Thomas Ifor Rees

llysgennad
(Ailgyfeiriad o T. Ifor Rees)

Diplomydd, cyfieithydd ac awdur llyfrau taith oedd Thomas Ifor Rees (16 Chwefror 189011 Chwefror 1977), a anwyd yn Rhydypennau, Bow Street, ger Aberystwyth, Ceredigion, yn fab i'r cerddor John Thomas Rees a'i wraig Elizabeth Davies.[1]

Thomas Ifor Rees
Ganwyd16 Chwefror 1890, 1890 Edit this on Wikidata
Rhydypennau Edit this on Wikidata
Bu farw11 Chwefror 1977, 1977 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol Ardwyn Edit this on Wikidata
Galwedigaethdiplomydd Edit this on Wikidata
Swyddambassador of the United Kingdom to Bolivia Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Y Swyddfa Dramor Edit this on Wikidata
TadJohn Thomas Rees Edit this on Wikidata

Cafodd ei addysg yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth gan raddio yn 1910. Roedd yn was sifil a threuliodd nifer o flynyddoedd tramor yn cynnwys cyfnod fel llysgennad Prydain ym Molifia.

Daeth yn aelod o'r llu llysgenhadol yn 1913.

Bu iddo ymddeol yn 1950.

Gwaith llenyddol

golygu

Ysgrifennodd dri llyfr taith: In and Around the Valley of Mexico (1953), yn Saesneg, a Sajama (1960) ac Illimani (1964) am deithiau yn Ne America yn Gymraeg. Ystyrir y ddau lyfr olaf yn glasuron o lyfrau taith yn y Gymraeg. Maent yn cynnwys nifer o luniau a dynwyd gan yr awdur ei hun hefyd, sy'n eu gwneud yn gyfrolau deniadol.

Cyfieithodd nofelau gan René Bazin, Xavier de Maistre, J.R. Jiminez, C.F. Ramuz a Henri Troyat i'r Gymraeg, ynghyd â'r gerdd Elegy written in a Country Churchyard gan Thomas Gray a fersiwn Edward Fitzgerald o Rubaiyat Omar Khayyām.

Llyfryddiaeth

golygu
  • In and around the valley of Mexico (1953)
  • Sajama: teithiau or ddau gyfandir (Mécsico, Nicaragua, Peru, Bolivia) (1960)
  • Illimani yn nhiroedd y gorllewin : teithiau ac atgofion (1964)

Cyfeiriadau

golygu