Siôn Gymro
- Am y Gweinidog gyda'r Annibynwyr, ieithydd ac esboniwr gweler John Davies (Siôn Gymro)
Roedd Siôn Gymro (geni Cymru 13 Ganrif – marw Paris 1285) yn ddiwinydd Ffransisgaidd a ysgrifennodd nifer o lyfrau diwinyddol mewn Lladin, yn Rhydychen a Pharis yn niwedd y 13 ganrif. Roedd ei lyfrau yn ymwneud â chymorth i bregethu yn bennaf. Cyfeirir ato hefyd fel Johannes Guallensis, John Waleys a John of Wales.[1]
Siôn Gymro | |
---|---|
Ganwyd | 13 g Cymru |
Bu farw | 3 Ebrill 1285 Paris |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | athronydd, diwinydd, academydd, deddfegydd cyfraith yr eglwys, llenor, addysgwr |
Blodeuodd | 1260 |
Cyflogwr |
Bywyd
golyguCafodd ei eni tua 1210-1230, bron yn sicr yng Nghymru, gan ei fod wedi ei dderbyn i'r Urdd Ffransisgaidd o fynachod ym mynachlog Llan-faes,[2] mae'n debyg mae un o Fôn ydoedd. Dechreuodd astudio diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Rhydychen rywbryd cyn 1258. Ar ôl hyn, fe ddysgodd yno hyd 1270 pan symudodd i Baris, lle bu'n byw hyd ei farwolaeth tua 1285.[3] Roedd yn ddiwinydd moesol ac yn edmygwr mawr o'r byd hynafol, gan ymgorffori llawer o awduron clasurol i'w waith. Un o'i ddisgyblion ym Mhrifysgol Rhydychen oedd y diwinydd o'r Alban Duns Scotus.[2]
Gwaith
golyguYsgrifennodd sawl gwaith yn Lladin, gyda llwyddiant mawr. Y rhai pwysicaf yw'r canlynol:
- Breviloquium de philosophia, sive sapientia sanctorum (Triniaeth fer am athroniaeth, neu ddoethineb y saint), wedi'i gyfieithu i Gatalaneg yn y 15g..
- Compendiloquium, sy'n grynodeb o hanes athroniaeth.
- Communiloquium neu Summa collationum, sy'n fath o lawlyfr ar gyfer offeiriaid a phregethwyr, a chafodd ei gyfieithu i'r Gatalaneg yn y 14g.
- Rhifyn digidol o'r argraffiad argraffedig cynnar Cologne 1472
- Rhifyn digidol o'r argraffiad argraffedig cynnar Ulm 1481
- Rhifyn digidol o'r argraffiad argraffedig cynnar Strasbourg 1489
- Astudiaeth
- Jenny Swanson, John of Wales: A Study of the Work and Ideas of a Thirteenth Century Friar. Cambridge Papers in Medieval Life and Thought. Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 2007. ISBN 9780521520324
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Swanson, Jenny. John of Wales: A Study of the Works and Ideas of a Thirteenth-Century Friar. Cambridge, 1989.
- ↑ 2.0 2.1 Gwerddon; Dr Carys Moseley, Moeseg Cyfraith Naturiol Johannes Duns Scotus: a oes ganddi gysylltiadau ‘Cymreig’? Archifwyd 2020-09-22 yn y Peiriant Wayback adalwyd 24 Hydref 2015
- ↑ El cercador de referència en català; Joan de Gal·les adalwyd 24 Hydref 2018