Sidan (band)

Band Cymraeg pop a roc ysgafn a ffurfiwyd gan bedair o ddisgyblion Ysgol Glan Clwyd yn 1972.

Grŵp o ddisgyblion Ysgol Glan Clwyd oedd SidanCaryl Parry Jones, Gaenor Roberts, Sioned Mair, Meinir Evans a Gwenan Evans.

Sidan
Enghraifft o'r canlynolband Edit this on Wikidata
Dod i'r brig1972 Edit this on Wikidata
Dod i ben1976 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1972 Edit this on Wikidata
GenrePop Cymraeg, cerddoriaeth boblogaidd Edit this on Wikidata
Caryl Parry Jones, un o aelodau Sidan a aeth ymlaen wedyn i greu Bando a gyrfa fel cantores, cyfansoddwraig, a pherfformiwr ar ei ben ei hun

Yn ôl y nodiadau ar gefn clawr y record Lliwiau, "Daeth Sidan i Amlygrwydd ar ôl ennill y gystadleuaeth canu ysgafn yn Eisteddfod Jiwbili yr Urdd yn y Bala yn 1972, yna y gystadleuaeth radio ‘Dewch i'r Llwyfan’".[1]

Bu iddynt gyhoeddi 2 record EP, Lliwiau ac Ai Cymro wyt Ti?, ac un record hir, “Teulu Yncl Sam” (Sain 1017, 1975, hefyd ar gasét Sain C517). Bu i’r grŵp hefyd gyfrannu tuag at recordiau eraill, fel Gorffennwyd! (stori’r Pasg) yn 1976.[1]

Wedi diwedd Sidan, aeth Caryl Parry Jones ymlaen i fod yn aelod o Injaroc ac yna Bando, ac yna fel cantores, cyfansoddwraig a pherfformwraig boblogaidd a dylanwadol.

Disgograffi golygu

Rhyddhaodd Sidan ond 3 record yn eu gyrfa byr ond poblogaidd. Cyhoeddwyd pedwerydd record ar y cyd gyda'r grŵp boblogaidd arall o'r 1970au, Mynediad am Ddim yn 1976.[2]

Senglau EP golygu

Caneuon: A1 Lliwiau, A2 Cymylau.[3] Ochr B: B1 Amser, B2 Sara
Caneuon: A1 Ai Cymro Wyt Ti?, A2 Gobaith; B1 Dyddiau Gwell, B2 Achub yr Iaith.

Recordiau Hir golygu

Caneuon: A1 Helo, A2 Y Rhwyd, A3 Carol, A4 Doli Glwt, A5 Gwynt Yr Haf, A6 Ble'r Ei Di, A7 Dwi Ddim Isio... Ochr B: B1 Dyn Yr Eira, B2 Paid  Deud, B3 Gwyll, B4 Di-Enw,[4] B5 Canaf Gân, B6 Yr Haf, B7 Ar Goll,[5] B8 Ffarwel.[2]
Caneuon: Af At Fy Mhobl, Mynediad i Jerusalem, Mair Magdalen, Tŷ Fy Nhad, Y Cynllwyn, Y Swper Olaf, Jiwdas, Gethsemane, Yr Achos, Pedr, Y Groes, Y Trydydd Dydd.

Amlgyfrannog golygu

Yn ogystal â rhyddhau recordiau o dan eu henw ei hun, ceir caneuon Sidan ar recordiau amlgyfrannog hefyd.

  • Goreuon Sain 1974 gyda'r gân Lliwiau.[6]
  • Rhannu'r Hen Gyfrinachau Byd Canu Pop a Gwerin Cymru 1965-1975 a gyhoeddwyd yn 2017 gan Sain gyda'r gân Cymylau.[7]
  • Welsh Rare Beat Vol.1 : 70's Progressive Rock Pop Folk Music Bands Compilation From Wales a gyhoeddwyd ar label Finers Keepers yn 2005 gyda'r gân Di-enw.[8]

Dolenni allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Sidan". Y Blog Recordiau Cymraeg. 30 Mai 2021.
  2. 2.0 2.1 "Sidan". Discogs. Cyrchwyd 16 Ebrill 2024.
  3. "Cymylau". LP 'Rhannu'r Hen Gyfrinachau Byd Canu Pop a Gwerin Cymru 1965-1975'. 23 Medi 2021.
  4. "Various – Welsh Rare Beat Vol.1 : 70's Progressive Rock Pop Folk Music Bands Compilation From Wales". Finders Keepers Records ar Youtube. 2005.
  5. "Sidan - Ar Goll [Teulu Yncl Sam] 1975". Youtube. 2010.
  6. "Goreuon Sain 1974". Goreuon Sain 1974 ar Youtube. 26 Medi 2019.
  7. "Cymylau". LP 'Rhannu'r Hen Gyfrinachau Byd Canu Pop a Gwerin Cymru 1965-1975'. 23 Medi 2021.
  8. "Various – Welsh Rare Beat Vol.1 : 70's Progressive Rock Pop Folk Music Bands Compilation From Wales". Finders Keepers Records ar Youtube. 2005.
  Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato