Thomas Wynn, Barwn 1af Newborough

gwleidydd (1736-1807)

Aelod Seneddol Prydeinig oedd Thomas Wynn, Barwn 1af Newborough (173612 Hydref 1807), adnabyddwyd fel Syr Thomas Wynn, 3ydd Barwnig, o 1773 hyd 1776.

Thomas Wynn, Barwn 1af Newborough
Ganwyd1736 Edit this on Wikidata
Bu farw1807 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o Senedd 1af y Deyrnas Unedig, Aelod o 2il Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 3edd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 12fed Senedd Prydain Fawr, Aelod o 13eg Senedd Prydain Fawr, Aelod o 14eg Senedd Prydain Fawr, Aelod o 18fed Senedd Prydain Fawr, Aelod o 4edd Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
TadJohn Wynn Edit this on Wikidata
MamJane Wynne Edit this on Wikidata
PriodMaria Stella, Catherine Egmont Perceval Edit this on Wikidata
PlantThomas Wynn, Spencer Bulkeley Wynn, John Wynn Edit this on Wikidata

Roedd Wynn yn fab i Syr John Wynn, 2il Farwnig. Roedd yn Aelod Seneddol dros Sir Gaernarfon rhwng 1761 a 1774, a thros St Ives rhwng 1775 a 1780 a thros Biwmares rhwng 1796 a 1807 a gwasanaethodd fel Arglwydd Raglaw Sir Gaernarfon rhwng 1761 a 1781. Dilynodd Wynn i Farwnigaeth ei dad yn 1773 ac yn 1776 codwyd i Bendefigaeth Iwerddon fel Barwn Newborough, o Newborough, a elwir heddiw'n Gorey, yn Swydd Loch Garman, Iwerddon. Sylwer felly ei fod yn anghywir cyfeirio at y farwniaeth fel "Baron Niwbwrch". Er bod gan y teulu beth tir ym mhlwyf Niwbwrch, 'does a wnelo dim byd yn Sir Fôn â tharddiad y teitl.

Priododd Arglwydd Newborough Catherine, merch John Perceval, 2il Iarll Egmont, yn 1766. Ail-briododd yn dilyn ei marwolaeth 1782, i Maria Stella Petronilla, merch Lorenzo Chiappini yn 1786. Roedd plant o'r ddwy briodas. Bu farw'r Arglwydd Newborough ym mis Hydref 1807 ac fe'i olynwyd gan ei fab hynaf o'i ail briodas, Thomas. Ail-briododd y Fonesig Newborough ym 1809, â'r Barwn Ungerg Sternberg o Estonia, cyn marw yn 1843 ym Mharis. Ychydig o gysylltiad oedd rhyngddi â'i phlant wedi 1809.

Rhagflaenydd:
Syr John Wynn
Aelod Seneddol Sir Gaernarfon
1761–1774
Olynydd:
Thomas Assheton Smith
Rhagflaenydd:
Adam Drummond
William Praed
Aelod Seneddol St Ives
gyda Adam Drummond

1775–1780
Olynydd:
William Praed
Abel Smith
Rhagflaenydd:
Syr Watkin Williams-Wynn
Aelod Seneddol Biwmares
1796–1800
Olynydd:
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Senedd Prydain Fawr
Aelod Seneddol Biwmares
18011807
Olynydd:
Edward Pryce Lloyd
Rhagflaenydd:
Iarll Cholmondeley
Arglwydd Raglaw Sir Gaernarfon
1761–1781
Olynydd:
Is-iarll Bulkeley
Rhagflaenydd:
Teitl newydd
Barwniaeth Niwbwrch
1776–1807
Olynydd:
Thomas John Wynn
Rhagflaenydd:
John Wynn
Barwnigaeth
(Bodvean)
1773–1807
Olynydd:
Thomas John Wynn

Ffynonellau golygu