Hunangofiant E. G. Millward yw Taith Rhyw Gymro a gyhoeddwyd yn 2015 gan Wasg Gomer. Man cyhoeddi: Llandysul, Cymru.[1]

Taith Rhyw Gymro
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurE. G. Millward
CyhoeddwrGwasg Gomer
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi14/12/2015
ArgaeleddAr gael
ISBN9781785620171

Hunangofiant yr academydd a'r gwleidydd Tedi Millward, arbenigwr ar lenyddiaeth Gymraeg Oes Victoria ac athro Cymraeg i'r Tywysog Charles. Ceir rhagair gan Jamie Bevan.

Ganed E.G. Millward yn 1930 yng Nghaerdydd. Bu'n byw am flynyddoedd ym Mhenrhyn-coch ger Aberystwyth. Bu farw yn 2020. Roedd yn ysgolhaig a beirniad llenyddol adnabyddus. Aeth i Goleg y Brifysgol, Caerdydd, a bu'n dal swyddi academaidd ym Mangor a'r Barri a'i benodi wedyn yn ddarlithydd yn y Brifysgol yng Ngholegau Abertawe ac Aberystwyth. Y 19g oedd prif faes ei ddiddordeb academaidd. Bu'n gynghorydd bro ac yn gadeirydd Cynghorau Bro a Thref Cymru a bu'n weithgar dros Blaid Cymru gan sefyll dros y Blaid yn sir Aberteifi yn etholiad cyffredinol 1966 ac yn sir Drefaldwyn yn 1970 ond ni chafodd ei ethol.

Roedd yn un o brif sylfaenwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn 1962. Yn 1966, fe'i hetholwyd yn Is-lywydd Plaid Cymru ond synnodd lawer pan ildiodd y rôl honno yn 1968. Wedi hynny ef oedd llefarydd y blaid ar bolisi dŵr ac roedd o blaid gweithredu uniongyrchol di-drais yn erbyn adeiladu cronfeydd dŵr newydd. Yn 1976 fe'i henllibiwyd gan William Hamilton a honnodd ei fod ynghlwm wrth weithgareddau terfysgol pan oedd yn tiwtora'r Tywysog Charles. Derbyniodd £1000 mewn setliad yn yr achos hwnnw.


Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan Gwales; adalwyd 1 Awst 2017