Capel Garmon (siambr gladdu)

siambr gladdu

Mae siambr gladdu Capel Garmon yn siambr gladdu o'r cyfnod Neolithig gerllaw pentref Capel Garmon yn sir Conwy.

Capel Garmon
Mathsiambr gladdu Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.072998°N 3.76579°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganCadw Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethCadw Edit this on Wikidata
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwDE001 Edit this on Wikidata

Mae'r siambr gladdu yma yn anarferol yng ngogledd Cymru gan ei bod yn perthyn i'r grŵp Beddrodau Hafren-Cotswold. Ceir y rhan fwyaf o'r rhain yn ne-ddwyrain Cymru a'r ardaloedd cyfagos o Loegr, ac mae rhai ysgolheigion wedi dyfalu fod grŵp o bobl o'r ardal yma wedi ymsefydlu yn y gogledd.

Capel Garmon.

Gellir gweld gweddillion tomen hirsgwar, sydd a'i ymylon wedi eu nodi gan res o gerrig. Ar yr ochr ddwyreiniol mae porth ffug, nad yw'n cynnig ffordd i mewn i'r domen. Roedd y fynedfa go-iawn ar yr ochr ddeheuol, gyda chyntedd yn agor allan i ystafell sgwâr, a dwy siambr gladdu grwn bob ochr iddi. Mae'r maen capan yn dal yn ei le dros y siambr orllewinol. Bu cloddio archaeolegol yma yn 1925, pan ail-adeiladwyd y rhan uchaf o'r waliau cerrig rhwng y meini mwy ar hyd yr ochrau; mae'r rhannau isaf yn wreiddiol.

Dywedir i'r beddrod gael ei ddefnyddio fel stabl yn y 19g, ac mae'n debyg mai yr adeg honno y tynnwyd un o'r meini o'r siambr orllewinol. Trwy'r bwlch yma y ceir mynediad i mewn i'r siamberi heddiw, yn hytrach nag ar hyd y cyntedd gwreiddiol. Mae arwyddbost yn cyfeirio i'r siambr gladdu o'r ffordd fechan sy'n arwain i'r de-ddwyrain o'r pentref, a gellir dilyn llwybr cyhoeddus tuag ati. Mae'r beddrod dan ofal Cadw.

Delweddau

golygu

Llyfryddiaeth

golygu
  • Frances Lynch, Gwynedd, A Guide to Ancient and Historic Wales (Llundain: HMSO, 1995)


  Beddrodau Hafren-Cotswold yng Nghymru  

Capel Garmon | Gwernvale | Parc le Breos Cwm | Tinkinswood