Siôn Alun

Gweinidog, ymgyrchydd iaith

Gweinidog yn ardal Abertawe oedd Siôn Alun (30 Hydref 1955 - 2 Hydref 2012)[1], neu John Alun Thomas. Cafodd ei addysg yn ysgol gynradd Pont-lliw, ac yn ysgol uwchradd Pontardawe lle daeth o dan ddylanwad Eic Davies. Symudodd i Ysgol Gyfun Gymraeg Ystalyfera pan agorodd honno. Wedyn aeth i Goleg Annibynnol Bala-Bangor dan brifathrawiaeth R. Tudur Jones a'r Athro Alwyn Charles. Enillodd y wobr gyntaf dair gwaith yn olynol ar siarad cyhoeddus yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.

Siôn Alun
Ganwyd30 Hydref 1955 Edit this on Wikidata
Bu farw2 Hydref 2012 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl Edit this on Wikidata
PlantSteffan Alun Edit this on Wikidata
Nid i'w ddrysu gyda'r actor, Siôn Alun Davies

Roedd yn gyn weinidog Bethel, Sgeti a'r Trinity, Abertawe. Roedd yn aelod cynnar o Gymdeithas yr Iaith[2] ac yn ymgyrchydd brwd dros addysg Gymraeg. Bu'n gadeirydd Rhieni dros Addysg Gymraeg yn Abertawe.

Ers yr 1980au roedd wedi bod yn cadw a bridio moch cwta a dofednod. Roedd yn beirniadu adar a dofednod yn y pafiliwn ffwr a phlu yn Sioe Llanelwedd.[3]

Bywyd personol

golygu

Roedd yn briod â Catrin, ac roedd ganddynt ddau fab, Steffan a Gwydion.[4]

Bu farw yn 56 mlwydd oed wedi salwch hir. Cynhaliwyd ei angladd ar 10 Hydref 2021 gyda gwasanaeth byr yn Amlosgfa Treforys am 12.30yp wedi ei ddilyn gan Wasanaeth Coffa'n ym Methel, Heol Carnglas, Sgeti am 3.00yp. Fe'i gladdwyd ym mynwent Pant y Crwys, Craig Cefn Parc.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 "Hysbysiad marwolaeth Sion Alun". funeral-notices.co.uk (yn Saesneg). 2012-10-08. Cyrchwyd 2024-10-23.
  2.  Cymdeithas yr Iaith yn 50 oed: Dylanwadau Cristnogol ar y mudiad. Mudiad Efengylaidd Cymru. Adalwyd ar 31 Ionawr 2016.
  3. "Sioe: 'Angen gofal yn y gwres'". BBC News. 26 Gorffennaf 2006. Cyrchwyd 24 Hydref 2024.
  4. Gweinidog ac ymgyrchydd adnabyddus yn marw , Golwg 360, 4 Hydref 2012.