Siân Melangell Dafydd
Bardd o Llwyneinion ger Y Bala, Gwynedd, yw Siân Melangell Dafydd (ganed Ebrill 1977). Ffug enw: "Mynydd Segur", sef cam gyfieithiad o Montségur, Ariège, yn rhanbarth Midi-Pyrénées, Ffrainc (castell Cathar nid nepell o'r lle bu'n ysgrifennu'r rhan fwyaf o nofel ddiweddar).
Siân Melangell Dafydd | |
---|---|
Ganwyd | 28 Ebrill 1977 ![]() Dolgellau ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, cyfieithydd, ysgrifennwr ![]() |
GyrfaGolygu
Fe’i haddysgwyd yn Ysgolion Bro Tegid a Berwyn, Y Bala ond cwblhaodd ei Safon A yng Ngholeg Meirion Dwyfor, Dolgellau. Graddiodd gyda gradd MA mewn Hanes Celf o Brifysgol St Andrews, yr Alban, cyn gweithio mewn orielau gwahanol o Lundain i Chianti. Treuliodd flynyddoedd braf iawn fel Rheolwr Marchnata Sgript Cymru cyn mynd yn ôl i’r coleg i gwblhau gradd MA mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol East Anglia (UEA), Norwich.
Cyflwynwyd y Fedal Ryddiaith yn 2009 iddi mewn seremoni arbennig ar lwyfan Pafiliwn Eisteddfod Genedlaethol Meirion a’r Cyffiniau ddiwedd brynhawn Mercher. Y beirniaid yn Y Bala oedd Manon Rhys, Tony Bianchi ac Elwyn Ashford Jones.
Mae hi bellach yn gweithio’n llawrydd ac yn rhannu ei hamser rhwng Cymru a Pharis. Golygydd y cylchgrawn Taliesin oedd hi.
LlyfryddiaethGolygu
Llyfrau gwreiddiolGolygu
- Y Trydydd Peth (Gwasg Gomer, 2009)
AddasiadauGolygu
- Eoin Colfer, Artemis Gwarth a Chôd Tragwyddoldeb (Gwasg Gomer, 2009)
- Eoin Colfer, Artemis Gwarth ac Antur yr Arctig (Gwasg Gomer, 2009)
- Bernard Ashley, Milwr Bychan (Rily, 2011)
- Bernard Ashley, Tŷ Dial (Rily, 2011)
Gwobrau ac AnrhydeddauGolygu
Enillydd y Fedal Ryddiaith.
Dolenni allanolGolygu
- Eisteddfod Genedlaethol Archifwyd 2011-12-16 yn y Peiriant Wayback.
- Gwybodaeth Archifwyd 2016-02-15 yn y Peiriant Wayback.
- Word-express Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback.
- walesliterature.org Archifwyd 2012-03-25 yn y Peiriant Wayback.
- Eisteddfod Genedlaethol Archifwyd 2011-07-05 yn y Peiriant Wayback.