Siôn ap Siôn
Roedd Siôn ap Siôn neu John ap John (tua 1625 - 16 Tachwedd 1697) yn gennad dros y Crynwyr yng Nghymru.[1]
Siôn ap Siôn | |
---|---|
Ganwyd | 1625 Rhiwabon |
Bu farw | 16 Tachwedd 1697 Stafford |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | arweinydd crefyddol |
Cefndir
golyguGanwyd Siôn ym Mhen-y-cefn, Rhiwabon, Sir Ddinbych, mae'n bosib mae Siôn ap Siôn oedd enw ei dad hefyd. Mae'n debyg ei fod wedi ei addysgu yn ysgol ramadeg Wrecsam a'i fod wedi dod o dan ddylanwad y piwritan Walter Cradock, oedd yn gwasanaethu fel ciwrad Wrecsam ym 1635.[2]
Gyrfa
golyguYn ystod cyfnod Cromwell fel Arglwydd Amddiffynnwr Lloegr, roedd Siôn yn gefnogol i blaid y Piwritaniaid a fu yn aelod o gynulleidfa Morgan Llwyd yn Wrecsam. Mae'n debyg ei fod wedi bod yn bregethwr Piwritanaidd a'i fod wedi e ddanfon gan Lwyd i Fiwmares yn y 1640au i fod yn bregethwr i'r garsiwn o filwyr seneddol oedd yno. Wedi clywed am Gymdeithas y Cyfeillion oedd yn cael ei arwain gan George Fox danfonodd Morgan Llwyd Siôn i Swydd Gaerhirfryn i gyfarfod a Fox ac i adrodd yn ôl am ei fudiad.[3] O ganlyniad i'r cyfarfod hwn cafodd Siôn ei argyhoeddi gan neges y Crynwyr. Trodd ei gefn ar Lwyd a Phiwritaniaeth a daeth yn bregethwr a chenhadwr nodedig i'r Crynwyr yng Nghymru.[4]
Sefydlodd Siôn ei gynulleidfa gyntaf o Grynwyr ym Mhen-y-cefn ym 1653. O 1654 ymlaen aeth ar nifer o deithiau pregethu ledled Cymru a'r gororau. Weithiau ar ei ben ei hun ac weithiau ar y cyd â Fox fel ei gyfieithydd. Cafodd ei garcharu ar sawl achlysur yn ystod y teithiau hyn. Cafodd lwyddiant mawr fel cennad gan sefydlu cymunedau sylweddol o Grynwyr yn Siroedd Morgannwg, Penfro, Trefaldwyn, Meirionnydd, Dinbych a'r Fflint.[5]
O 1667 bu'n allweddol wrth drefnu cyfarfodydd misol, chwarterol a blynyddol Cymreig a alluogodd y gymdeithas i oroesi a ffynnu, yn enwedig ar adegau o erledigaeth neu pan geisiodd llawer o Grynwyr y wlad loches yn America. Ym 1681 prynodd Siôn ap Siôn a Thomas Wynne, barbwr-llawfeddyg y Crynwyr o Gaerwys, 5000 erw yn Pennsylvania am swm cychwynnol o £ 100 gyda'r bwriad o gynorthwyo Cyfeillion a oedd yn barod i ymfudo. Ef, felly, oedd 'tad y "Parth Cymreig" yn Pennsylvania.
Ym 1683 cyhoeddodd John Tystiolaeth o Gariad ac Ewyllys Da - cyfieithiad o Testimony of Love and Good Will (1680) gan John Songhurst [6] oedd yn galw ar Grynwyr i fod yn deyrngar i'r gwirionedd a'r goleuni. Mynychodd hefyd lawer o gyfarfodydd blynyddol Cymru a chynhaliodd gyfarfod blynyddol 1693 yn ei gartref ei hun.[7]
Teulu
golyguYm 1663 priododd Siôn â Catherine Edwards, gweddw Dafydd ab Edward, Plas Efa, Trefor a bu'n ariannu ei genhadaeth o incwm yr ystâd a rhyddfreiniau eraill oedd ganddo yn Llangollen a Rhyddallt.
Marwolaeth
golyguWedi marwolaeth ei wraig ym 1695 aeth Siôn i fyw gyda Pheobe ei ferch a John Mellor ei fab yng nghyfraith yn Whitehough Manor, Ipstones, Swydd Stafford. Yno bu farw ym 1697, claddwyd ei weddillion ym mynwent blwyf Basford gerllaw.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "JOHN ap JOHN (1625? - 1697) — Apostol y Crynwyr yng Nghymru | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-10-21.
- ↑ "John ap John (c. 1625–1697), Quaker leader". Oxford Dictionary of National Biography. doi:10.1093/ref:odnb/61973. Cyrchwyd 2020-10-21.
- ↑ "Y Crynwyr – Cymdeithas Grefyddol y Cyfeillion". Addoldai Cymru. Cyrchwyd 2020-10-21.
- ↑ "Crynwyr Cymru". www.westkentquakers.org.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-10-23. Cyrchwyd 2020-10-21.
- ↑ Levick, James J. (1893). "The Early Welsh Quakers and Their Emigration to Pennsylvania". The Pennsylvania Magazine of History and Biography 17 (4): 385–413. ISSN 0031-4587. https://www.jstor.org/stable/20083557.
- ↑ The Journal of the Friends' Historical Society 1903 tud. 66
- ↑ William Gregory Norris, Norman Penney (1907). John Ap John and Early Records of Friends in Wales. Headley Brothers.