Sorbed
Pwdin wedi'i rewi yw sorbed (hefyd sorbe neu sorbet) sy'n cael ei wneud o ddŵr melys gyda blas arno (sudd ffrwythau, fel arfer, neu biwrî ffrwythau, gwin, gwirod, neu'n anaml iawn, mêl).
Mae'r gair yn rhannu'r un tarddiad a 'sierbet', y powdr melys, sy'n dod o'r Eidaleg sorbetto, ac a gyflwynwyd i'r Ffrangeg fel sorbet yn ddiweddarach. I gyfeirio at rhywbeth roedd y Twrciaid yn ei yfed y defnyddiwyd y gair sherbet gyntaf yn y Gorllewin. Yn yr 17g, dechreuodd Lloegr fewnforio "powdr sherbet", a oedd yn cael ei wneud o ffrwythau a blodau sych wedi'u cymysgu â siwgr, gan yr Ymerodraeth Otomanaidd.[1] Yn 1670, agorodd Café Procope ym Mharis a dechreuodd werthu sorbet.[2] Dechrewyd gwneud sorbetto pan llwyddwyd i rewi sierbet, gan ychwanegu sudd ffrwythau a chyflasynnau at sylfaen surop syml wedi'i rewi.
Ceir y cofnod cynharaf o'r gair "sorbed" yn 1995 yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru[3] er, gellir amau bod y gair, ac yn sicr yn ei ffurf 'sorbet' yn llawer hŷn nag hynny.
Mae Agraz yn fath o sorbed sydd fel arfer yn gysylltiedig â'r Maghreb a gogledd Affrica . Mae'n cael ei wneud o almonau, ferdis, a siwgr . Mae ganddo flas asidaidd cryf, oherwydd y ferdis. (Larousse Gastronomique)
Givré (Ffrangeg am "barugog") yw'r term am sorbed a weinir mewn cragen cneuen goco neu groen ffrwyth, fel lemwn, wedi'i rewi.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Robin Weir a Jeri Quinzio, "Sherbet", yn The Oxford Companion to Sugar and Sweets (Oxford University Press, 2015)
- ↑ Lou Pappas, Sorbets and Ice Creams: And Other Frozen Confections (Chronicle Books, 1997), tt.11-15
- ↑ sorbed. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 11 Awst 2022.