Teigiwg ach Ynyr
Cyfeirir ar Teigiwg fel Santes o'r 6g.
Teigiwg ach Ynyr | |
---|---|
Ganwyd | Teyrnas Gwent |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Tad | Ynyr Gwent |
Roedd Teigiwg yn ferch i Madryn ac Ynyr Gwent. Syrthiodd Teigiwg mewn cariad gyda saer ifanc a daeth o Aberffraw i Gaerwent i weithio ar blasdy yno. Pan aeth y saer yn ôl i Aberffraw aeth Teigiwg gydag ef gyda'i gwaddol o geffylau, aur ac arian. Nid oedd y saer yn caru Teigiwg a gadawodd hi mewn ardal unig ar y ffordd. Daeth bugeiliaid o hyd iddi a'i ymgeleddu. Pan clywodd ei theulu yng Nghaerwent aeth Iddon, ei brawd, i chwilio amdani. Pan daeth o hyd iddi, penderfynnodd hithau ymgartrefu mewn llan ger Trawsfynydd yn hytrach na dychweled gydag ef i Gaerwent. Aeth Iddon i Lys Aberffraw i hawlio y ceffylau, aur ac arian yn ôl gan y saer. Bu pennaeth Aberffraw yn anfodlon cynorthwyo ar y dechrau ond llwyddodd sant leol ei darbwyllo i newid ei feddwl.[1]
Amrywiaethau
golyguMae nifer o amrywiaethau i'r hanes hwn. Mewn un ohonynt llofruddwyd Teigiwg gan y saer ond llwyddodd sant dienw ei adfywio hi. Mewn un arall, torrodd Iddon pen y saer i ffwrdd ond llwyddodd sant dienw a'i osod yn ôl. Weithiau mae enw Beuno yn cymryd lle y sant dienw ond nid oedd Teigiwg a Beuno yn cyfoesi.[2]