Teigr ôl-adain goch

Callimorpha dominula
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Arctiidae
Genws: Callimorpha
Rhywogaeth: C. dominula
Enw deuenwol
Callimorpha dominula
(Linnaeus, 1758)
Cyfystyron

Panaxia dominula

Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw teigr ôl-adain goch, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy teigrod ôl-adain goch; yr enw Saesneg yw Scarlet Tiger, a'r enw gwyddonol yw Callimorpha dominula.[1] Yng ngwarchodfa Cothill, Rhydychen, mae'r gwyfyn hwn wedi'i astudio'n fanwl o safbwynt geneteg. Fe'i ceir drwy Ewrop, Twrci a Gogledd Iran.

Mae'r oedolyn yn hedfan yn ystod y dydd.

Symphytum officinale ydy prif fwyd y siani flewog.

Cyffredinol golygu

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r teigr ôl-adain goch yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Ecoleg golygu

Mae lliwiau llachar y gwyfyn hwn yn rhybudd i reibwyr o bresenoldeb neurotocsinau yn y corff aposematiaeth. Fodd bynnag nid yw rhybuddion o'r fath yn gweithio yn y tywyllwch ac i amddiffyn eu hunain yn erbyn ystlumod liw nos mae gan y gwyfyn ddull acwsteg o ddrysu a chloi uwchseinedd yr ystlum wrth iddo fforio.[1]

Gweler hefyd golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau golygu

  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.