Storïau'r Henllys Fawr

llyfr

Cyfrol o straeon byrion gan W. J. Griffith yw Storïau'r Henllys Fawr, a gyhoeddwyd gan Gwasg Aberystwyth yn 1938.

Storïau'r Henllys Fawr
Enghraifft o'r canlynolgwaith ysgrifenedig, gwaith llenyddol Edit this on Wikidata
GolygyddT. Rowland Hughes
AwdurW. J. Griffith
CyhoeddwrGwasg Aberystwyth
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi1938 Edit this on Wikidata
PwncHiwmor Môn
Argaeleddallan o brint
ISBN9780850881233
Tudalennau168 Edit this on Wikidata
GenreStraeon byrion

Cyhoeddwyd argraffiad newydd gan Gwasg Gomer a hynny yn 1975. Yn 2013 roedd y gyfrol allan o brint.[1]

Disgrifiad golygu

Dechreuodd W. J. Griffith ysgrifennu straeon byrion am ei fro enedigol, sef Aberffraw, Ynys Môn. Arferai darllen ei straeon yng nghymdeithas lenyddol Capel Aberffraw er mawr difyrrwch y gynulleidfa. Daeth yn gyfaill i'r newyddiadurwr ac awdur E. Morgan Humphreys a'i anogodd i gyhoeddi ei straeon yn Y Genedl Gymreig ac fe wnaeth hynny o 1924 hyd Nadolig 1930. Casglwyd a chyhoeddwyd y straeon hynny yn y gyfrol Storïau'r Henllys Fawr (1938), wedi'u golygu gan y nofelydd T. Rowland Hughes. Maent yn straeon doniol, llawn o fwrlwm y fro a brasluniau o gymeriadau ardal y Berffro.

Mae saith stori yn y casgliad:

  • "Eos y Pentan"
  • "Yr Hen Siandri"
  • "Y Tri Chwt a'r Ugain Mochyn"
  • "Antur y Ddrama"
  • "Problem a Geiriau Croes"
  • "Anturiaeth Ditectif"
  • "Anti Lw"

Cafodd Storïau'r Henllys Fawr eu haddasu ar gyfer y teledu yn 1983 gan y dramodydd Gareth Miles a'u dangos ar S4C.


Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Gwales; adalwyd 16 Hydref 2013