Teyrnon Twrf Liant

(Ailgyfeiriad o Teyrnon Twrf Fliant)

Cymeriad yn chwedl Pwyll Pendefig Dyfed, y gyntaf o Bedair Cainc y Mabinogi, yw Teyrnon Twrf Liant neu Teyrnon Twrf Fliant neu Teyrnon (ffurf amgen Cymraeg Canol Teirnon).

Teyrnon yn gweld y Grafanc yn ceisio dwyn yr ebol

Yn y chwedl mae Teyrnon yn arglwydd ar Went Is Coed, yn ne-ddwyrain Cymru. Daw ei enw o'r gwreiddyn teyrn (Brythoneg tigernonos "Y Teyrn Mawr", efallai fel cymar i'r dduwies Rigantona "Y Frenhines Fawr", sef Rhiannon yn Gymraeg Canol). Ceir Nant Teyrnon tua 2 filltir o Gaerleon lle codwyd Abaty Llantarnam. Ystyr yr epithet Twrf [F]liant yw "twrw mawr", yn ôl pob tebyg.[1]

Pob Calan Mai mae rhwy anghenfil ryfeddol yn dod i lys Teyrnon a'i wraig a dwyn ebol caseg arbennig Teyrnon. Mae Teyrnon yn penderfynu datrys y dirgelwch. Ar Nos Calan Mai mae'n aros ar ei draed yn y stablau a gweld braich a chrafanc ofnadwy yn ymestyn trwy'r ffenestr am yr ebol. Tynna Teyrnon ei gleddyf a thorri'r grafanc. Ceir twrw mawr tu allan a rhed Teyrnon i weld beth a'i achosodd. Yno mae'n darganfod baban mewn gwisg o sidan yn gorwedd ar y llawr. Aiff ag ef i'r neuadd a'i ddangos i'w wraig ac mae hi'n rhoi iddo'r enw Gwri Gwallt Euryn. Mae Gwri yn tyfu i fyny i fod yn fachgen ifanc rhyfeddol o gryf a galluog. Rhoddir iddo'r ebol, sy'n farch erbyn hynny, a achubwyd rhag y grafanc.

Yna mae Teyrnon a'i wraig yn clywed am golled Rhiannon, gwraig Pwyll, sydd wedi cael ei chyhuddo o ladd a bwyta ei fab ei hun ac sy'n gwneud penyd am hynny. Penderfynant fynd â'r bachgen i ddangos i Bwyll a Rhiannon gan feddwl efallai mai ef yw'r baban a gollwyd. Teithiant i lys Pwyll yn Arberth yn Nyfed. Pan wêl Pwyll a Rhiannon y bachgen maent yn ei adnabod ar unwaith. Mae Rhiannon mor falch o'i weld - ac felly profi ei bod yn ddieuog yn ogystal â chael ei fab yn ôl - fel ei bod yn ebychu, "Y rhof i a Duw, oedd esgor fy mhryder im, pei gwir hynny" ("Yn wir, diflannodd fy mhryder i os gwir hynny").[2] Ac felly caiff y bachgen ei enw newydd, Pryderi.

Cyfeiriadau golygu

  1. Ifor Williams (gol.), Pedeir Keinc y Mabinogi (Caerdydd, 1930; arg. newydd 1989), tt. 146-147.
  2. Pedeir Keinc y Mabinogi, tud. 26.

Gweler hefyd golygu