Roedd Smart Atkinson Arridge (21 Mehefin, 187219 Hydref, 1947) yn bêl-droediwr Cymreig. Bu'n chware pêl-droed i dimau Dinas Bangor, Bootle, Everton, New Brighton Tower a Stockport County. Bu hefyd yn chware i dîm cenedlaethol Cymru.[1]

Smart Arridge
Ganwyd21 Mehefin 1872 Edit this on Wikidata
Southwick Edit this on Wikidata
Bu farw19 Hydref 1947 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethpêl-droediwr Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auEverton F.C., C.P.D. Dinas Bangor, Bootle F.C., New Brighton Tower F.C., Stockport County F.C., Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
SafleCefnwr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Cefndir

golygu

Ganwyd Arridge yn Southwick, pentref ar lan ogleddol yr Afon Wear sydd wedi cael ei amsugno i mewn i ddinas Sunderland bellach. Roedd yn blentyn i John Arridge gwneuthurwr esgidiau ac Isabella ei wraig. Pan oedd Smart yn blentyn symudodd y teulu i Fangor.[2]

Cafodd Arridge ei addysgu yn Ysgol Friars Bangor a bu'n aelod o gôr Cadeirlan Bangor.[3]

Ar ôl gadael yr ysgol ymunodd Arridge a'r Llynges Fasnachol yn Lerpwl.[4] Dim ond blwyddyn bu ar y môr cyn i bêl droed ei ddenu yn ôl i dir sych. Wedi i'w yrfa pêl-droed darfod bu'n rhedeg busnes gwerthu dodrefn, yn gasglwr tollau ar bier Bangor ac yn gweithio fel dociwr ym Mhorth Penrhyn yn llenwi llongau gyda llechi o Chwarel y Penrhyn.[2]

Gyrfa pêl-droed clwb

golygu

Yn 15 mlwydd oed ymunodd Arridge â Dinas Bangor gan chwarae ei gêm gyntaf i'r tîm ym mis Mawrth 1888 [5] fel asgellwr chwith, ddwy flynedd yn ddiweddarach cafodd ei droi'n gefnwr.

Ym mis Ebrill 1891, wedi creu argraff yn chware dros Fangor mewn gêm gyfeillgar yn erbyn tîm wrth gefn Everton, gwahoddwyd Smart i chwarae dan dreial ar gyfer Bootle mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Wolves. Llofnododd Bootle ef am y tymor nesaf. Roedd ei gynnydd mor gyflym fel bod Smart wedi ennill capteniaeth y clwb erbyn diwedd y tymor. Ar gyfer tymor 1892/93 daeth Bootle FC yn un o sylfaenwyr Ail Adran newydd y Cynghrair Pêl-droed; Gwnaeth Smart ei ymddangosiad cyntaf yn y gystadleuaeth honno ar 3 Medi yn erbyn Ardwick (i'w ailenwi'n fuan yn Manchester City). Ymddangosodd 21 gwaith i'r tîm y tymor hwnnw. Pan ymddiswyddodd Bootle o'r Gynghrair Bêl-droed ar ôl un tymor yn unig, symudodd Arridge i Everton ym mis Awst 1893 am gyflog o £3 yr wythnos.

O herwydd cystadleuaeth gan Bob Howarth a Charlie Parry am safle'r cefnwr chwith prin fu ymddangosiadau Arridge yn ei dymor cyntaf yn Everton. Dau ymddangosiad dros gyfnod y Nadolig oedd ei unig gyfraniad i dymor 1893/94 a bu'n rhaid iddo ddisgwyl 14 mis cyn cael cyfle i chware eto. Symudodd Parry i Ardwick yn nhymor 1895/96, gan roi cyfle i Arridge dod yn chwaraewr rheolaidd i'r clwb.

Ar ôl 56 ymddangosiad gynghrair a chwpan i dîm cyntaf Everton, rhoddwyd Arridge ar gael i'w drosglwyddo ym 1897 am ffi o £100. Heb unrhyw gynigion derbyniol gan glybiau'r gynghrair, fe dderbyniodd symudiad i New Brighton Tower yng Nghynghrair Swydd Gaerhirfryn. Cadwodd Everton ei gofrestriad hyd i'r clwb newydd gael ei ethol i'r Gynghrair Bêl-droed ar gyfer tymor 1898/99, flwyddyn yn ddiweddarach. Yng ngwyneb presenoldeb gwael a gwasgiad ariannol, daeth New Brighton Tower i ben yn ystod yr haf 1901. Symudodd Arridge ymlaen i Stockport County yn yr Ail Adran - gan wasanaethu fel capten y clwb dros ddau dymor. Ymddeolodd o bêl-droed Lloegr ar ôl 67 ymddangosiad ar gyfer Stockport ym mis Ebrill 1903. Yn dilyn hynny dychwelodd i'w ddinas enedigol ym Mangor. Yn y lle cyntaf, roedd yn aelod o dîm Hen Fechgyn Dinas Bangor cyn dychwelyd i'r tîm cyntaf fel capten gan chware hyd 1906.

Gyrfa ryngwladol

golygu

Er ei fod wedi ei eni yn Lloegr i rieni Seisnig ac, o dan reolau'r cyfnod, dim ond yn gymwys i chware i Loegr [6] dewiswyd Arridge i chware i Gymru ar y sail ei fod wedi ei fagu a'i addysgu yng Nghymru. Fe wnaeth ei ymddangosiad cyntaf dros ei wlad fabwysiedig mewn gem gyfartal 1-1 yn erbyn yr Iwerddon ar Barc y Penrhyn ym 1893. Chwaraeodd wyth gwaith i dîm Cymru gan wneud ei ymddangosiad rhyngwladol olaf ar 20 Mawrth 1899 yn erbyn Lloegr ym Mryste. Collodd Cymru 4-0.[3]

Priododd Arridge ddwywaith. Ym 1892 priododd Jane Mary (Jenny) Owen o Benbedw a chawsant fab.[7] Bu farw Jenny ym 1908. Y flwyddyn ganlynol priododd Cecilia (Cissie) Owen, bu iddynt 3 mab.

Marwolaeth

golygu

Er ei fod yn ddirwestwr pybyr ers ei ieuenctid byddai Arridge yn mynychu tafarn lleol i chwarae dominos. Wedi bod yn chwarae ar nos Sadwrn 18 Hydref, 1947, aeth adre gan deimlo'n sâl a bu farw y ddiwrnod canlynol yn 75 mlwydd oed. Claddwyd ei weddillion ym mynwent Glanadda, Bangor.[8]

Cyfeiriadau

golygu
  1. National Football teams - Arridge, Smart adalwyd 22 Gorffennaf 2019
  2. 2.0 2.1 Everton History The Life of Smart Arridge – The Welshman from Sunderland adalwyd 22 Gorffennaf 2019
  3. 3.0 3.1 "WalesvIreland - South Wales Echo". Jones & Son. 1894-02-24. Cyrchwyd 2019-07-21.
  4. The National Archives of the UK; Kew, Surrey, England; Collection: Registry of Shipping and Seamen: Index of Apprentices; Class: BT 150; Piece Number: 49
  5. "FOOTBALLNOTESI - The North Wales Chronicle and Advertiser for the Principality". Kenmuir Whitworth Douglas. 1889-11-16. Cyrchwyd 2019-07-21.
  6. Before The 'D'...Association Football around the world, 1863-1937 adalwyd 22 Gorffennaf 2019
  7. General Register Office. England and Wales Civil Registration Indexes
  8. North Wales Chronicle 24 Hydref 1947 The Gentleman Footballer – Death of Mr Smart Arridge, Bangor