Sioe Flodau'r RHS, Caerdydd

Cynhaliwyd Sioe Flodau'r Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol, Caerdydd ym Mharc Bute gerllaw Castell Caerdydd o 2005 hyd 2019. Gan ddenu dros 20,000 o ymwelwyr bob blwyddyn,[1] hon oedd sioe flodau fawr gyntaf y flwyddyn yng nghalendr y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol (RHS).[2]

Sioe Flodau'r RHS, Caerdydd
Arddangosfa yn sioe 2009
Math o gyfrwngsioe flodau, digwyddiad blynyddol Edit this on Wikidata
Prif bwncgarddio Edit this on Wikidata
Map
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
RhanbarthCaerdydd Edit this on Wikidata

Roedd sioeau wedi'u cynllunio ar gyfer 2020 a 2021 ond cawsant eu canslo o ganlyniad i gyfyngiadau a osodwyd yn sgil Pandemig COVID-19. Roedd y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol (RHS) yn disgwyl colli hyd at £18 miliwn yn 2021 yn sgil colledion o achos Covid.[3]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Y Sioe Flodau yn agor ei drysau fory". Pobl Caerdydd. 16 Ebrill 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-10-04. Cyrchwyd 2022-10-04.
  2. "The history of RHS Flower Show Cardiff" Archifwyd 2022-09-22 yn y Peiriant Wayback, Gwefan RHS; adalwyd 22 Medi 2022
  3. "Gohirio Sioe Flodau Caerdydd yn dilyn colledion yn sgil y pandemig". Golwg360. 2020.

Dolenni allanol

golygu