Susan Boyle
Mae Susan Boyle (ganed 1 Ebrill 1961)[1] yn gantores o'r Alban a ddaeth i sylw'r cyhoedd ar yr 11eg o Ebrill pan ymddangosodd fel cystadleuydd yn y drydedd gyfres o'r rhaglen deledu Britain's Got Talent. Derbyniodd lawer o sylw gan y Wasg pan ganodd "I Dreamed a Dream" o'r sioe gerdd "Les Misérables" yn rownd gyntaf y gystadleuaeth.
Susan Boyle | |
---|---|
Ganwyd | Susan Magdalane Boyle 1 Ebrill 1961 Blackburn, Blackburn |
Label recordio | Columbia Records, Sony Music Entertainment |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr, actor |
Arddull | cerddoriaeth boblogaidd |
Math o lais | mezzo-soprano |
Gwefan | http://www.susanboylemusic.com/, http://www.susanboylemusic.com |
Cyn iddi ganu, edrychai'r beirniaid a'r gynulleidfa yn amheus arni oherwydd ei phryd a'i gwedd. Fodd bynnag, ystyriwyd ei pherfformiad lleisiol mor llwyddiannus nes iddi gael ei hystyried fel "Y Wraig a Gaeodd Pen Simon Cowell."[2] Recordiwyd y clyweliad ym mis Ionawr 2009, yn Awditoriwm Clyde yn Glasgow, yr Alban.
Yn sgîl y cyferbyniad rhwng argraff gyntaf y gynulleidfa ohoni a'i llais, derbyniodd sylw yn fyd-eang. Ymddangosodd erthyglau amdani mewn papurau newydd ledled y byd, tra bod y nifer o bobl a wyliodd fideos o'i chlyweliad ar y wê wedi gosod record newydd.[3] Erbyn yr 20fed o Ebrill, 9 diwrnod yn unig ar ôl ei hymddangosiad cyntaf ar y teledu, roedd fideos firol, cyfweliadau â Boyle a'i fersiwn 1999 o "Cry Me a River" wedi cael eu gwylio dros 100 miliwn o weithiau ar y wê.[4] Dywedir fod Simon Cowell yn creu cytundeb iddi gyda'i label recordio Syco Music, is-gwmni Sony Music.[5]
Dolenni Allanol
golygu- Clyweliad Susan Boyle ar Britain's Got Talent Archifwyd 2009-06-09 yn y Peiriant Wayback ar itv.com
Cyfeiriadau
golygu- ↑ [http://www.halloran.com/Susan_Boyle_Astrology_Horoscope.htm New Register House yng Nghaeredin. Adalwyd 25-04-2009
- ↑ "The Woman Who Shut Up Simon Cowell". ABC News. 2009-04-14. Adalwyd ar 2009-04-19
- ↑ "Scottish Singer's Audition Video Sets Online Record" The Washington Post. 19 Ebrill 2009. Adalwyd ar 2009-04-19.
- ↑ Susan Boyle breaks past 100 million online views Archifwyd 2009-04-26 yn y Peiriant Wayback Reuters. 20 Ebrill 2009. Adalwyd ar 25-04-2009
- ↑ ‘Never been kissed’ singer, 47, wows Cowell Archifwyd 2009-06-16 yn y Peiriant Wayback MSNBC. Adalwyd ar 25-04-2009