SDLP
Un o bleidiau gwleidyddol Gogledd Iwerddon yw'r SDLP (Saesneg: Social Democratic and Labour Party, Gwyddeleg: Páirtí Sóisialta Daonlathach an Lucht Oibre, Cymraeg: Plaid y Democratiaid Cymdeithasol a Llafur). O'r 1970au ymlaen, yr SDLP oedd y blaid genedlaetholgar fwyaf yng Ngogledd Iwerddon, ond erbyn hyn mae Sinn Féin wedi ennill mwy o seddau a phleidleisiau.
![]() | |
Enghraifft o: | plaid wleidyddol ![]() |
---|---|
Idioleg | democratiaeth gymdeithasol, Cenedlaetholdeb Gwyddelig, Iwerddon unedig, pro-Europeanism ![]() |
Label brodorol | Social Democratic and Labour Party ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 24 Awst 1970 ![]() |
Sylfaenydd | Gerry Fitt ![]() |
Aelod o'r canlynol | Plaid y Sosialwyr Ewropeaidd, Socialist International ![]() |
Pencadlys | Belffast ![]() |
Enw brodorol | Social Democratic and Labour Party ![]() |
Gwladwriaeth | Gogledd Iwerddon ![]() |
Gwefan | http://www.sdlp.ie ![]() |
![]() |
Sefydlwyd y blaid yn 1970, pan ddaeth nifer o wleidyddion o wahanol bleidiau cenedlaethol y chwith at ei gilydd i greu plaid newydd. Arweinydd cyntaf y blaid oedd Gerry Fitt. Yn 1979, olynwyd ef gan John Hume, a barhaodd yn arweinydd hyd 2001. Dilynwyd ef gan arweinydd presennol y blaid, Mark Durkan.
Ar hyn o bryd mae gan yr SDLP dri Aelod Seneddol yn San Steffan, sy'n cymweryd chwip Plaid Lafur y DU, ac 16 aelod o Gynulliad Gogledd Iwerddon. Ar lefel Ewropeaidd, mae'r SDLP yn aelod o Blaid y Sosialwyr Ewropeaidd.