Japaneaid
(Ailgyfeiriad o Siapanwyr)
Pobl o Japan yw'r Japaneaid (Japaneg: 日本人 Nihon-jin) neu'r Siapaneaid. Defnyddir y gair gan amlaf i ddisgrifio pobl sydd o genedligrwydd neu ethnigrwydd Japaneaidd; mae tua 130 miliwn o Japaneaid yn byw ledled y byd, 127 miliwn ohonynt yn Japan ei hun.
日本人 | |
---|---|
Cyfanswm poblogaeth | |
130 miliwn | |
Ardaloedd gyda niferoedd sylweddol | |
Siapan: 127 miliwn · Brasil: 1.5 miliwn · Yr Unol Daleithiau: 900 000 · Y Philipinau: 100 000–200 000 · Periw: 80 000 · Canada: 55 000 · Yr Ariannin: 32 000–50 000 · Mecsico: 12 000 · Awstralia: 11 000 · Yr Almaen: 9000 | |
Ieithoedd | |
Siapaneg (Ryukyuaneg, Ainueg) | |
Crefydd | |
Shinto, Bwdhaeth | |
Grwpiau ethnig perthynol | |
Yamato, Ryukyuaniaid, Ainu, rhai Asiaid |
Rhai Japaneaid enwog
golygu- Kūkai (774 - 835) – llenor a mynach
- Sei Shōnagon (blodeuai ar ddiwedd y 10g a dechrau'r 11eg) : llenores o'r cyfnod Heian
- Murasaki Shikibu (c. 973 - c. 1014) – nofelydd a chyfoeswr Sei Shōnagon
- Matsuo Bashō (1644 - 28 Tachwedd 1694) – bardd haiku enwocaf Japan
- Kitagawa Utamaro (tua 1753 - 31 Hydref 1806) – arlunydd ukiyo-e
- Utagawa Hiroshige (1797 - 12 Hydref 1858) – arlunydd ukiyo-e
- Hirohito (Ymerawdwr Shōwa) (29 Ebrill 1901 - 7 Ionawr 1989) – 124fed ymerawdwr Siapan