Tasker Watkins
bargyfreithiwr a barnwr
Roedd Syr Tasker Watkins VC GBE (18 Tachwedd 1918 – 9 Medi 2007)[1] yn un o farnwyr mwyaf amlwg y Deyrnas Unedig. Bu hefyd yn Lywydd Undeb Rygbi Cymru o 1993 tan 2004 cyfnod anodd pan newidiodd y gêm o fod yn gêm amaturaidd i fod yn broffesiynol. Cafodd ei eni yn Nelson, a chafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn Pontypridd. Gwasanaethodd gyfa anrhydedd yn y fyddin adeg yr Ail Ryfel Byd gan ennill Croes Victoria am ei ddewrder.
Tasker Watkins | |
---|---|
Ganwyd | 18 Tachwedd 1918 Nelson |
Bu farw | 9 Medi 2007 Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | barnwr |
Swydd | Arglwydd Ustus Apêl, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig |
Gwobr/au | Marchog Croes Fawr Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, Croes Fictoria, Marchog Faglor, Cymrawd Anrhydeddus Coleg Brenhinol y Llawfeddygon |
Ym 1969 Watkins oedd y prif erlynydd yn yr achos yn erbyn aelodau Byddin Rhyddid Cymru (FWA) [2]
Yn dilyn cwymp yn ei gartref yn Llandaf yn Awst 2007 aed ag ef i Ysbyty Prifysgol Cymru, Caerdydd, a bu farw yno ar 9 Medi 2007.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Stephens, Meic (10 Medi 2007). Obituary: Sir Tasker Watkins VC. The Independent. Adalwyd ar 15 Awst 2013.
- ↑ Charges against alleged Free Wales Army members. Times [London, England] 7 Mar. 1969: 4. The Times Digital Archive. Adalwyd 28 Mawrth, 2016. [1]