Manon Rhys

sgriptiwr a aned yn 1948

Llenor yw Manon Rhys (ganwyd 25 Ebrill 1948) sydd yn olygydd, yn sgriptwraig deledu, ac yn awdures nofelau Cymraeg. Ganed hi yn Nhrealaw, Y Rhondda, yn ferch i'r athro, y bardd, a'r dramodydd J. Kitchener Davies. (Mam gu Gruffudd Ab Owain)

Manon Rhys
Ganwyd25 Ebrill 1948 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, sgriptiwr Edit this on Wikidata
PriodJim Parc Nest Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Mynychodd Ysgol Gynradd Gymraeg Ynys-wen, Treorci, rhwng 1952 a 1959 cyn symud ymlaen i Ysgol Ramadeg y Merched, Y Porth. Symudodd y teulu i Brestatyn ym 1961 a mynychodd Ysgol Glan Clwyd, Y Rhyl, hyd 1966, wedi i'w mam, Mair Davies, dderbyn swydd Pennaeth Adran y Gymraeg yn yr un ysgol. Graddiodd yn y Gymraeg o Brifysgol Cymru, Aberystwyth cyn dilyn cwrs ymarfer dysgu ym Mhrifysgol Caerdydd.

Bu'n athrawes Gymraeg am gyfnod cyn symud i faes ysgrifennu sgriptiau teledu a ffilm, gan weithio ar raglenni megis Pobol y Cwm a chyfres Y Palmant Aur (a addasodd yn ddiweddarach fel tair nofel). Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf ym 1988. Bu'n gydolygydd y cylchgrawn llenyddol Taliesin. Mae hi hefyd yn diwtor ysgrifennu creadigol.

Mae'n briod â T. James Jones; mae ganddi ddau o blant, ac mae'n llysfam i ddau. Mae'n fam-gu i saith o wyrion.

Enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam 2011 gyda Neb Ond Ni; hi oedd yr enillydd cyntaf y cyflwynwyd iddo'r fedal gan ei briod.

Enillodd y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn a'r Gororau 2015.

Llyfryddiaeth golygu

Gwobrau ac anrhydeddau golygu