Victoria Pendleton
Seiclwraig rasio o Loegr ydy Victoria Pendleton (ganwyd 24 Medi 1980).[1]
Victoria Pendleton | |
---|---|
Ganwyd | 24 Medi 1980 Stotfold |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | seiclwr trac, seiclwr cystadleuol, hunangofiannydd, joci |
Taldra | 165 centimetr |
Pwysau | 62 cilogram |
Gwobr/au | CBE |
Gwefan | http://victoria.three60sports.co.uk/index.html |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Letchworth Extran |
Bywgraffiad
golyguBywyd cynnar
golyguGaned Victoria Louise Pendleton, a'i gefaill Alex James, ar 24 Medi 1980 yn Stotfold, Swydd Bedford, Dwyrain Lloegr, yn ferch i Max Pendleton, seiclwr brwdfrydig a chyn-bencampwr cenedlaethol seiclo trac gwair, a Pauline M Viney. Mae ganddi hefyd chwaer hŷn, Nicola Jane.[2] Cystadlodd yn ei ras cyntaf, sef ras 400 metr trac gwair yn Fordham pan oedd yn 9 oed. Daeth gallu addawol Pendleton i'r golwg pan oedd yn 13, a sylwodd cyd-hyfforddwr trac cenedlaethol, Marshal Thomas, arni tair mlynedd yn ddiweddarach. Roedd Pendleton eisiau canolbwyntio ar ei haddysg ar y pryd, gan fynychu Ysgol Fearnhill, Letchworth Garden City, cyn mynd ymlaen i ennill gradd mewn Gwyddoniaeth Chwaraeon ac Ymarfer Corff o Brifysgol Northumbria, Newcastle upon Tyne. Parhaodd i gyfuno ei seiclo gyda'i hastudiaethau cyn dod yn seiclwraig llawn amser wedi iddi raddio.[3]
Llwyddiant ar y trac
golyguEnillodd Pendleton bedwar medal arian ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol Prydain yn 2001, tra roedd hi dal yn fyfyrwraig. Yn 2002, cymhwysodd i fod yn aelod o dîm Lloegr yng Ngemau'r Gymanwlad gan orffen yn bedwrydd yn y sbrint. Daeth yn bedwerydd hefyd ym Mhencampwriaethau Trac y Byd 2003, yn Stuttgart ac yn bedwerydd unwaith eto ym Mhencampwriaethau Trac y Byd 2004, Melbourne. Roedd yn ail yn sbrint Cwpan y Byd 2004, gan ennill y sbrint yng nghymal Cwpan y Byd ym Manceinion.
Gorffennodd yn 6ed safle yn Nhreial Amser y Gemau Olympaidd 2004 a 9fed yn y Sbrint.
Torodd record Kilo merched Prydain yn 2005 gyda amser o 1 munud 10.854 eiliad, gosodwyd yr hen record, 1 munud 14.18 eiliad, gan Sally Boyden yn 1995.[4] Enillodd Pendleton ei medal pwysig cyntaf gyda aur yn sbrint Pencampwriaethau Trac y Byd, gan ddod yn drydedd pencampwraig y byd seiclo Prydeinig mewn 40 mlynedd.[5]
Yng Ngemau'r Gymanwlad yn Melbourne, enillodd y fedal arian yn y treial amser 500m a'r fedal aur yn y sbrint.
Ym Mhencampwriaethau'r Byd, 2007, enillodd y fedal aur yn y sbrint tîm gyda Shanaze Reade, yr aur yn y sbrint, a thrydedd medal aur yn y Keirin.[6] Enwyd yn Chwaraewraig y Flwyddyn y Sunday Times ar gyfer 2007, y seiclwraig cyntaf i ennill y wobr yn hanes 20 mlynedd y wobr.[7] Pendleton was also voted Sports Journalists' Association of Great Britain's sportswoman of the year for 2007.[8]
Yn ystod ei pharatoadau ar gyfer y Gemau Olympaidd, enillodd ddau fedal aur ym Mhencampwriaethau'r Byd yn 2008, yn y sbrint a'r sbrint tîm (gyda Shanaze Reade unwaith eto); daeth hefyd yn ail yn y keirin. Yn y Gemau Olympaidd, cipiodd Pendleton y fedal aur yn y sbrint.
Apwyntwyd yn Alod o Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (MBE) ar restr anrhydeddau'r flwyddyn newydd yn 2009.[9]
Deliodd ei teitl fel pencampwraig sbrint y byd yn Pruszków yn 2009. Roedd yn gystadleuaeth agos, a bu'n rhaid i'r beirniaid gyfeirio at ffotograffau i bendefynnu'r canlyniad mewn sawl gornest. Yn y diwedd roedd Pendleton yn emosiynol iawn, ond yn fuddugol dros ei chystadleuydd Iseldiraidd, Willy Kanis.[10]
Bywyd personol
golyguYm mis Gorffennaf 2009, ymddangosodd Pendleton ar glawr y cylchgrawn ar gyfer dynion, FHM.[11] Mae wedi ymddangos mewn nifer o hysbysebion yn dilyn ei llwyddiant ar y trac, gan gynnwys Hovis, Gatorade, EDF a Pantene.[12] Ymddangosodd ar glawr cylchgrawn Esquire, gyda cyfres o luniau tu mewn yn eu rhifyn Awst 2012, yn fuan cyn y Gemau Olympaidd.[13]
Mae Pendelton wedi dyweddio â Scott Gardner, gwyddonydd chwaraeon a fu'n gweithio i British Cycling.[14]
Canlyniadau
golygu- 1999
- 3ydd Sbrint, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 2000
- 3ydd Sbrint, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 2002
- 1af Sbrint, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 1af Treial Amser 500m, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 2003
- 1af Sbrint, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 1af Treial Amser 500m, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 1af Ras Scratch, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 1af Keirin, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 1af Scratch, Cymal Manceinion, Cwpan y Byd
- 2il Sbrint, Cymal Manceinion, Cwpan y Byd
- 3ydd Ras Bwyntiau, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 4ydd Sbrint, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
- 2004
- 1af Sbrint, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 1af Treial Amser 500m, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 2il Sbrint, Cwpan y Byd
- 1af Sbrint, Cymal Manceinion, Cwpan y Byd
- 4ydd Sbrint, Cymal Moscow, Cwpan y Byd
- 5ed Sbrint, Cymal Sydney, Cwpan y Byd
- 1af Keirin, Cymal Los Angeles, Cwpan y Byd
- 3ydd Treial Amser 500m, Cymal Manceinion, Cwpan y Byd
- 4ydd Sbrint, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
- 5ed Ras Scratch, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 2005
- 1af Sbrint, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
- 1af Sbrint, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 1af Treial Amser 500m, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 1af Ras Scratch, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 1af Keirin, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 1af Sbrint, Cymal Manceinion (1), Cwpan y Byd
- 2il Sbrint, Cymal Manceinion (2), Cwpan y Byd
- 2il Sbrint, Cymal Moscow, Cwpan y Byd
- 2il Treial Amser 500m, Cymal Manceinion (2), Cwpan y Byd
- 3ydd Keirin, Cymal Manceinion (1), Cwpan y Byd
- 3ydd Treial Amser 500m, Cymal Manceinion (1), Cwpan y Byd
- 2006
- 1af Sbrint, Gemau'r Gymanwlad
- 2il Treial Amser 500m, Gemau'r Gymanwlad
- 4ydd Treial Amser 500m, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
- 2007
- 1af Sbrint, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
- 1af Sbrint Tîm, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI (gyda Shanaze Reade)
- 1af Keirin, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
- 1af Keirin, Cymal Moscow, Cwpan y Byd 2006/2007
- 1af Keirin, Cymal Manceinion, Cwpan y Byd 2006/2007
- 1af Sbrint, Cymal Manceinion, Cwpan y Byd 2006/2007
- 1af Treial Amser 500m, Cymal Manceinion, Cwpan y Byd 2006/2007
- 2il Sbrint, Cymal Sydney, Cwpan y Byd 2006/2007
- 2008
- 1af Sbrint, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
- 1af Sbrint Tîm, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI (gyda Shanaze Reade)
- 2il Keirin, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
- 1af Sbrint, Gemau Olympaidd 2008, Beijing
- 1af Sbrint, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 1af Sbrint Tîm, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain (gyda Anna Blyth)
- 1af Keirin, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 2009
- 3rd Treial Amser 500m, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
- 2il Sbrint Tîm (with Shanaze Reade), World Track Championships
- 1af Sbrint, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
- 1af Treial Amser 500m, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 1af Sbrint, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 2010
- 1af Sbrint, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
- 2il Keirin, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
- 2011
- 2il Sbrint Tîm (with Jessica Varnish), Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
- 3ydd Sbrint, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
- 1af Sbrint Tîm (with Jessica Varnish), Pencampwriaethau Trac Ewrop
- 2012
- 1af Sbrint, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
- 1af Sbrint Tîm, Cwpan y Byd 2011–2012, (gyda Jessica Varnish)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Gwefan swyddogol y Gemau Olympaidd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-02-03. Cyrchwyd 2007-09-27.
- ↑ Roy Stockdill (9 Gorffennaf 2012). Famous family trees: Victoria Pendleton. Find My Past. Adalwyd ar 18 Gorffennaf 2012.
- ↑ Philippe Naughton. "Victoria Pendleton’s secrets", The Sunday Times, 6 January 2008.
- ↑ Newyddion ar wefan Mildenhall CC
- ↑ The first British woman to win gold in the World Cycling Championships. Radio 4, Woman's Hour Interview.
- ↑ Simon Baskett. "Pendleton completes flawless worlds with third gold", Reuters, 1 Ebrill 2007.
- ↑ Robert Maul. "Victoria Pendleton named Sunday Times Sportswoman of the Year", The Sunday Times, 20 Tachwedd 2007.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-12-15. Cyrchwyd 2012-07-18. Unknown parameter
|cyhoeddwr=
ignored (help); Unknown parameter|dyddiad=
ignored (help); Unknown parameter|teitl=
ignored (help) - ↑ (31 Rhagfyr 2008) London Gazette, Rhifyn 58929, tud. 21
- ↑ Andrew Longmore. "Proud Victoria Pendleton cries tears of joy", Sunday Times, 29 Mawrth 2008.
- ↑ Paul French (26 Mai 2009). Victoria Pendleton changes gear for FHM!. FHM. Bauer Media Group. Adalwyd ar 16 Ebrill 2012.
- ↑ Girls in a million! Britain's top female athletes cashing in BEFORE the Olympics. Alex Miller (28 Ebrill 2012). Adalwyd ar 18 Gorffennaf 2012.
- ↑ Samuel Luckhurst (3 Gorffennaf 2012). Victoria Pendleton Models For Esquire Ahead Of London 2012 Olympics (PICTURES). Huffington post. Adalwyd ar 18 Gorffennaf 2012.
- ↑ Victoria Pendleton admits British Cycling friction over relationship. BBC (2 Ebrill 2012). Adalwyd ar 2 Ebrill 2012.
Dolenni allanol
golygu- Proffil British Cycling
- Gwefan swyddogol Victoria Pendleton
- Twitter Victoria Pendleton
- Victoria yn cyflwyno ar DVD British Cyclosportive - Cyclefilm Archifwyd 2009-02-21 yn y Peiriant Wayback