Trac
Mudiad Datblygu Gwerin Cymru yw trac; mae’n gweithio i hyrwyddo ac i ddatblygu traddodiadau cerdd a dawns Cymru yng Nghymru a thu hwnt, ac yn eirioli ar ran y Traddodiad gyda chyrff cyhoeddus a mudiadau eraill.
Data cyffredinol |
---|
Mae ffurfiau cerdd, canu, cerdd dant, dawns a chwedleua Cymru yn rhan annatod o’n diwylliant, ac yn draddodiadau nodweddiadol sy’n sylfaen i hunaniaeth ein gwlad. Mae gwerthoedd cynhenid ein dulliau traddodiadol o fynegi ein hunain yn ein clymu at ein gilydd; yr her at y dyfodol yw i barhau i adnewyddu ac ailfywiogi’r ffurfiau hyn ar fynegiant, a chyffroi ac ysbrydoli y cenedlaethau iau, tra’n parchu crefft cynheiliaid ein traddodiad.
Er mwyn gwneud hyn mae trac yn datblygu sîn cerdd a dawns Cymru drwy ennyn diddordeb, meithrin talent a chyflwyno’r goreuon o gerddorion gwerin Cymru ar draws y byd. Byddwch yn dod o hyd i trac yn gweithio mewn ysgolion, mewn lleoliadau cymunedol, ar gaeau Gwyliau ac mewn digwyddiadau arddangos ryngwladol, yn helpu sicrhau bod celfyddydau traddodiadol Cymru yn dal i gyfoethogi bywydau, ni waeth beth yw oedran, cefndir, hil neu iaith y bobl dan sylw.
Mae trac yn Elusen Gofrestredig; mae’r tîm o weithredwyr yn derbyn cymorth gan fwrdd o ymddiriedolwyr ymroddedig, sy’n frwd dros ddiwylliant gwerin ac yn arbenigwyr yn eu meysydd priodol eu hunain.
Sefydlwyd Trac (Traddodiadau Cerdd Cymru) ym 1997[1], ac mae'n fudiad sydd yn hyrwyddo traddodiadau gwerin Cymru. Maent yn cydweithio efo cymdeithasau gwerinol eraill, megis Clera a Chymdeithas Genedlaethol Dawns Werin Cymru, ag yn gyfrifol am bresenoldeb y Tŷ Gwerin ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, Yr Arbrawf Mawr, cyfres o weithai cerddorol, a digwyddiadauau eraill, yng Nghymru, Llundain[1] ac yr Unol Daleithiau[2]
CyfeiriadauGolygu
- ↑ 1.0 1.1 adolygiad Cyngor Celfyddyddau Cymru, 2013-14
- ↑ Tudalen newyddion ar wefan Trac, 25 Awst 2015