Sgwrs Nodyn:Pethau

Sylw diweddaraf: 1 mis yn ôl gan Llywelyn2000 ym mhwnc Sylfaenydd

Sylw

golygu

Diolch am eich gwaith ar hyn - mae'n edrych yn grêt a bydd yn defnyddiol iawn am nifer o 'pethau'. Un sylw bach - dw'in siwr bod ti'n ymwybodol yn barod - ond mae'r testun Saesneg (Edit this on Wikidata) yn mynd i tudalen i lwytho ffeil. Felly bydd e'n grêt i cael gwared o'r Saesneg ond hefyd newid y dolen/geiriad. Diolch eto Jason.nlw (sgwrs) 08:33, 20 Tachwedd 2019 (UTC)Ateb

Diolch! Ro'n ar ganol creu'r cod pan edrychaist arno, mae'n rhaid! Gan fod yn rhaid i hwn weithio ar erthyglau newydd, a hen erthyglau, dw i'n siwr y bydd ychydig o ddyblu yma ac acw ee isbn dwywaith ar rai, ond dros dro yw hyn. Rho wybod os wyt ti isio mae/ydd ychwanegol ee enw arlunydd y clawr. Byddaf yn impio'r newydd ar yr hen yn nes ymlaen y bore ma; tua 11,000 o wybodlenni. Llywelyn2000 (sgwrs) 10:21, 20 Tachwedd 2019 (UTC)Ateb
Grêt! Diolch Llywelyn2000 Jason.nlw (sgwrs) 11:31, 20 Tachwedd 2019 (UTC)Ateb

Gemau fideo

golygu

Haia - Mae'r nodyn yma'n hawdd i ddefnyddio, diolch am eich gwaith caled chi! Tybed a fyddai modd ichi gyfuno 'Nodyn:Gwybodlen_Gêm_fideo' mewn i 'Pethau' os gwelwch yn dda? Diolch! Applefrangipane (sgwrs) 17:14, 23 Medi 2022 (UTC)Ateb

@Applefrangipane: - diolch am dy eiriau caredig! Mi af ati yn yr wythnosau nesaf!
@Craigysgafn: - yr un pryd, mi dria i eto i gael y wybodlen i ddewis un delwedd, pan fo mwy nag un ar Wicidata! Mae'n gweithio ar y ddwy wybodlen arall (Person a Lle). Dyfalbarhad ydy'r gair pwysig! Dolig llawen! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:33, 25 Rhagfyr 2022 (UTC)Ateb

Delwedd ddyblyg

golygu

Dw i'n ymwybodol fod na broblem pan fo dwy (neu ragor) o ddelweddau ar Wicidata; gellir dewis yr un gorau (preferred image / rank) yn y fan honno - ond nid gyda diagramau cemegol, sy'n cael eu safoni'n allanol. Felly, gyda'r rhain ee LSD, bydd yn rhaid ychwanegu'r diagram gyda llaw: gweler yr erthygl (image = enw_delwedd).

Y broblem yw nad yw 'GetPreferredImage' yn y Nodyn i'w weld yn gweithio. Dwi'n meddwl fod Nodyn:Person a Nodyn:Lle i'w gweld yn gweithio'n iawn! Er holi dau earbennigwr, Andrew a Doug, mae nhwtha'n taro eu penau'n erbyn y wal! mi driai weithio ar hyn yn ystod yr wythnosau nesaf. Yn y cyfamser, os gwelwch y broblem eto mewn gwybodlen, PLIS wnewch chi roi enw'r erthygl isod, i mi drio eto! Can diolch i @Craigysgafn: am ei waith gyda'r dastrysiad yma a'i ddyfalbarhad (a'i amynedd!). Blwydyyn newydd dda i bawb! Llywelyn2000 (sgwrs) 11:22, 5 Ionawr 2023 (UTC)Ateb

nbsp syntax error

golygu

Pardon me for talking English in your wikipedia. I am de-N, en-2, all-other-languages-0. Many articles in your wikipedia suffer of nbsp syntax errors without having them in their source code, see: https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Arbennig:Search&limit=250&offset=0&ns0=1&search=nbsp A fast-check indicates that they seem to share the property of including this template/nodyn. The error is always the same: The letter "n" in "nbsp" is written as a capital "N" which makes it impossible for the software to identify the non-breaking-space. Allways, "&Nbsp;" is displayed in the read views of the articles. However, a quick search in the source code of this template did not reveal any "Nbsp" with capital "N". I guess that the problem originates from an inclusion inside this template. I am not able to find the exact cause of the problem. Yours --Himbeerbläuling (sgwrs) 18:57, 11 Ionawr 2023 (UTC)Ateb

The problem arises typically in combination with the elements Poblogaeth, brodorol or Màs. --Himbeerbläuling (sgwrs) 18:47, 12 Ionawr 2023 (UTC)Ateb
Thanks @Himbeerbläuling:. Looks ok now. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:38, 22 Rhagfyr 2023 (UTC)Ateb

Cangyms i'w trwsio

golygu
  1. Gw. Copr - mae testun y ddelwedd ar Wicidata'n ymddangos, er fod y ddelwedd yn lleol.

Llywelyn2000 (sgwrs) 05:29, 22 Rhagfyr 2023 (UTC)Ateb

Sylfaenydd

golygu

Mae angen cywiro'r cymal Sylfaenydd gan ei fod yn ymddangos yn y bocs terfynol fel Y Gwrthwyneb sydd ddim yn ddelfrydol!. Diolch. --Paulpesda (sgwrs) 07:55, 23 Medi 2024 (UTC)Ateb

Ie, roedd https://cy.wikipedia.org/wiki/Arad_Goch yn dweud "y Gwrthwyneb: Jeremy Turner" - digri! Dw i wedi ei gywiro rŵan dw i'n meddwl. Llygad Ebrill (sgwrs) 11:57, 23 Medi 2024 (UTC)Ateb
@Llygadebrill: Diolch am drwsio hwn! Llywelyn2000 (sgwrs) 10:07, 24 Medi 2024 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Pethau".