Stadion Gradski vrt
Stadiwm aml-ddefnydd yn ninas Osijek, dwyrain Croatia, yw Stadion Gradski vrt (Stadiwm Gardd y ddinas). Mae'n gartref i ddau glwb pêl-droed, NK Osijek a Fortuna VNO Osijek.
Math | stadiwm |
---|---|
Agoriad swyddogol | 1980 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Osijek |
Gwlad | Croatia |
Cyfesurynnau | 45.545°N 18.6958°E |
Rheolir gan | Osijek |
Perchnogaeth | Osijek |
Mae ganddo gapasiti o 18,856 (17,876 ar gyfer seddau a 980 ar gyfer sefyll). Ceir y geiriau Grad na Dravi ("Dinas ar y Drava") wedi eu hysgrifennu mewn seddi gwynion ar un o eisteddoedd y stadiwm.[1]
Hanes
golyguDechreuodd y gwaith adeiladu ym 1949, ond cafodd gwaith ei stopio sawl gwaith. Chwaraewyd y gêm gyntaf ar sail Gradski Vrt rhwng NK Osijek a FK Sloboda Tuzla ar 7 Medi 1958. Yn 1980, agorwyd y stadiwm yn swyddogol.
Yn 1982, torrwyd y record o bresenoldeb stadiwm, ar y gêm bêl-droed rhwng NK Osijek a Dinamo Zagreb gyd thorf o 40,000 yn gwylio. Y canlyniad oedd 1-2.
Yn 1998 gosodwyd seddi ac adlen. Yn 2005, adnewyddwyd y stadiwm. O dan y stondin orllewinol, gosodwyd ystafelloedd i bwysigion ac aildrefnwyd y porthdy, gan ychwanegu 1,000 o seddau newydd. Cafodd y trac athletau ei ail-greu, ei ail-baentio o goch i las. Ar ôl yr adnewyddu hwn, mae'r stadiwm wedi cyflawni meini prawf stadiwm UEFA. Yn yr un flwyddyn, roedd y stadiwm yn rhan o gais ar y cyd rhwng Croatia a Hwngari am gynnal Pencampwriaeth Pêl-droed Ewrop 2012. Bryd hynny cyflwynwyd prosiect o stadiwm newydd gyda chapasiti mwy.
Yn 2010, trwsiwyd y stadiwm eto: cafodd y cae ei ailosod, cafodd y ffensys eu peintio a rhifwyd y seddau. Y rheswm oedd gêm gyfeillgar rhwng Croatia a Cymru, a gynhaliwyd ar 23 Mai y flwyddyn honno.
Ym mis Mai 2016, cynhaliodd y stadiwm y rownd derfynol Cwpan Pêl-droed Croatia.
Cymru a'r Stadiwm
golyguMae Cymru wedi chwarae 3 gwaith yn y stadiwm - dwy waith mewn gêm gyfeillgar ar 23 Mai 2010 a 2012 ac eto ar 8 Mehefin 2019 mewn gêm gystadleuol fel gêm rhagbrofol ar gyfer pencampwriaeth Ewrop UEFA 2020. Chwaraewyd yn Osijek er gwaethaf disgwyliawd Cymdeithas Bêl-droed Cymru a'r cefnogwyr y byddent yn chwarea yn y brifddinas, Zagreb. Nododd y Cymry amneuon am faint ac addasrwydd y stadiwm ar gyfer gêm ryngwladol gystadleuol bwysig.[2]
Cynlluniau i'r Dyfodol
golyguYm mis Ebrill 2018, rhyddhaodd Llywydd NK Osijek Ivan Meštrović ddyluniad strwythur manwl ar gyfer y stadiwm newydd.[3] Bydd stadiwm o'r radd flaenaf yn cael ei adeiladu yng nghymdogaeth Pampas yn Osijek fel rhan o ganolfan hyfforddi newydd NK Osijek. Bydd capasiti'r stadiwm newydd yn 12,000, gyda'r holl seddau'n cael eu cynnwys. Bydd y stadiwm yn gategori pedwar UEFA ac mae i fod i gael ei orffen yn 2020. Yn ystod adeiladu'r stadiwm, bydd NK Osijek yn chwarae eu gemau cartref yn y stadiwm Gradski vrt presennol, sydd yn y dyfodol yn mynd i gael ei ddefnyddio fel prif stadiwm y Sgwad NK Osijek B.
Gemau Rhyngwladol
golyguDyddiad | Cystadleuaeth | Gwrthwynebwyr | Sgôr | Torf | Ref |
---|---|---|---|---|---|
Croatia (1990–present) | |||||
4 10, 1996 | Gêm arddangos, gyfeillgar | Hwngari | 4–1 | 10,287 | [1] |
4 22, 1998 | Cyfeillgar | Gwlad Pwyl | 4–1 | 16,000 | [2] |
3 24, 2001 | Gêm ragbrofol Cwpan y Byd FIFA 2002 | Latfia | 4–1 | 13,345 | [3] |
9 7, 2002 | Gêm ragbrofol Cwpan UEFA Euro 2004 | Estonia | 0–0 | 10,766 | [4] |
5 28, 2006 | Cyfeillgar | Iran | 2–2 | 20,000 | [5] |
5 23, 2010 | Cyfeillgar | Cymru | 2–0 | 10,482 | [6] |
10 16, 2012 | Gêm ragbrofol Cwpan y Byd FIFA 2014 | Cymru | 2–0 | 17,500 | [7] |
5 31, 2014 | Cyfeillgar | Mali | 2-1 | 15,212 | [8] |
10 13, 2014 | Gêm ragbrofol Cwpan Europ UEFA 2016 | Aserbaijan | 6-0 | 16,021 | [9] |
03 23, 2016 | Cyfeillgar | Israel | 2-0 | 10,545 | [10] |
06 8, 2018 | Cyfeillgar | Senegal | 2-1 | 15,998 | [11] |
Oriel
golygu-
Eisteddle'r Gorllewin (cyn adnewyddu 2005)
-
Eisteddle'r Dwyrain (wedi adnewyddu 2005)
-
Eisteddle'r Dwyrain (wedi adnewyddu 2005)
-
Stadion Gradski vrt, 2012
Cyfeiriadau
golygu- ↑ https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/48370580
- ↑ https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/47540522
- ↑ ""PRESTALI SMO SANJATI, POČELI SMO ŽIVJETI!"". NK Osijek official website.