The Avengers (cyfres deledu)

Cyfres deledu Saesneg am ysbïwyr yn y Deyrnas Unedig yn ystod y 1960au oedd The Avengers. Cynhyrchwyd y rhaglenni gan y cwmni teledu "ABC Weekend Television" (o Orffennaf 1968 cafodd y gyfres ei chynhyrchu gan Thames Television). Crëwyd y gyfres gan y Pennaeth Drama Sydney Newman. Mae'r gyfres yn nodweddiadol o'r genre "spy-fi", a oedd yn cyfuno llinnynau storïol am ysbïwyr ac yn eu plethu gydag elfennau gwyddonias a ffantasi. Rhedodd y gyfres o 1961 tan 1969, gan ei gwneud y gyfres ysbïol i redeg hiraf ar deledu Saesneg, er fod gan y gyfres Americanaidd fwy o raglenni.

The Avengers
Genre Ysbïol / Ffantasi
Serennu Patrick Macnee
Ian Hendry
Honor Blackman
Diana Rigg
Linda Thorson
Gwlad/gwladwriaeth Deyrnas Unedig
Iaith/ieithoedd Saesneg
Nifer cyfresi 6
Nifer penodau 161
Cynhyrchiad
Amser rhedeg 50 munud
Darllediad
Sianel wreiddiol ITV/ABC/Thames Television
Darllediad gwreiddiol 19611969

Yn ddiweddarach, ymddangosodd tri o ser y gyfres mewn ffilmiau Bond: Honor Blackman (Goldfinger), Diana Rigg (On Her Majesty's Secret Service), a Patrick Macnee (A View to a Kill).