
Rhyswatkin (sgwrs) 18:28, 5 Awst 2013 (UTC)Ateb
Mi hola i un neu ddau am y broblem o faint y ffont efo'r Nodyn 'math'. Mae 'Nodyn:Dyf gwe' ar gael yn Gymraeg ond pan gaf gyfle mi gyfieithaf yr un en hefyd fel bod dewis. Ar frys. Llywelyn2000 (sgwrs) 18:42, 5 Awst 2013 (UTC)Ateb
Diolch!
Rhyswatkin (sgwrs) 19:37, 5 Awst 2013 (UTC)Ateb