Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Wcráin
Mae tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Wcráin (Wcreineg: Збірна України з регбі ) yn cynrychioli Wcráin yng nghystadlaethau rygbi'r undeb rhyngwladol dynion. Llysenw'r tîm yw Kozaki, sef Cosaciaid. Maent yn un o’r timau haen 3 yn Ewrop sydd ar hyn o bryd yn cystadlu yn ail adran Pencampwriaethau Rhyngwladol Rygbi Ewrop yn Nhlws Rygbi Ewrop, cystadleuaeth sydd ychydig yn is na Phencampwriaeth Rygbi Ewrop lle mae’r 6 gwlad orau yn Ewrop (heblaw am y timau yn y Chwe Gwlad) yn cystadlu. Nid ydynt wedi cymryd rhan mewn unrhyw Gwpan Rygbi'r Byd eto.
|
Maent yn lliwiau yn lliwiau baner Wcráin, sef, melyn a glas.
Hanes
golyguChwaraeodd Wcráin eu gêm ryngwladol gyntaf ym 1991 yn erbyn Georgia ar ôl diddymu’r Undeb Sofietaidd, gan golli’r gêm agos 15-19. Chwaraeodd y ddwy wlad eto dridiau’n ddiweddarach, lle enillodd Georgia eto gyda’r sgôr o 6-0. Y flwyddyn ganlynol cyfarfu Wcráin â Georgia unwaith eto ar gyfer cyfres o ddwy gêm, gan golli'r ddwy gêm. Yn eu gêm gyntaf yn 1993 trechasant Hwngari 41-3 am eu buddugoliaeth gyntaf erioed ers eu hannibyniaeth. Dilynwyd hyn gan dair buddugoliaeth arall yn olynol, yn erbyn Croatia, Slofenia ac Awstria. Fodd bynnag, byddai'r rhediad hwn yn dod i ben ym 1994 gyda cholled i Ddenmarc.
Ym 1996 trechodd Wcráin Latfia 19-3; byddai'r gêm yn ddechrau rhediad ennill naw gêm) sef yr hiraf hyd yma. Parhaodd y fuddugoliaethau tan 1998, lle collon nhw i’r Iseldiroedd 13-35. Yn hwyr yn y 1990au, gwelwyd canlyniadau cymysg yn yr Wcrain gan drechu timau fel Gwlad Pwyl a’r Gwerinieth Tsiec, ond collon nhw gemau i rai fel eu cymdogion Rwsia, Georgia a Rwmania.
Chwaraeodd Wcráin yn adran gyntaf Cwpan y Cenhedloedd Ewropeaidd 2005-06, y twrnamaint lle mae'r timau gorau yn Ewrop y tu allan i'r Chwe Gwlad a'r twrnamaint a oedd hefyd yn gwasanaethu fel rhagbrofol ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd 2007 yn Ffrainc. Collodd yr Wcráin bob un o’u deg gêm a chawsant eu hisraddio i Adran 2A tra o fewn y gemau rhagbrofol, aeth y tri thîm isaf ymlaen i Rownd 4 o gemau rhagbrofol Cwpan y Byd Ewropeaidd, felly byddai’r Wcráin yn canfod eu hunain yn chwarae yn erbyn Rwsia ddwywaith i benderfynu pwy sy’n mynd drwodd. rownd nesaf y gemau rhagbrofol. Collodd Wcráin y ddwy gêm o 11-25 a 37-17.
Chwaraewyr
golyguMae'r rhanfwyaf o'r chwaraewyr yn chwarae i dimau Politchnic (sydd yn ninas Odesa), Olym (dinas Kharkiv a Epokha-Polytechnic (Kyiv).
Rhyfel Rwsia ar Wcráin 2022
golyguLladdwyd Oleksi Tsibko, cyn-gapten y tîm cenedlaethol, LLywydd Undeb Rybi Wcráin, a Maer Dinas Smela, ym mis Mawrth 2022 yn rhan o Rhyfel Rwsia ar Wcráin.[1] Bu farw Oleksi Tsibko, 55, yn ymladd yn erbyn lluoedd Rwseg ger tref Bucha ar 31 Mawrth. Aeth y mabolgampwr, a ddaeth yn llywydd Ffederasiwn Rygbi Wcrain rhwng 2003-2005, ymlaen i wasanaethu fel maer Smela o 2015-2018. Bu seremoni ffarwel er anrhydedd iddo gael ei chynnal ym mynwent Baykove Kyiv.[2]
Darlledwyd ffilm ar effaith ac ymateb chwaraewyr rygbi Wcráin ar sianel Youtube World Rugby gan ddangos y cefnogaeth cafwyd gan wledydd eraill.[3]
Cwpan y Byd
golyguRecord Cwpan y Byd | Rhagbrofion Cwpan y Byd | |||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Blwyddyn | Cymal | P | W | D | L | F | A | P | W | D | L | F | A | |
1987 | Rhan o'r Undeb Sofietaidd: ddim yn wlad annibynnol | Rhan o'r Undeb Sofietaidd: ddim yn wlad annibynnol | ||||||||||||
1991 | Rhan o'r Undeb Sofietaidd: ddim yn wlad annibynnol | Rhan o'r Undeb Sofietaidd: Ddim yn annibynnol | ||||||||||||
1995 | Heb gystadlu | Heb gystadlu | ||||||||||||
1999 | Heb gymwyso | 8 | 6 | 0 | 2 | 274 | 108 | |||||||
2003 | 4 | 3 | 0 | 1 | 100 | 54 | ||||||||
2007 | 12 | 0 | 0 | 12 | 105 | 618 | ||||||||
2011 | 10 | 5 | 0 | 5 | 150 | 203 | ||||||||
2015 | 10 | 5 | 0 | 5 | 267 | 228 | ||||||||
2019 | 5 | 0 | 0 | 5 | 52 | 215 | ||||||||
2023 | Gwaredwyd yn awtomatig | |||||||||||||
Cyfanswm | 0/9 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 49 | 19 | 0 | 30 | 948 | 1426 |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Nodyn:Cite ref
- ↑ "Ex-Ukrainian national rugby team captain, 55, dies defending his country". Metro. 6 Ebrill 2022.
- ↑ "Rugby in Ukraine: How Life Has Changed!". Sianel Youtube World Rugby. 18 Mawrth 2022.
Dolenni allanol
golygu- rugby.org.ua - Gwefan Swyddol URW
- Tudalen URW ar wefan World Rugby
- Uchafbwyntiau Lithwania v Wcráin, Tlws Rygbi Ewrop (Rugby Europe Trophy) 23 Hydref 2021