Torra di Capiteddu
Mae Tŵr di Capiteddu (Corseg:Torra di Capiteddu) yn dŵr Genoa adfeiliedig wedi ei leoli yn commune Grosseto-Prugna (Corse-du-Sud) ar ynys Corsica. Mae'r tŵr yn gorwedd i'r de o Ajaccio ger traeth Porticcio. Yn wahanol i dyrrau Genoa eraill ar yr arfordir gorllewinol sydd ar lwyfandiroedd neu benrhynau, adeiladwyd Tŵr di Capiteddu ar greigiau ger ceg Gravona a Prunelli. Mae'n gwahanu dau draeth Gwlff Ajaccio y Ricanto a'r Porticcio[1]
Math | Tyrau Genoa yng Nghorsica |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Grosseto-Prugna |
Gwlad | Corsica Ffrainc |
Cyfesurynnau | 41.9042°N 8.79917°E |
Statws treftadaeth | heneb hanesyddol cofrestredig |
Manylion | |
Hanes
golyguDechreuwyd adeiladu'r tŵr ym 1552. Roedd yn un o gyfres o amddiffynfeydd arfordirol a adeiladwyd gan Weriniaeth Genoa rhwng 1530 a 1620 i atal ymosodiadau gan fôr-ladron Barbari.[2] Mae'n dwr crwn 11 metr o uchder a 42 metr mewn cylchedd ar y gwaelod[3]. Addaswyd teras to'r tŵr yn ystod yr Ail Ryfel Byd ond cafodd ei hail adfer ym 1998 i gael gwared â'r newidiadau a wnaed yn ystod y rhyfel. Mae'r tŵr bellach yn eiddo i'r gymuned ac fe restrwyd ym 1991 fel heneb o bwys monument historique gan lywodraeth Ffrainc.[4]
Un o nodweddion tyrau Genoa Corsica oedd bod y teras ar ben y tŵr yn cael ei amgylchynu gan ryngdyllau amddiffynnol roedd y gwarchodwyr yn gallu defnyddio i daflu pethau megis cerrig neu saim berw ar ben ymosodwyr. Mae'r rhyngdyllau i'w gweld yn amlwg ar dŵr di Capiteddu
Oriel
golygu-
Y teras a'r rhyngdyllau amddiffynnol]]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Office de tourisme de porticcio - Les tours genoises porticcio Archifwyd 2018-07-20 yn y Peiriant Wayback adalwyd 31 Gorffennaf 2018
- ↑ Graziani, Antoine-Marie (2000). "Les ouvrages de défense en Corse contre les Turcs (1530-1650)". In Vergé-Franceschi, Michel; Graziani, Antoine-Marie (gol.). La guerre de course en Méditerranée (1515-1830). Paris: Presses de l'Université Paris IV-Sorbonne. t. 85. ISBN 2-84050-167-8.
- ↑ Tour de Capitello Archifwyd 2020-09-18 yn y Peiriant Wayback adallwyd 31 Gorffennaf 2018
- ↑ "Monuments historiques: Tour de Capitello". Ministère de la culture. Cyrchwyd 31 Gorffennaf 2018.
Dolenni allanol
golygu- Nivaggioni, Mathieu; Verges, Jean-Marie. "Les Tours Génoises Corses".[dolen farw] Sy'n cynnwys gwybodaeth ar sut i gyrraedd 90 o dyrau a llawer o ffotograffau.