Siôn Alun Davies

actor

Mae Siôn Alun Davies (weithiau, camsillefir heb yr hirnod fel Sion Alun Davies) yn actor o Gymro. Fe'i fagwyd yng Nghaerdydd.[1]

Siôn Alun Davies
Man preswylCaerdydd, Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor Edit this on Wikidata
Nid i'w ddrysu gyda'r gweinidog ac ymgyrchydd iaith, Siôn Alun, 1955 - 2012

Bu iddo astudio yn y Ysgol Gerdd a Drama y Guildhall, Llundain, gan raddio gyda yn 2012.[2]

Ymddangosiadau Ffilm a Theledu

golygu

Mae Siôn Alun wedi ymddangos mewn sawl cyfres deledu a ffilm yn y Gymraeg a'r Saesneg gan gynnwys.

Cymraeg: Ymysg ei ymddangosiadau yn y Gymraeg mae ffilm arswyd Gwledd (2021), Craith (2018) a'r gyfres ddrama deledu, 35 Diwrnod (2015), Y Mabinogi (2005).

Saesneg: Mae wedi ymddangos yn y cyfresi a dramâu Saesneg, Hidden (fersiwn Saesneg Craith, gweler uchod) lle chwaraeodd un i'r prif rannau fel DC Owen Vaughan, Britannia (2017) a The Left Behind (2019).[3]

Ymddangosiadau Theatr

golygu

Ymysg ei waith actio llwyfan mae:

'A Soldier and a Maker' (Barbican)
'Outside on the Street' (Pleasance/Arcola)
'Velocity' (Finborough)
'The Lady from the Sea' (National Theatre Wales)
'My People' (Clwyd Theatr Cymru).

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Siôn Alun Davies". Gwefan Loud and Clear Voices. Cyrchwyd 27 Awst 2022.
  2. "Siôn Alun Davies". Asiantaeth Conway Van Gelder Grant. Cyrchwyd 27 Awst 2022.
  3. "Sion Alun Davies". IMDb. Cyrchwyd 27 Awst 2022.

Dolenni allanol

golygu