Hen Slafoneg Eglwysig
Hen Slafoneg Eglwysig (словѣньскъ ѩзыкъ slověnĭskŭ językŭ) | |
---|---|
Siaredir yn: | Bwlgaria, Macedonia ac fel iaith eglwysig yng ngwledydd Slafig uniongred eraill |
Parth: | Dwyrain Ewrop |
Cyfanswm o siaradwyr: | wedi marw; defnyddir fel iaith eglwysig yn unig |
Safle yn ôl nifer siaradwyr: | dim siaradwyr iaith gyntaf |
Achrestr ieithyddol: | Indo-Ewropeaidd Balto-Slafeg |
Statws swyddogol | |
Iaith swyddogol yn: | yr eglwysi Slafig uniongred |
Rheolir gan: | neb |
Codau iaith | |
ISO 639-1 | cu |
ISO 639-2 | chu |
ISO 639-3 | chu |
Gweler hefyd: Iaith – Rhestr ieithoedd |
Iaith ysgrifenedig gyntaf y Slafiaid yw Hen Slafoneg Eglwysig neu Hen Slafoneg (hefyd: Hen Fwlgareg, weithiau Hen Facedoneg). Iaith lenyddol yw hi a ddatblygodd ar sail tafodiaith Slafeg Thessaloniki y cenhadwyr Cristnogol, Sant Cyril a Sant Methodius. Defnyddiasant yr iaith ar gyfer eu cyfieithiadau o'r Efengylau a thestunau crefyddol eraill yn ystod eu cenhadaeth ym Morafia ac wedyn yn y tiroedd Slafig deheuol. Ar ôl y cyfnod cynnar, defnyddiwyd fel iaith eglwysig yn yr holl wledydd Slafig uniongred, a datblygodd ar amrywiol ffurfiau yn y gwahanol wledydd gan arwain at fersiynau cenedlaethol gwahanol o Slafoneg Egwlysig. Fe'i defnyddir o hyd fel iaith litwrgi yr eglwysi Slafig uniongred.
Y cenadaethau
golyguEr bod rhai cyfeiriadau amwys at ysgrifennu iaith Slafeg cyn canol y 9g, does dim tystiolaeth bendant i iaith Slafeg gael ei hysgrifennu cyn cenadaethau Sant Cyril a Sant Methodiws i Morafia yng nghanol yr 860au. Aethant yno ar ôl ymbil gan Dywysog Rastislav o Morafia Fawr i'r Ymerawdwr Mihangel III i anfon cenhadon i bregethu i'w bobl. O 863 ymlaen dechreuodd y seintiau a'u disgyblion gyfieithu'r Efengylau, y Salmau a darnau arall o'r Beibl i'w Hen Slafoneg. Gyrrwyd y cenhadon allan o Morafia tua 885 yn sgîl ymryson â chlerigwyr Catholig Almaenig, ond aethant ymlaen â'u gwaith yn y tiroedd Slafig deheuol.
Testunau'r 'canon' Hen Slafoneg Eglwysig
golyguYn ystod y cenadaethau, cyfieithodd Cyril a Methodiws a'u disgyblion yr Efengylau a nifer o destunau crefyddol eraill i'r Hen Slafoneg o tua 863 ymlaen. Mae'r cyfieithiadau hyn ar glawr heddiw mewn nifer o lawysgrifau diweddarach wedi'u copïo mewn gwahanol wledydd. Mae iaith y testunau hyn yn adlewyrchu nodweddion ieithoedd Slafeg Deheuol gyda chymysgedd o nodweddion yr ieithoedd Slafeg Gorllewinol o Morafia mewn rhai achosion. Maen nhw hefyd yn amrywio i ryw raddau yn ôl iaith yr ardall lle cawsant eu copïo wedyn. Roedd y tafodieithoedd Slafeg yn debygach i'w gilydd yr adeg hynny nag y maen nhw heddiw. Mae'n debyg felly i Cyril a Methodiws ddefnyddio eu tafodiaith Slafeg Ddeheuol fel sail i'r cyfieithiadau gan ei haddasu rywfaint i'r sefyllfa leol. Ysgrifennwyd y testunau cynharach yn yr wyddor Glagolitig, system ysgrifennu a ddyfeisiwyd gan Cyril a Methodiws. Yn gyffredinol, mae'r testunau hwyrach yn tueddu i ddefnyddio'r wyddor Gyrilig.
Dyma'r brif lawysgrifau yn y 'canon' Hen Slafoneg Eglwysig:
- Codex Assemanianus (ail hanner y 10g neu hanner cynta'r 11eg, Macedonia): llithlyfr o'r Efengylau a nodiadau ar y calendr, wedi'i ysgrifennu yn yr wyddor Glagolitig;
- Savvina Kniga (11g, Bwlgaria): llithlyfr anghyflawn o'r Efengylau (Cyrilig);
- Codex Zographensis (diwedd y 10g neu ddechrau'r 11eg, Macedonia): Efengylau (Tetraevangelia) (Glagolitig);
- Codex Marianus (dechrau'r 11g, Macedonia): Efengylau (Tetraevangelia) (Cyrilig);
- Psalterium Sinaiticum (11g, Macedonia)
- Euchologium Sinaiticum (11g)
- Codex Suprasliensis (11g, Bwlgaria)
- Glagolita Clozianus (11g, Macedonia)
- Dalennau Kiev (10eg ganrif): y testun cynharaf mewn unrhyw iaith Slafeg a'r testun Hen Slafoneg Eglwysig sy'n dangos y maint mwyaf o nodweddion Morafaidd.
Enw'r Hen Slafoneg Eglwysig
golyguMae'r testunau ei hun yn galw'r iaith yn 'Slafoneg' yn unig. Yn ystod y 19g, daeth yn glir bod y llawysgrifau yn cynnwys nifer o nodweddion na cheid ond yn yr ieithoedd Slafeg deheuol, ac, yn arbennig, mewn Bwlgareg. Felly roedd rhai ysgolheigion yn y 19eg a dechrau'r 20g yn galw'r iaith yn 'Hen Fwlgareg'. Ond mae'r term hwn yn awgrymu bod Bwlgareg Modern wedi datblygu'n uniongyrchol o'r iaith honno, a hefyd mae'n anwybyddu'r ffaith bod yr iaith yn cynnwys elfennau nifer o dafodieithoedd Slafeg Deheuol a gorllewinol yn ôl tarddiad y llawysgrifau, ac i'r iaith gael ei defnyddio y tu fewn ac y tu allan o Fwlgaria ei hun. Heddiw dim ond ym Mwlgaria y defnyddir y term 'Hen Fwlgareg'. Yn y gorllewin, y term arferol yw 'Hen Slafoneg Eglwysig', ac yn nwyrain Ewrop 'Hen Slafoneg'.