Shwmae, BrahmsFan! Croeso mawr i Wicipedia — y gwyddoniadur rhydd. Welcome message in English
Diolch am ymuno â Wicipedia ac am eich cyfraniadau diweddaraf — fe obeithiwn y byddwch yn mwynhau cyfrannu yma.
Prosiect amlieithog i greu gwyddoniadur rhydd yw Wicipedia. Fe sefydlwyd y fersiwn gwreiddiol yn Saesneg yn 2001, a'r fersiwn Cymraeg yn 2003, a bellach mae 281,371 erthygl gennym. Rhowch gynnig ar y dolenni defnyddiol isod, a dysgu sut gallwch chi olygu unrhyw erthygl o ganlyniad. A chofiwch — dyfal donc a dyr y garreg.
Y Caffi
Tudalen i ofyn cwestiynau ynglŷn â Wicipedia.
Cymorth
Cymorth ynglŷn â defnyddio Wicipedia.
Porth y Gymuned
Gwelwch beth sy'n mynd ymlaen a beth
sydd angen gwneud yma.
Golygu ac Arddull
Sut i olygu erthygl ac arddull erthyglau.
Hawlfraint
Y rheolau hawlfraint yma.
Cymorth iaith
Cymorth gyda'r iaith Gymraeg.
Polisïau a Chanllawiau
Rheolau a safonau a dderbynnir gan y gymuned.
Cwestiynau Cyffredin
Y cwestiynau cyffredin a ofynnir gan ddefnyddwyr.
Tiwtorial a'r Ddesg Gyfeirio
Dysgu sut i olygu cam wrth gam gyda'r Tiwtorial,
a chyflwynwch eich cwestiynau wrth y Ddesg Gyfeirio.
Y Pum Colofn
Egwyddorion sylfaenol y prosiect.

Dyma eich tudalen sgwrs lle gallwch dderbyn negeseuon gan Wicipedwyr eraill. I adael neges i Wicipedwr arall, dylech ysgrifennu ar dudalen sgwrs y defnyddiwr gan glicio ar y cysylltiad iddi, ac wedyn clicio ar y tab "sgwrs".

Ar ddiwedd y neges mewn tudalennau sgwrs (fel yr un yma), gadewch ~~~~, a bydd y cod yma yn gadael stamp eich enw ac amser gadael y neges. Os ydych am gael cymorth gan weinyddwyr, rhowch y nodyn {{Atsylwgweinyddwr}} ar eich tudalen sgwrs.

Fe obeithiwn y byddwch yn mwynhau cyfrannu yma,
Y Wicipedia Cymraeg


Cofion cynnes, Deb (sgwrs) 15:52, 4 Awst 2021 (UTC)Ateb

Norwy

golygu

Diolch am gyfrannu at yr erthygl ar Norwy. Dw i'n siŵr bod gen ti wybodaeth gwerthfawr i'w rhannu. Yn anffodus, rwyt ti wedi dileu'r gwybodlen newydd a roddodd Llywelyn2000 ar y tudalen yn 2018 ac wedi rhoi gwybodlen o'r hen fath yn ei lle. Mewn gwirionedd, dylen ni ddefnyddio gwybodlen o'r steil newydd, sy'n tynnu gwybodaeth o Wicidata ac felly'n diweddaru ystadegau ac ati yn awtomatig. Does dim digon o olygyddion yma eto i gadw'r pethau hyn yn gyfredol. Hefyd, mae'n well cadw'r gwybodlenni'n gyson ar draws yr holl wledydd. Ydy'n bosibl iti dynnu'r wybodaeth rwyt ti'n meddwl oedd ar goll o'r gwybodlen fel y bu a'i rhoi yng nghorff yr erthygl? Ac yna adfer y gwybodlen fel yr oedd cyn dy olygiadau? Tipyn o niwsans dw i'n gwybod, ond byddwn i'n gwerthfawrogi hynny. --Craigysgafn (sgwrs) 18:08, 7 Awst 2021 (UTC)Ateb