NK Osijek

clwb pêl-droed Osijek, Croatia

NK Osijek yw prif dîm pêl-droed dinas Osijek yn nhalaith Slavonia, yn nwyrain Croatia. Mae'n chwarae yn Prava HNL ac yn un o brif dimau'r wlad. Mae ei stadiwm, y Stadion Gradski vrt hefyd wedi cynnal gemau pêl-droed rynglwadol gyda Croatia.

Osijek
Enw llawnNogometni klub Osijek
LlysenwauBijelo-plavi ("Gwyn-Glas")
Enw byrOSI
Sefydlwyd27 Chwefror 1947
MaesStadion Gradski vrt
(sy'n dal: 19,220)
Lőrinc Mészáros & Ivan Meštrović
Ivan Meštrović
Dino Skender
CynghrairPrva HNL
2019/20Prva HNL, 4ydd o 10
GwefanHafan y clwb
Lliwiau Cartref
Lliwiau Oddi cartref
Lliwiau Trydydd dewis
Tymor cyfredol

Ceir peth trafodaeth ar union flwyddyn sefydlu'r clwb gan iddi dyfu o uniad a newid enw sawl clwb yn y blynyddoedd cynnar.

Sefydlwyd NK Udarnik yn 1945 fel tîm yn ysbryd Iwgoslafia comiwnyddol ar draul hen dîm y ddinas, HŠK Slavija, a sefydlwyd ym 1916 ac a gystadlodd yng Nghynghrair Teyrnas Iwgoslafia rhwng 1916 a 1940.

Ym 1946, unodd y NK Udarnik ag NK Jedinstvo i ffurfio'r NK Slavonija, ac y flwyddyn ganlynol unwyd â NK Bratstvo i greu'r NK Proleter, ac ystyrir 2 Chwefror 1947 fel diwrnod sefydlu'r clwb.

Ar 1 Medi 1961, unodd NK Proleter â chlwb Bocsio ac Athletau Mladost ("ieuenctid") gan ffurfio clwb chwaraeon aml-gamp Sportsko Društvo Slavonija, lle cafodd eu cynrychioliad o bêl-droed ei alw'n NK Slavonija. Yn 1968, mabwysiadwyd yr enw y maent yn ei ddefnyddio ar hyn o bryd, sef NK Osijek. Coch a glas oedd lliwiau gwreiddiol y clwb, ond yn yr 1970au newidiasant i goch a gwyn.

Dyrchafwyd NK Proleter i gynghrair yr hen Iwgoslafia yn am y tro cyntaf ym 1953 ac fe'i dyrchafwyd i bencampwriaeth yr hen Iwgoslafia yn nhymor 1977-1978, lle arhosodd, ac eithrio tymor 1980-1981, nes annibyniaeth Croatia oddi ar Iwgoslafia yn 1991 pan ddaeth Osijek yn un o sefydlwyr cynghrair Croatia yn 1991. Mae'r clwb yn un o dim ond pedwar tîm sydd wedi sefyll yn uwch gynghrair Croatia, oddi ar annibyniaeth y wlad.

Anrhydeddau

golygu

Roedd y clwb safle 19 yn safle parhaol (ranking) yr gynghrair Prva Liga, Iwgoslafia. Wedi annibyniaeth Croatia ym 1991, mae'r clwb wedi chwarae pob tymor yn [[Uwch Gynghrair Croatia, y Prva HNL. Mae hefyd yn ymfalchïo yn ennill Cwpan Croatia yn 1999. Mae gan Stadiwm Gradski vrt gapasiti o 20,510 o wylwyr.

Mae canlyniad pwysicaf eu hanes Ewropeaidd byr yn mynd yn ôl i rowndiau rhagarweiniol Cynghrair Europa 2017-18 pan cyrhaeddasant y drydedd rownd gan guro PSV Eindhoven 1-0 o'r Iseldiroedd (yr un canlyniad yn y cymal gyntaf ac i ffwrdd). Yna pasiodd y cymhwyster yn y gystadleuaeth honno, ond cawsant eu curo gan Austria Vienna er gwaethaf llwyddiant yn eu gêm cartref.

Gemau yng nghystadlaethau UEFA

golygu
Tymor Twrnament Cymal Clwb Cartref Oddi cartref Global
1995–96 Cwpan UEFA Clasificatoria   SVK Slovan Bratislava 0–2 0–4 0–6
1998–99 Cwpan UEFA Clasificatoria 2   BEL Anderlecht 3–1 0–2 3–3 (a)
1999–2000 Cwpan UEFA 1   ENG West Ham 1–3 0–3 1–6
2000–01 Cwpan UEFA 1   DEN Brøndby 0–0 2–1 2–1
2   AUT Rapid Wien 2–1 2–0 4–1
3   CZE Slavia Praga 2–0 1–5 3–5
2001–02 Cwpan UEFA Clasificatoria   LAT Dinaburg 1–0 1–2 2–2 (a)
1   SLO ND Gorica 1–0 2–1 3–1
2   GRE AEK 1–2 2–3 3–5
2006 UEFA Intertoto Cup 2   CYP Ethnikos Achna 2–2 0–0 2–2 (a)
2012–13 Cynghrair Europa UEFA Clasificatoria 1   AND FC Santa Coloma 3–1 1–0 4–1
Clasificatoria 2   SWE Kalmar FF 1–3 0–3 1–6
2017–18 Cynghrair Europa UEFA Clasificatoria 1   AND UE Santa Coloma 4–0 2–0 6–0
Clsificatoria 2   SUI Luzern 2–0 1–2 3–2
Clasificatoria 3   NED PSV 1–0 1–0 2–0
Playoff   AUT Austria Wien 1–2 1–0 2–2 (a)
2018–19 Cynghrair Europa UEFA Clasificatoria 1   MDA Petrocub Hîncești 2–1 1–1 3–2
Clasificatoria 2   SCO Glasgow Rangers 0–1 1–1 1–2

Record Ewropeaidd

golygu
Twrnament J G E P GF GC Úlitma Aparición
UEFA Cup
UEFA Europa League
30 16 1 13 39 41 2017-18
UEFA Intertoto Cup 2 0 2 0 2 2 2006
Total 32 16 3 13 41 43

Cyfeiriadau

golygu

Dolenni allanol

golygu