Un o'r pum prif flas a ganfyddir gan y dafod ddynol yw surni[1] a nodweddir gan flas siarp neu egr, sy'n deillio o bresenoldeb sylweddau asidaidd mewn bwydydd a diodydd. Bydd surni'n aml yn peri crychu'r geg neu deimlad o dynnu'r dŵr o'r dannedd. Y prif flasau eraill yw melyster, chwerwder, blas hallt, a blas sawrus.

Surni
Lemwn, enghraifft o ffrwyth a chanddo flas sur.
Enghraifft o'r canlynolbasic taste Edit this on Wikidata
Mathflavoring Edit this on Wikidata

Mae bwydydd sur cyffredin yn cynnwys ffrwythau sitrws (lemwn, leim, oren, grawnffrwyth), finegr, iogwrt, ambell fath o aeron (er enghraifft mafon cochion), a bwydydd eplesedig megis picls a surdoes.

Cyfeiriadau golygu

  1.  surni. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 26 Medi 2023.