Spencer Perceval
gwleidydd, cyfreithiwr (1762–1812)
Unig Brif Weinidog Prydain i gael ei lofruddio wrth ddal y swydd oedd Spencer Perceval (1 Tachwedd 1762 - 11 Mai 1812). Cafodd ei saethu gan wallgofddyn a roddai'r bai ar Perceval am arian a gollodd mewn menter fusnes yn Rwsia.
Spencer Perceval | |
---|---|
Ganwyd | 1 Tachwedd 1762 Mayfair |
Bu farw | 11 Mai 1812 o anaf balistig Palas San Steffan |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, cyfreithiwr |
Swydd | Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Canghellor y Trysorlys, Cyfreithiwr Cyffredinol dros Gymru a Lloegr, Arweinydd y Tŷ Cyffredin, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn, Twrnai Cyffredinol Lloegr a Chymru, Prif Arglwydd y Trysorlys, Aelod o Senedd 1af y Deyrnas Unedig, Aelod o 2il Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 3edd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 4edd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 18fed Senedd Prydain Fawr, Aelod o 17eg Senedd Prydain Fawr |
Plaid Wleidyddol | Tori |
Tad | John Perceval |
Mam | Catherine Compton, Baroness Arden |
Priod | Jane Wilson |
Plant | Spencer Perceval, John Thomas Perceval, Frederick James Perceval, Henry Perceval, Dudley Montagu Perceval, Jane Perceval, Isabella Perceval, Ernest Augustas Perceval, Frances Perceval, Louise Perceval, Michael Henry Perceval, Frederica Elizabeth Perceval, Maria Perceval |
llofnod | |
Roedd yn seithfed fab Iarll Egmont. Roedd ganddo gysylltiad â Chymru trwy ei frawd-yng-nghyfraith, Thomas Wynn, Barwn 1af Newborough.