Skol an Emsav
Sefydliad hyfforddi oedolion yw Skol an Emsav ("Ysgol y Mudiad [Llydaweg]") sy'n darparu dosbarthiadau nos i ddysgu Llydaweg ac ar hanes Llydaw, yn bennaf yn ninas Roazhon a Bro Roazhon.
Enghraifft o'r canlynol | ysgol |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1979 |
Sylfaenydd | Tangi Louarn, Youenn Olier |
Rhanbarth | Roazhon |
Gwefan | https://www.skolanemsav.bzh/ |
Sefydlu
golyguSefydlwyd y mudiad yn 1969 gan Pol Kalvez, Youenn Olier a Tangi Louarn ar gyfer dysgu Llydaweg fel “iaith gyfathrebu fodern”.[1] Bu Léna Louarn (chwaer Tangi) yn rhedeg y ganolfan addysg oedolion am ugain mlynedd cyn iddi symud i swydd pennaeth Ofis ar Brezhoneg, ond cyn 1981 roedd yn fudiad diwylliannol eithaf gweithgar yn y pentrefi Llydewig.
Symudiad diwylliannol
golyguYmddangosodd fel cangen ddiwylliannol o Emsav ar Bobl Vrezhon, mudiad gwleidyddol sydd bellach wedi darfod, a ymatebodd i ddiarddel Youenn Olier a Pol Kalvez o Emsav ar Stad Brezhon (ESB), i greu strwythur llawer mwy hanfodol arall, Skol An Emsav.
Sefydlodd Pol Kalvez, Youenn Olier a Tangi Louarn y sefydliad hwn yn 1970, a daeth Imbourc'h yn gyhoeddiad answyddogol iddi. Ysywaeth, yn fuan daeth y ddwy genhedlaeth ben-ben gyda'u gilydd. Yn fras, ar un 'ochr' roedd y rhai a ystyrir yn genedlaetholwr ac yn Gatholig,[2] am hyrwyddo'r angen i ddarparu addysg er mwyn ffurfio elît sy’n siarad Llydaweg. Ar ochr arall y ddadl roedd y to iau oedd yn cynnwys pobl fel Herbé Latimier. Roedd y grŵp bras yma yn fwy dueddol o ymuno â’r bobl (honedig) gan ddangos cefnogaeth i ddigwyddiadau fel streic y Joint Français yn Sant-Brieg ac roeddynt yn gogwyddo i’r asgell chwith, gan wrthod y dreftadaeth Gristnogol (gw. y cylchgrawn dychanol Yod Kerc'h) ac yn amddiffyn Llydaweg mwy poblogaidd a bywiog.
O 1968 ymlaen dewiswyd y llinell boblogaidd (yn hytrach nag un elitaidd Gwalarn a Saded). Ar ôl Cyngres Gwengamp Skol an Emsav ym 1972, collodd Pol Kalvez yr arlywyddiaeth ac ymbellhaodd Youenn Olier oddi wrthi.
Bu plaid wleidyddol asgell chwith radical o blaid annibyniaeth i Lydaw, Emgann yn fudiad a ddatblygodd allan o waith breinaru SAE.
Gwaddol Skol ar Emsav
golyguGouel ar Brezhoneg
golyguYn 1974 creodd milwriaethwyr Skol an Emsav gŵyl ddiwylliannol ar hyd llinellau bras yr Eisteddfod Genedlaethol, sef Gouel Ar Brezhoneg[3] ("Gŵyl y Lydaweg") a ddaeth i ben y eu hymgorffori ad wreiddiol yn 1985 ond yna, ailgafaelwyd ar y digwyddiad gan eraill a newid yr enw i Gouel Broadel ar Brezhoneg yn 1987. Mae Gouel Broadel ar Brezhoneg wedi bod trwy sawl cyfnod anodd lle na chynhaliwyd y ŵyl o gwbl hyd yn oed, ond mae'n dal i'w chynnal, er, nid o dan adain SAE.
Ysgolion Diwan
golyguYm 1976 crëwyd ysgolion Diwan diolch i waith paratoi gan aelodau SAE, a ysbrydolwyd gan lwyddiant yr ikastola Basgeg a’r ysgolion meithrin Cymraeg. Mae Diwan yn dal i fodoli a thyfu.
Cylchgrawn Bremañ'
golyguDaerth Bremañ yn gylchgrawn misol o wybodaeth gyffredinol yn yr iaith Lydaweg. Crëwyd hi yn 1981 gan Skol an Emsav, ac ar ôl blynyddoedd lawer mae'n mwynhau strwythur annibynnol. Mae Stourm ar Brezhoneg yn gymdeithas o anghydffurfwyr o Skol An Emsav.
Skol an Emsav heddiw
golyguWedi'r 1980au, daeth Skol An Emsav, sydd wedi'i leoli yn Roazhon, yn sefydliad hyfforddi. Mae'n cynnig cyrsiau nos ac arosiadau iaith. Bu Lena Louarn yn bennaeth rhwng 1989 a 2010, wedyn Gwenvael Jéquel tan 2020 a Gwenael Dage ers 2021.
Gwneir gwaith mwy radical wleidyddol o ymladd dros hawliau'r iaith Lydaweg gan grwpiau megis Ai'ta! a sefydlwyd yn 2005.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Georges Cadiou (2013). EMSAV - Dictionnaire critique, historique et biographique - Le mouvement breton de A à Z (yn Ffrangeg). Spézet: Coop Breizh. ISBN 978-2-84346-587-1. Cadiou2013..
- ↑ cf. la revue satirique Nodyn:Link
- ↑ Jeanne Toutous (Hydref 2020). "Gouel broadel ar brezhoneg : la fête, la lutte et la tradition". BCD, Sevenadurioù.
Dolenni allanol
golygu- Gwefan swyddogol skolanemsav.bzh
- Facebook Skol an Emsav