Spinda
Un o rywogaethau ffuglennol y fasnachfraint Pokémon a greuwyd gan Satoshi Tajiri yw Spinda (Japaneg: パッチール - Patchīru). Mae Spinda yn un o'r cymeriadau mwyaf adnabyddadwy o fewn y gyfres, o ganlyniad i'w rôl bwysig yn yr anime, y manga a'r gemau fideo.
Cymeriad golygu
Daw'r enw Spinda o'r geiriau Saesneg spin (i droelli) a panda. Daw'r enw Japaneg Patchīru o'r gair Saesneg patchwork (clytwaith) a'r berf Japaneg hinekuru (拈くる - i droelli). Cafodd Spinda ei ddylunio gan Ken Sugimori (ffrind agos i Satoshi Tajiri, crëwr Pokémon) a mae'n cael ei leisio yn yr anime gan Masumi Asano.
Ffisioleg golygu
Mae Spinda (fel pob Pokémon mae'r enw yn lluosog ac unigol) yn Pokémon normal sydd yn edrych fel eirth bychain brown gyda marciau coch ar draws eu cyrff (sydd yn unigryw i pob Spinda; mae yna dros 4 biliwn patrwm posib) a chlustiau hir tebyg i gwningod. Mae gan Spinda y pŵer i wneud ei elynnod i deimlo'n penysgafn. Maent yn gwneud hyn i ddianc ysglyfaethwyr.
Ymddygiad golygu
Fel arfer, mae Spinda yn byw a teithio mewn diadellau. Nid yw Spinda yn cerdded mewn llinellau syth, maent yn simsanu ac yn rhoi'r argraff eu fod wedi meddwi. Tacteg yw hyn i drysu ysglyfaethwyr gan gwneud Spinda yn anodd i ddal neu frathu.
Cynefin golygu
Caiff Spinda eu ffeindio o fewn ogofâu, gwaelod mynyddoed neu gwastatirau gwelltog.
Deiet golygu
Mae Spinda yn llysyddion sydd yn bwyta aeron, ffrwythau a llysiau.